{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Gyfredol Clwb Mynydda Cymru

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar y daith

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Mae arweinyddion yn cadw’r hawl i newid dyddiadau teithiau o’r dydd Sadwrn i ddydd Sul a vice versa, weithiau oherwydd y tywydd neu amodau/digwyddiadau eraill. Byddan nhw hefyd angen gwybod rhif ffôn ac enw cyswllt mewn argyfwng. Gwahoddir y rhai sydd am ymuno â’r teithiau rannu gwybodaeth, yn gyfrinachol, gyda’r arweinydd am unrhyw gyflwr meddygol os y bydd hynny o help iddyn nhw mewn argyfwng yn ystod y daith.

Mae’r Clwb yn graddio teithiau i adlewyrchu natur eu her. Bydd yr eicon a fydd yn cyd-fynd â lefel yr her yn ymddangos gyda disgrifiad pob taith (drwy clicio/cyffwrdd yr eicon gallwch weld y graddfeydd yn llawn). Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.

Mae croeso i unigolion nad ydynt yn aelodau i ymuno ag un o deithiau’r Clwb er mwyn ‘blasu’r’ profiad. Fodd bynnag, aelodau’n unig a gaiff ymuno â theithiau sydd wedi’u graddio’n ddu.

Mae amodau gaeafol yn cynyddu’r her wrth fynydda, e.e. mae taith a roddir gradd gwyrdd iddi yn yr haf yn gallu haeddu du yn y gaeaf. Mae’r Clwb yn disgwyl i aelodau sy’n ymuno â theithiau mewn amodau gaeafol gario’r offer priodol, e.e. caib rhew, pigau bach/mawr, lamp pen ynghyd â’r gallu i’w defnyddio.

Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.


Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'

Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA. Llyfryn cyfarwyddid llawn ar gyfer y diffib ar gael YMA.




Sadwrn 16 Awst (neu, o bosib, 23ain)
Dyffryn a Chreigiau Aberedw
9.15

Maes parcio Canolfan Grefftau Yr Hen Orsaf, Erwyd. CG SO 089439. Map Explorer 188.Maes parcio am ddim a tai bach yn Yr Hen Orsaf.

Dechrau yn y maes parcio. Codi i greigiau Aberedw, galw heibio i Ogof Llywelyn, dilyn glannau Afon Gwy a dringo i Twyn y Garth.

Tua 10 milltir.
Gradd 2
Rhun C Jones
07976 599607 .rhuncjones@gmail.com


Sul 17 Awst
Cylch Bach Corris
07.00
Maes Parcio Cyfoeth Naturiol Cymru, ar y ffordd i Aberllefenni – SH 76877 09240.

Cychwyn o faes parcio Minffordd ac ymlaen am Gadair Idris, Mynydd Moel, Gau Graig. Croesi’r ffordd fawr ger Bwlch Llyn Bach a cherdded dros Fynydd Ceiswyn, Waun Oer ac i lawr i Aberllefenni.

Rhan helaeth o ail hanner her y 'Corris Round' ydi hon (felly 'Cylch Bach Corris'). The Corris Round - Adventure Film by Filmuphigh Rob Johnson

24 km/15 milltir ac esgyniad o 1,800 metr/5,900 o droedfeddi, tua 9 awr.
Gradd 5
Manon Davies
    07967 367133     manonwynnedavies@yahoo.com
** Rhaid hysbysu'r arweinydd erbyn nos Iau, 13 Awst os am gymryd rhan yn y daith gan y bydd angen trefnu gadael ceir yn Aberllefenni.


Mercher 20 Awst
Diwrnod ar Ynys Enlli

Maes parcio Porth Meudwy, ger fferm Cwrt, Aberdaron. Cwch yn cychwyn am 11.30 y bore. RHAID gadael digon o amser, o leiaf hanner awr, i gerdded i’r traeth i ddal y cwch mewn da bryd ar ôl parcio’r ceir.

Oedolion £50, o dan 16 £25.
Cwch o Borth Meudwy, taith dywys o amgylch yr ynys. Dilyn y lôn o’r Cafn, heibio’r odyn, yr ysgol a’r wylfa adar hyd at Gapel Enlli a Thŵr yr Abaty. Oddi yma un ai dringo’r mynydd neu ddilyn yr arfordir. Cyfle i weld traeth Porth Solfach a’r goleudy ar y ffordd yn ôl.

