HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhaglen Awst i Rhagfyr 2013

Dyddiad
2013
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Iau
Awst
8
9.30  

Wrth prif fynedfa Maes yr Eisteddfod.
Bydd cludiant wedi'i drefnu (tâl bychan) i fynd â'r cerddwyr i fan cychwyn y daith ger Llangwyfan.

Bryniau a cheiri Clwyd    Moelydd Arthur, Llys-y-coed, Dywyll, Famau a'r Fenlli ac i lawr i dref Rhuthun ar hyd llwybrau cyhoeddus.
Peint neu baned a dal bws gwasnaeth yn ôl i faes yr Eisteddfod.
tua  16 km / 10 milltir
gyda tua 820m / 2700’ o ddringo

Richard Roberts

Sadwrn
Awst
17
10.00  

i ddal bws am 10.20

Safle bws "M" y tu allan i Iard yr Orsaf Conwy, ar gyfer Bws 17 am 10:20 i Rowen

Tal y Fan
ac ar hyd y gweundir i Ben Sychnant a thros Mynydd y Dre yn ôl i Gonwy.

Cyfle wedyn i fwynhau plesurau tafarn Art Nouveau Yr Albion yng nghanol y dref
tua 15 km / 10 milltir
gyda tua 620m / 2030’ o ddringo

Clive James

Sadwrn
Awst
31
9.15 9.30

Maes parcio
Minffordd
CG: SH 731 115

Cader Idris
Cwm Amarch - Mynydd Pen-coed - Craig Cau - Pen-y-Gader - Mynydd Moel
tua 12 km / 8 milltir a tua 800m / 2600’ o ddringo

Eryl Owain

Sadwrn
Medi
14
9.15 9.30

Uwchben y Fferm Bysgod yn Llanddeusant
CG: 798 239

Ardal Llanddeusant
ymweld â tharddiad afon Wysg ac olion awyren Lancaster.
Cyfle i ymestyn neu leihau’r daith.
Tua 11 milltir.

Guto Evans

Sadwrn
Medi
14

8.45 9.00

Maes parcio Pen-y-pas

(neu ychydig i’r gogledd o Ben y Gwryd [SH 661 559]am 8.15 – parcio di-dâl!)

Bylchau’r Wyddfa
Taith Sadwrn, Medi 14eg – Bylchau'r Wyddfa        
Taith hir o amgylch Yr Wyddfa, gan ddilyn llwybr y Pyg i Fwlch y Moch, o amgylch crib ogleddol y Grib Goch i mewn i Gwm Glas, heibio gwaelod Clogwyn y Person a dringo i fyny'r ysgwydd at Clogwyn Coch. Lawr i Gwm Du'r Arddu at Fwlch Cwm Brwynog, croesi Cwm Clogwyn ac i fyny at Bwlch Main, un ai mynd lawr i Fwlch Cwm Llan a dilyn y Watkin i Fwlch y Saethau ac i lawr
y Gribin neu … cawn weld … efallai gwneud y daith hefo'r cloc!
Mi fydd yn ddiwrnod hir a blinedig!

Maldwyn Peris Roberts

Mercher
Medi
18
9.45 10.00 Maes parcio ym mhen dwyreiniol Talysarn
CG: SH 489 529
Crwydro llwybrau Dyffryn Nantlle
Ail-bobiad o daith wnaethom bum mlynedd yn ôl yw hon.  Y tro hwnnw cawsom gip ar winllan Pant Du ac aeth Iola â ni o gwmpas yr hen dŷ.  Erbyn hyn mae caffi ym Mhant Du - i'r dim erbyn amser cinio.  I gael golwg beth sydd ar y fwydlen ewch i'r wefan  www.pantdu.co.ukac os am sicrhau na fydd raid i chi aros am eich cinio rhowch wybod i Iola beth yw eich dewis ar yr e-bost post@pantdu.co.uk.
Anet. 
Penwythnos
Medi
27-29
9.00  

 

Ardal y Llynnoedd
Aros yn Ambleside Backpackers Hostel, Ambleside - £40 am ddwy noson, gan gynnwys brecwast ysgafn. 