Tirwedd: Dringo i mewn ac allan o’r cwch, dilyn lôn/trac, yna llwybr dros y mynydd neu ar hyd yr arfordir.

Haf Meredydd 07483 857716 / 01766 780541 hmeredydd21@gmail.com

PWYSIG: Enwau i Haf cyn gynted â phosib ar e-bost – dyddiad olaf i dderbyn enwau - 14/8.  Bydd Haf yn aros yn Enlli yr wythnos honno. Rhaid ffonio Colin y cychwr y noson gynt ar 07971 769895 i gadarnhau bod y cwch yn croesi. Dewch â digon o fwyd a diod, eli haul a dillad glaw.
Os byddwch wedi archebu lle ac yn methu mynd ar y funud olaf, RHAID gadael i Colin wybod ar y rhif uchod fel ei fod yn gallu llenwi’r lle gwag.


Sadwrn 23 Awst
Crib Maesglase a Mynydd Ceiswyn
09.15 09.30
Maes parcio Dinas Mawddwy - SH 858149.

Gan godi'n serth o Ddinas Mawddwy, dilynwn grib nadreddog Maesglase draw am Waun Oer a Mynydd Ceiswyn i Fwlch Llyn Bach (Bwlch Tal-y-llyn), gan obeithio cael golygfeydd da draw am Gadair Idris i'r gorllewin. Tir mynyddig agored ar y cyfan, sy'n gallu bod yn wlyb a chorsiog mewn mannau, gydag ambell glip serth.

Tua 16 km / 9.5 milltir ac esgyniad o 1,170 m/3,830' o droedfeddi.
Petai'r tywydd yn anffafriol, gellir terfynu'r daith ym Mwlch yr Oerddrws.
Gradd 4
Elen Huws
   07815104775. Cysylltu efo WhatsApp fyddai orau er mwyn gallu creu grŵp i rannu a threfnu ceir ar ddiwedd y daith.
** Rhaid hysbysu'r arweinydd erbyn nos Iau, 21 Awst os am gymryd rhan yn y daith gan y bydd angen trefnu gadael ceir ym Mwlch Llyn Bach.


Sadwrn 30 Awst
Y Carneddau o Lyn Ogwen
09.00 09.15
Y llain parcio hir ochr Capel Curig i Lyn Ogwen - SH 668 605.

Dilyn yr afon i Gwm Lloer cyn sgrialu hawdd iawn i ganfod y llwybr sy’n arwain at gopa Pen yr Ole Wen. Dilyn y grib i gopa Carnedd Dafydd, mynd ar hyd Cefn Ysgolion Duon a chroesi Bwlch y Cyfryw Drum cyn dringo i gopa Carnedd Llywelyn. Ymlaen at Graig yr Ysfa a disgyn i Fwlch Eryl Farchog. I fyny talcen gorllewinol Pen yr Helgi Ddu a cherdded i lawr at yr A5 ar hyd y Braich. Croesi’r A5 a cherdded yn ôl at y ceir ar hyd Lôn y Lord.

16 km/10 milltir ac esgyniad o 1,104 m/3,622 o droedfeddi
Gradd 4
Richard Roberts  
07738 856174   llanrug1956@gmail.com


Sadwrn 6 Medi
Pedol Stiniog
6.15 6.30
Canol Tref Ffestiniog, ger y pistyll, o flaen Gwesty’r Queens. Maes Parcio Cyngor Gwynedd, canol y dref, neu digon o lefydd eraill cyfagos.

Gan gychwyn o ganol y dref, cerdded at Ddolrhedyn, yna i fyny ffordd Stwlan, a dringo i gopa Moelwyn Bach, yna dros weddill y Moelwynion cyn disgyn lawr i chwarel Rhosydd. Anelu am Lyn yr Adar a thros gopaon Ysgafell Wen, Moel Druman ac Allt Fawr ac yna disgyn i Fwlch y Gorddinan. Fyny am gopaon Moel Farlwyd a Phenamnen ac ymlaen dros Foel Fras a chroesi dros Chwarel Cwt y Bugail at gopa‘r Graig Ddu, a’r copa olaf, sef Manod Mawr. I lawr heibio chwarel Llyn Dŵr Oer (gallwn ychwanegu copa Manod Bach pe dymunir!), ac yna yn ôl i’r dref. Diwrnod llawn o gerdded go galed! Cofiwch pen-dorch, rhag ofn!