Cysyllter ag:
Eryl Owain

Sadwrn
Hydref
12
9.10  

i ddal y bys Sherpa 9.25am
i Rhyd-ddu

(efallai bydd hyn yn newid os bydd amserlen y bysus wedi newid erbyn hynny)
Maes parcio Beddgelert
CG:  SH 587483

Moel Lefn, Moel yr Ogof a Moel Hebog
Tua 10km / 6milltir
a tua 800metr / 2600’ o ddringo

Elen Huws

Sadwrn
Hydref
12
9.15 9.30

Maes parcio ar ochr Orllewinol
o Gronfa Ddwr Caban Coch
ychydig yn bellach na
Chanolfan Dyffryn Elan
CG: SN 902 617

Drygarn Fawr
Taith gylch gan alw heibio i fynydd uchaf yr ardal
Tua 12 milltir

Emlyn Penny Jones
Mercher
Hydref
16
10.00 10.15 Ar yr A494 yn ymyl
Pont Rhyd Ddu, Rhydymain
CG: SH 797 214.
Foel Ddu a’r Cyffiniau
Craig a Chyfyng y Benglog

Tir agored mewn ardal eithaf anghyfarwydd.

Oherwydd y tywydd anffafriol, gohiriwyd y daith hon tan Mawrth 13eg 2014.

GWELER ISOD

Sadwrn
Hydref
19
9.15 9.30

Maes pebyll Gwern y Gof Isaf
CG: SH 686 602

Dringo ar Graig yr Ysfa
bydd y diwrnod yn addas i ddechreuwyr – cysylltwch â John fel y gall gael  offer ar eich cyfer os ydych yn fyr o gêr.

Hefyd
taith gerdded o’r un man
cychwyn:
Pedol  de’r Carneddau
Pen Llithrig y Wrach – Pen yr Helgi Du  – Carnedd Llywelyn – Carnedd Dafydd – Pen yr Ole Wen – Ffynnon Lloer ac i lawr i Glan Dena.  Taith hir gyda pheth sgramblo hawdd.
tua 18km / 11 milltir
a tua 1150m / 3300’ o ddringo

John Parry

 

Mark Williams

Sadwrn
Hydref
26
9.15 9.30

Parcio ar ochr y ffordd gefn i'r gogledd o Lyn Arenig Fawr
CG: SH 845 395

Arenig Fawr
Posibilrwydd o gerdded Moel Llyfnant hefyd
– yn dibynnu ar y tywydd a’r awydd!

Iolo Roberts

Sadwrn
Hydref
26
10.00  

Ger Llyn Dubach
oddi ar y B4407
CG: SH 745 424

Dringo – Carreg y Foel Gron
Sesiwn flasu
felly’n addas i bawb

Arwel Roberts

Sadwrn
Hydref
26
18.00  

Plas yn Dre
Y Bala

Cyfarfod Blynyddol
a
Chinio Blynyddol

Iolo Roberts

Sadwrn
Tachwedd
2

 

  Arosfan 100 llath cyn mynedfa i faes carafanau Abermarlais
CG: 695 293

Taith yn ardal Llansadwrn
Taith hanesyddol
tua 9 milltir.

Alun Voyle

Sadwrn
Tachwedd
9

9.15 9.30

Maes parcio
pen uchaf bwlch Tal y Llyn
ar ochr yr A487
CG: SH 753 136

Crib Maesglasau
Mynydd Ceiswyn, Waun Oer, Cribyn Fawr, Maesglasau i Ddinas Mawddwy - gorffen yn y Llew Coch

Tua 14km / 9 milltir
a tua 630m / 2100’ o ddringo

Rhys Dafis

**Angen trefnu ceir
felly rhaid cysylltu
erbyn 7 Tachwedd (nos Iau)

Mercher
Tachwedd
13
9.45 10.00 Maes parcio Capel Salem
CG: SH 789 506
Penmachno a Chwm Eidda
Tros yr Hwylfa a heibio'r Garreg Adnod i Gwm Eidda, cerdded i fyny'r cwm ac yn ôl dros Pen Llech a heibio Hafod Dwyryd - tua 8 milltir o gerdded hamddenol.
Eryl Owain
Sadwrn
Tachwedd
23
9.15 9.30

Maes parcio
CG: SH 581 599

Moelydd  yr Wyddfa
Llanberis i Fwlch y Groes, Moel Eilio,
Foel Gron, Foel Goch
a Moel Cynghorion

George Jones
Sadwrn
Rhagfyr
7
      Taith yn Ardal Crughywel
Mwy o wybodaeth i ddilyn
Richard Mitchley


Cysylltwch â Richard os am ymuno.
Mercher
Rhagfyr
11
9.45 10.00

Maes parcio Porth Penrhyn
wrth ymyl y lôn feics.
CG: SH 592 727

Cylch Craig Canu Ogwen
Tua 8 milltir.