Tua 35 km/22 milltir o gerdded, gydag esgyniad o dros 1,737 m/5,700 o droedfeddi.
Peint yn y Cwîns i ddarfod, os cyrhaeddwn cyn stop tap!
Gradd 5
Erwyn Jones   07717287915    erwynj@aol.com


7-9 Medi
Taith tridiau dros y Mynyddoedd Duon

Diwrnod 1:
Sul 7 Medi  
Felindre i Gwmdu
26 km/13.5 milltir ac esgyniad o 950 m/3,117 0 droedfeddi – tua 9 awr.
Cwrdd am 08.00 ym maes parcio Neuadd y Pentref, Felindre, LD3 0ST (gadael ceir yma).
Bydd angen lluniaeth am y dydd.
Gwersylla ym maes gwersylla Cwmdu (£11 yr un).
Swper yn nhafarn y Farmers (tafarn draddodiadol gymunedol).

Diwrnod 2: Llun  8 Medi
Cwmdu i Llanthony
25 km/13 milltir ac esgyniad o 1,210 m/3,970 o droedfeddi - tua 8.5 awr.
Dechrau am 08.00.
Bydd angen lluniaeth am y dydd.
Gwersylla ym maes gwersylla yr Half Moon Hotel (£5 y pen).
Swper yn yr Half Moon Hotel (tafarn wledig).

Diwrnod 3: Mawrth 9 Medi
Llanthony i Felindre.
26 km/13.5 milltir ac esgyniad o 1,100 m/3,600 o droedfeddi - tua 9 awr.
Dechrau am 08.00.
Bydd angen lluniaeth am y dydd.
Cerdded i Felindre ac yn ôl i'r ceir.
Swper yn yr Harp Inn, Y Clas-ar-Wy (Glasbury), HR3 5NR, 2.5 milltir yn y car.

Cysylltwch â Simeon cyn 24 Awst os oes gennych ddiddordeb gan ei fod angen cadarnhau trefniadau gwersylla, swpera, lluniaeth ac ati.
Gradd 4
Simeon Jones  07463 407 526    slldjones@gmail.com


Sadwrn/Sul 13/14 Medi
Gwersylla ar y Carneddau
09.10
Maes parcio Pant Dreiniog, Bethesda - SH 622 668 - erbyn 9:10 i ddal y bws 9:25 i Gapel Curig.

Cychwyn ar hyd ffordd yr A5 cyn mynd am Lyn Cowlyd ac i gopa Pen Llithrig y Wrach. Ymlaen wedyn dros gopa Pen yr Helgi Du a pheth sgrialu hawdd am gopa Carnedd Llywelyn. O’r copa, cychwyn i gyfeiriad Foel Grach cyn disgyn i lannau Ffynnon Llyffant i wersylla. Mae’r diwrnod cyntaf yn 10.5 km/6.5 milltir, 1,128 metr/3,700 troedfedd o esgyn a thua 7-8 awr.

Bore dydd Sul ar ôl codi pac, yn ôl i fyny am Foel Grach cyn mynd ymlaen am Fethesda dros gopaon Carnedd Gwenllian, Yr Aryg, Bera Bach, Drosgl, Gyrn a Moel Faban. Mae’r ail ddiwrnod yn 11 km/ 7 milltir, 335 m/1,100 troedfedd o esgyn a thua 5-6 awr.

Os oes ‘na aelodau’n awyddus i ddod ar y daith ddydd Sadwrn ond ddim awydd gwersylla mi allant ein gadael ar gopa Carnedd Llywelyn a mynd ymlaen dros yr Elen a disgyn yn ôl i Fethesda. Mae’r daith yma yn 17 km/10.5 milltir, 1,219 m/4,000 troedfedd o esgyn a thua 9-10 awr.
Gradd 5
Dwynwen Pennant     07720057068 Text/WhatsApp/Ffôn.


Sadwrn 13 Medi
Cylchdaith Fan Gyhirych
09.15
Maes parcio wrth Gronfa Ddŵr Crai -  SN 888 211 - ar yr A4067 o bentref Crai.

Bwlch y Duwynt, Fan Nedd, Fan Fraith a Fan Gyhirych.

Taith o tua 14.5 km/9 milltir a 686 m o esgyniad.
Gradd 3
Madog Davies    07931 302272     madogdavies@icloud.com


Mercher 17 Medi
Llwybr Ann Griffiths
10.45 11.00
Maes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru yn Pont Llogel - SJ032 154 - digon o le yno.

Dilyn yr afon Efyrnwy i lawr i Ddolanog.  Bydd cyfle i ymweld â Chapel Coffa Ann Griffiths yno a chael tipyn o’i hanes yn cynnwys y bygythiad a fu yn yr 1950au i foddi'r pentref. Yna cerdded dros Allt Dolanog ac wedyn ymweld â chartref Ann Griffiths, Dolwar Fach lle bydd y perchenogion presennol yn adrodd tipyn o’r hanes. Yna dilyn y llwybr ymlaen mewn cylch yn ôl i Pont Llogel.

Mae’r cyfan yn rhan o Lwybr Glyndŵr a Llwybr Ann Griffiths.

Tua 11 km/6.5 milltir,  tua 5 awr i gyd.

Mae siop fach yn Pont Llogel, lle gellir cael coffi/te cyn y daith pe dymunir! – neu gaffi ‘Banwy Badger’ yn Llangadfan. Gellir cael bwyd ar ôl y daith yng Ngwesty’r Cann Office yn Llangadfan os bydd awydd hynny ar y cerddwyr.

Cysylltwch â Huw erbyn nos Lun, 15 Medi, os gwelwch yn dda.
Gradd 1
Huw Jones   07974 795778


Sadwrn 20 Medi
Taith flasu - Cadair Idris
09.30 09.45
Maes Parcio Llwybr Minffordd - SH731116. Gellir cyrraedd yno ar yr A487. Bydd angen talu am barcio.

Dyma gyfle i roi cynnig ar un o weithgareddau Clwb Mynydda Cymru cyn penderfynu ymaelodi ai peidio. Mae’r daith hon yn cynnwys cyrraedd copaon Mynydd Moel, Penygader, Craig Cau a Chraig Cwm Amarch. Mae’n daith werth chweil yn ne Eryri sy'n cynnig golygfeydd godidog. Bydd y llwybr hwn yn dilyn Llwybr Minffordd ac yn dringo Mynydd Moel ac yna ymlaen i Benygader sef copa Cader Idris. Mae'r llwybr cylchol hwn yn fwy garw a heriol na Llwybr Pilin Pwn sydd ochr arall i’r mynydd, ond mae'r golygfeydd o'r clogwyni i Lyn Cau yn fendigedig (os yw hi’n glir!).

Mae'r llwybr yn dringo'n serth i ddechrau gyda rhannau o risiau cerrig. Byddwn yn dilyn llwybr da ond serth i fyny at gopa Mynydd Moel. O Fynydd Moel, mae'r llwybr yn parhau ar hyd y grib i brif gopa Cader Idris, Penygader (893 m). Byddwn yn dychwelyd uwchben Cwm Cau i ailymuno â'r llwybr (Minffordd) a ddefnyddiwyd i ddringo Mynydd Moel ar y cychwyn.

Mi fydd yna rhai dringfeydd a disgyniadau heriol, yn enwedig ar y ddringfa gychwynnol i fyny Mynydd Moel. Mae'r llwybr yn greigiog a gall fod yn anwastad mewn mannau, yn enwedig ar y ddringfa i Fynydd Moel. Mae copa Cader Idris yn cynnig golygfeydd 360 gradd syfrdanol, gan gynnwys Môr yr Iwerydd a'r mynyddoedd cyfagos. Mae'r daith yn cynnwys coetir, llwybrau creigiog, rhostir agored ac ymylon clogwyni dramatig.

Cysylltwch â’r arweinydd i gadarnhau lle. Byddan ni angen enw a rhif ffôn argyfwng ar gyfer pawb a fydd yn ymuno â’r daith.