Panad wedyn - yn y Tŷ Golchi o bosib!

Gwen Richards
a
Gwen Aaron
2014          
Penwythnos
Ionawr
3-5
      Penwythnos Canolfan Rhyd-Ddu  
Mercher
Ionawr
8
9.30 9.45 Maes parcio’r pwerdy niwcliar

Ardal Maentwrog
Heibio’r pwerdy ac i lawr trwy’r coed i Fryntirion, dilyn y ffordd werdd wedyn tuag at afon Prysor.  Dilyn yr afon i lawr at bwerdy Maentwrog ac yn ôl i fyny ochr arall Ceunant Llennyrch at yr argae.  Eithaf cysgodol; tro iawn i'r gaeaf, pan nad oes dail ar y coed.  Tua 12 km, 4 awr o gerdded.  Paned neu beint yn yr Oakeley Arms wedyn.

Raymond
Mercher
Chwefror
12
10.00 10.15

Ym mhentref Rowen
CG: SH 760 720

Rowen
Taith drwy ardal yn llawn o henebion diddorol
Arwel
Chwefror
22 i
Mawrth
1
   

 

Rhaghysbysiad
Taith yr Alban
Braemar Lodge, Braemar 

 

Mercher
Mawrth
13
10.00 10.15 Ar yr A494 yn ymyl
Pont Rhyd Ddu, Rhydymain
CG: SH 797 214.
Foel Ddu a’r Cyffiniau
Craig a Chyfyng y Benglog

Tir agored mewn ardal eithaf anghyfarwydd.

John Williams
Mercher
Ebrill
16
9.45   Ger Neuadd yr Eglwys, Llanbedrog,
CG: SH 3294 3164

Gellir parcio a thalu un ai ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth neu ym Mhlas Glyn-y-Weddw ond mae digon o le yr adeg yma o'r flwyddyn ar yr allt sy’n arwain o dafarn Glyn-y-Weddw i lawr at neuadd yr eglwys.

Cyffiniau Llanbedrog
Taith o tua 10 milltir i ben Mynydd Tir Cwmwd, golygfa fendigedig o Eryri a thros Fae Ceredigion ar ddiwrnod braf. I lawr at y ddelw a thrwy lwybrau'r Plas i draeth Llanbedrog. Dilyn Llwybr yr Arfordir i faes golff Pwllheli, troi am Benrhos a dilyn yr un llwybr â'r tri daniodd "y tân yn Llŷn" i Rydyclafdy, yna llwybr difyr heibio Melin Cefn Llanfair, trwy Goed y Wern ac at fedd Gwenogfryn ac yn ôl i Lanbedrog.

Paned ar y diwedd yng nghaffi'r Plas.

Gwenan
Mercher
Mai
14
9.45 10.00

Wrth y bont yng Ngharrog
CG: SJ 115 436

Sut i gyrraedd Carrog o’r A5:
Troi i lawr yn Llidiart-y-Parc
(i’r chwith wrth deithio o’r
gorllewin a rhwng Corwen a Glyndyfrdwy).
Parcio ar lan yr afon Ddyfrdwy
cyn croesi’r bont.

Moel Morfudd a Moel y Gaer
Taith ffigwr wyth o bentref Carrog gan ddringo’n serth i gopa Moel Morfudd a Moel y Gaer.
9 milltir

Gwen Evans
Mercher
Mehefin
18
      Taith cwch o Borth Meudwy (lle i 11)
neu
lle i fwy groesi i Ynys Enlli? I'w benderfynu
 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870534, Arwel Roberts ar 01492 514424 neu Anita Daimond ar 01492 600414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php