Taith o tua 11 km/6.8 milltir gyda 1,184 m/3,104 troedfedd o ddringo.
Gradd 3
Steven Williams   07772546820  ffôn/WhatsApp/tecst   llechid230271@gmail.com


Sadwrn 27 Medi
Taith gylch ar y Mynydd Du
09.15  09.30
Maes parcio Heol y Mynydd ar yr A4069 - SN 733 187.

Moel Gornach (616 m), Foel Fraith (602 m) i lawr Cwm Sawdde Fechan heibio i Neuadd Fach, llwybrau a heolydd tawel, Corn Pen-y-Clogau. Tir corsiog, gwlyb a dim llwybrau clir mewn mannau.

Tua 11 milltir
Gradd 2
Digby Bevan     07870 663574    digby.bevan@hotmail.com


Sadwrn 27 Medi
Y Garn, Foel Goch ac Elidir Fawr
09.00   09.15
Maes parcio Nant Peris – SH 607  582.

Cerdded am ychydig i gyfeiriad Bwlch Llanberis ac yna troi am Gwm Padrig, dilyn Afon Las a throi am gopa’r Garn cyn cyrraedd Llyn y Cŵn. Disgyn yn serth o gopa’r Garn i Fwlch Cywion a dilyn y ffens i gopa Foel Goch. O fanno, croesi Bwlch y Brecan a dringo i gopa Elidir Fawr cyn disgyn i Gwm Dudodyn ac yn ôl i Nant Peris. Peint neu baned yn y Faenol i orffen y diwrnod.

Tua 13 km/8 milltir ac esgyniad o 1,106 m/3,600 o droedfeddi.
Gradd 3
Richard Roberts  07738856174   llanrug1956@gmail.com


Sadwrn 4 Hydref
Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau
9.15  9.30
SH 698 348 ar ochr y ffordd gefn i’r de o’r llyn, wedi troi o’r A470 tua 500m o bentref Trawsfynydd.

Cerdded tua 2.5 km ar hyd ffordd gul a thawel hyd at Gefn Clawdd, yna ar lwybr clir gan godi’n raddol at waelodion y ddau gopa (430 m) ac yna dringfa fer ond eithaf serth i gopaon y Moelydd, Ysgyfarnogod (623 m) a Phenolau (614 m). Dychwelyd dros Diffwys a disgyn i’r bwlch cyn Moel Griafolen (ar y mapiau – Foel Gron ar lafar) ac i lawr i’r ffordd ger Tŷ’n Twll ac yn ôl heibio cwt Tîm Achub Mynydd De Meirionnydd i’r man cychwyn.

Tua 11 km/ bron 7 milltir a 460 m/1,510’ o esgyn. Dewch i fwynhau cerdded dau o fynyddoedd ‘llai’ mwyaf trawiadol Cymru!
Gradd 3
Eryl Owain  07548 790583 erylowain@gmail.com


Sadwrn 11 Hydref
Moel Siabod o Ddolwyddelan
8.45 9.00
Maes parcio ger stesion Dolwyddelan - SH7377-5216 (am ddim, gyda thaliad gwirfoddol o £1, er budd Menter Siabod pe dymunir; fel arall, digon o le parcio ar Stryd y Bont, cyn cyrraedd y stesion.).

Dilyn y llwybr tu ôl i dafarn y Gwydyr am y goedwig, yna ymlaen tua’r mynydd. I fyny hefo’r afon at Llyn y Foel, yna, sgrialu hawdd i fyny crib y Ddaear Ddu at y copa (mae opsiwn i osgoi’r sgrialu os oes rhai yn dymuno / tywydd yn wael).

I lawr dros Foel y Gîd at glogwyn Bwlch-y-Maen a lawr Bwlch Rhiw’r Ychen at Llynnau Diwaunydd. Heibio’r Llyn a dilyn traciau coedwig a llwybrau amrywiol drwy Flaenau Dolwyddelan, heibio cefn y Castell yn ôl i’r pentref. Peint yn y Gwydyr i ddarfod!

16 km/10 milltir ac esgyniad o 914 m/3,000 o droedfeddi.
Gradd 4Os yn cynnwys sgrialu ar y Ddaear Ddu.
Gradd 3Os yn ysgoi sgrialu ar y Ddaear Ddu.
Erwyn Jones       07717287915     erwynj@aol.com


Mercher 15 Hydref
Bryniau Clwyd – Moel Famau a Moel y Gaer
09.45 10.00
Maes parcio Bwlch Pen Barras – SJ 162  604 – uwchben Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Cerdded ar y llwybr uwchben Dyffryn Clwyd a throi i gopa Moel y Gaer. Croesi’r rhostir i ymuno â llwybr Moel Famau ac ymlaen i’r copa. Dychwelyd ar hyd y prif lwybr yn ôl i’r ceir. Gellir cael peint neu baned yn nhafarn y Griffin Llanbedr Dyffryn Clwyd ar ddiwedd y dydd.

Taith hamddenol o 10 km/6 milltir ac esgyniad o 504 m/1,654 o droedfeddi.
Gradd 2
Richard Roberts  07738 856174   llanrug1956@gmail.com


Sadwrn 18 Hydref
Moel Lefn, Moel yr Ogof a Moel Hebog
08.45
Maes parcio gyferbyn â hen siop Gelert,  Beddgelert - ar ochr Rhyd Ddu i’r pentref (tâl) – SH 589 482. Dal bws 09.02 i Rhyd-Ddu.

Esgyn i Fwlch y Ddwy Elor ac wedyn dros gopaon Moel Lefn, Moel yr Ogof a Moel Hebog. Peint ym Meddgelert ar ddiwedd y daith.

12 km/7.5 milltir ac esgyniad o 903 m/2,962 o droedfeddi.
Gradd 3
Sian Shakespear  07890 613933  sianetal@hotmail.com


Sadwrn 25 Hydref
Moelydd yr Wyddfa
9.00  9.15
O flaen caffi Pete’s Eats ar y Stryd Fawr yn Llanberis. 

Dringo’n serth  o Lanberis i gopa Moel Eilio ac yna ymlaen dros Foel Gron, Foel Goch a Moel Cynghorion i Fwlch Cwmbrwynog a cherdded lawr Cwm Brwynog yn ôl i Lanberis.

Tua 15 km/9 milltir  ac esgyniad o 1,090 m/3,579 o droedfeddi. 5-6 awr.
Gradd 3
Iolo Roberts   07854 656351  ioloroberts289@btinternet.com


Sadwrn 25 Hydref
Cylchdaith Llyn Syfadden
09.00
Pentref Bwlch CG 148 220.

Cysylltwch â Richard Mitchley am ragor o wybodaeth.

Tua 19 km/12 milltir ac esgyniad o 500 m/1,640 o droedfeddi. Tua 6 awr.
Gradd 3
Richard Mitchley 07850 17487   richard@dragontrails.com


Sadwrn 1 Tachwedd
Ardal Crib Nantlle

Manylion i ddod

Elen Huws      07815 104775      elenhuws@btinternet.com


Sadwrn 8 Tachwedd
Y ddwy Glyder
08.45
Pont Pen-y-Benglog SH 649 605, Llyn Ogwen.

Parcio am ddim yn y cilfannau ar lan Llyn Ogwen neu defnyddio’r bws T10 sy’n gadael Sgwâr Buddug/Sgwâr Fictoria am 08.27 i gyrraedd erbyn 08.36. Cychwyn cerdded am 08.45.

Dilyn y llwybr sy’n arwain i Gwm Idwal cyn troi i gyfeiriad Cwm Bochlwyd ac yna Bwlch Tryfan. O fanno, dilyn Llwybr y Mwynwyr at Lyn Caseg Fraith cyn troi i fyny am gopa Glyder Fach. Ymlaen am Gastell y Gwynt a chroesi Bwlch y Ddwy Glyder i gopa Glyder Fawr. Disgyn at Lyn y Cŵn ac yna i lawr heibio’r Twll Du a’r Rhiwiau Caws yn ôl i Ogwen.

Dal y bws yn ôl i Fethesda a pheint neu baned i orffen y diwrnod.
Gradd 4
Sandra Parry  07738957337 ffôn/SMS/WhatsApp


Sadwrn 15 Tachwedd
Sgrialu Tryfan a Glyder Fach
08.00  08.15
Parcio ar yr A5 yn Glan Dena (SH668605) dim cyfleusterau.

Taith sgrialu Crib ogleddol Tryfan (gradd sgrialu 1) a’r Grib Ddanheddog (gradd sgrialu 1+).
Dringo crib ogleddol Tryfan cyn disgyn lawr i fwlch Tryfan. Dringo Glyder Fach i fyny’r Grib Ddanheddog, disgyn lawr i Lyn Caseg Fraith a wedyn lawr Cwm Tryfan i’r A5. Os bydd y tywydd yn anffafriol bydd rhaid newid i daith wahanol yn yr un ardal.

9 km/5 milltir ac esgyniad o 930 m/3,100, tua 6-7 awr.
Gradd 5
Dwynwen Pennant 07720057068 FFôn/Text/WhatsApp


Sadwrn 15 Tachwedd
Coedwig Gwydyr
09.45  10.00
Maes parcio Hafna, Nant Bwlch yr Haearn SH 781 601.

Taith hamddenol o gwmpas Mynydd Bwlch yr Haearn yn ymweld â llynnoedd bychain ac olion gweithfeydd plwm. Llwybrau coedwig yn bennaf.

Tua 11 km/7 milltir  gydag esgyniad o 370 m/1,200’.
Gradd 1
Dilys ac Aneurin Phillips   01492 650003   craflwyn2@gmail.com


Sadwrn 15 Tachwedd
Cyfarfod Blynyddol, Gwesty’r Royal Oak, Betws y Coed
Manylion pellach ar y ffordd.

Iolo Roberts  07854 656351  ioloroberts289@btinternet.com


Sadwrn 22 Tachwedd
Yr Wyddfa a’r Lliwedd o Nant Gwynant
09.00 09.15.
O flaen Caffi Gwynant Nant Gwynant - SH 62698 50514.

Cychwyn yn hamddenol ar lwybr Watkin nes cyrraedd y tro am y bont. Cerdded drwy Goed yr Allt ac anelu am Gwm Merch ac ysgwydd Gallt y Wenallt. Yna troi am gopaon y Lliwedd ac yna lawr i Fwlch Ciliau. Dewis yma i unigolion gwtogi’r daith a throi i lawr Cwm Llan ac anelu yn ol i'r man cychwyn yn Nant Gwynant (Taith o tua 7 milltir hamdenol ac esgyniad o 943 m).

Y dewis arall fydd mynd am gopa’r Wyddfa, yn ôl i Fwlch Main ac Allt Manderyn, Bwlch Cwm Llan a lawr y Cwm i ailymuno â Llwybr Watkin i fynd yn ôl i’r man cychwyn.

Tua 16 km/10 milltir ac esgyniad o 1,286 m/4,219 o droedfeddi.
Gradd 4
Keith Roberts      07789 911437     keithtan@hotmail.co.uk


Sadwrn 22ain Tachwedd

Manylion i ddilyn

Guto Evans       07824 617131       guto.evans@btinternet.com


Sadwrn 29 Tachwedd
Cylchdaith Rhobell Fawr
09.00  09.15
Ysgol Llanfachraeth SH756225.

Taith hamddenol yn cychwyn o Ysgol Llanfachraeth drwy goedwig Garth Fawr tuag at Fwlch Goriwared, dilyn y wal heibio Ffynon Shôr tuag at Rhobell Fawr. Disgyn yn weddol serth tuag at Tŷ Newydd y Mynydd a dilyn trac/llwybyr heibio Moel Cors y Garnedd yn ôl at y man cychwyn.

16 km/10 milltir ac esgyniad o 732 m/2,400 o droedfeddi.
Gradd 3
Gareth Hughes (Llanystumdwy) 07557 227625  hughes690@btinternet.com


Sadwrn 6 Rhagfyr
Taith Pen y Fâl
09.30
Maes Parcio Crughywel – tu ôl i ganolfan ymwelwyr CRIC. CG SO 218 184.

Manylion a bwydlen i ddilyn

Ymlaen wedyn i Westy’r Bear yng Nghrughywel am ginio erbyn 18.30, pe dymunir.
Gradd 2
Richard Mitchley  07850 174875  richard@dragontrails.com


Sadwrn 6 Rhagfyr 
Moel Penamnen a’r Graig Ddu
9.15  9.30
Canol tref Blaenau Ffestiniog, ger y pistyll, o flaen Gwesty’r Queens. Maes Parcio Cyngor Gwynedd - codir tâl - canol y dref, neu digon o lefydd cyfagos.

Gan gychwyn o ganol y dref, cerdded i fyny’r chwarel drwy ddilyn llwybr 104 ac anelu am gwt inclen Rhiwbach rhif 3, yna troi tua’r gorllewin dros dir di-lwybr a chorsiog, ac esgyn i gopa Moel Penamnen. O’r copa, i lawr dros ysgwydd ogleddol Penamnen tuag at Moel Fras ac ymlaen at Chwarel Cwt y Bugail. O’r chwarel, dilyn llwybr sy’n canlyn y ffens i gopa’r Graig Ddu. I lawr heibio Llynnoed Dubach a chwarel Diffwys.

16 km/10 milltir ac esgyniad o 762 m/2,500 o droedfeddi.
Gradd 3
Erwyn Jones     07717287915      erwynj@aol.com


Sadwrn 13 Rhagfyr
Taith y Gwawrio, Moel Siabod
04.40 05.00
Y gilfan uwchben Llynnau Mymbyr gyferbyn â Phlas y Brenin ar yr A4086 SH71570 57840.

Iechyd a diogelwch a chadarnhau’r offer cywir: 04.50 - 05.00. Cychwyn: 05.00

Cychwyn dros Afon Llugwy ger Plas y Brenin, wedyn i fyny drwy'r coed a dilyn y llwybr i’r copa i wylio’r wawr, gan anelu i gyrraedd rhwng 07.00 a 07.15. Panad a seibiant i wylio'r wawr yn torri o 07.27 tan i’r haul godi am 08.09 a mwynhau’r golygfeydd lliwgar (dibynnu ar y tywydd). Wedyn dilyn yr un llwybr yn ôl i’r man cychwyn.

Mae'r daith yma, dros y blynyddoedd, wedi cael tywydd gaeafol rhewllyd ac eira’n lluwchio ac ati. Oherwydd hyn, mae'r daith yma yn un ddu ac yn agored i aelodau yn unig. Disgwylir y bydd pob aelod a fydd yn ymuno â’r daith gyda'r offer canlynol: dillad cynnes, het a menig, esgidiau addas i'r adeg o’r flwyddyn a thywydd gaeafol Eryri, pigau bach neu bigau mawr (crampons neu microcrampons), polion cerdded, sbectol eira (goggles), caib rhew, pecyn bwyd a diod cynnes.

10 km/6 milltir ac esgyniad o 872 m/2,867 o droedfeddi.
Gradd 5
Keith Roberts      07789 911437     keithtan@hotmail.co.uk


Mercher 17 Rhagfyr
Llanddulas i Hen Golwyn
10.15

Parcio Traeth Llanddulas 78690

Cerdded i fyny Cwm Dulas i Llysfaen ac i fyny’r Marian cyn disgyn i Hen Golwyn drwy’r cwrs golff. Golygfeydd da o ardal Colwyn. Dychwelyd i Llanddulas ar y bws rhif 12 sydd yn mynd pob 20 munud neu gerdded yn ôl ar hyd yr arfordir.
Gradd 1
Arwel Roberts
Arwelgwydyr@aol.com.


Sadwrn 20 Rhagfyr (neu Sul 21 Rhagfyr os bydd y tywydd yn well)
Pen yr Ole Wen a Charnedd Dafydd
9:00 9:15
Parcio ar yr A5 yn Glan Dena (SH668605) dim cyfleusterau.

Taith amodau gaeaf gobeithio ac felly bydd angen offer mynydda gaeaf.
Cychwyn i gyfeiriad Ffynnon Lloer cyn troi fyny am ychydig o sgrialu hawdd am gopa Pen yr Ole Wen. Dilyn y grib i gopa Carnedd Dafydd. Ymlaen i gyfeiriad Carnedd Llywelyn ond troi yn fuan lawr dros dir serth/di-lwybr i Ffynnon Lloer a dilyn y llwybr yn ôl i Glan Dena.

9.5 km/5.5 milltir ac esgyniad o 810 m/2,660 o droedfeddi, tua 5-6 awr.
Gradd 4
Dwynwen Pennant            07720057068 FFôn/Text/WhatsApp




CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:Curon Davies 07848 863663 curond@gmail.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr:
Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Pob Aelod:
Rhaid cysylltu â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar daith.
Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.