|
Mae Clwb Mynydda
Cymru wedi bod yn rhannol gyfrifol am y cynnydd mewn mynydda a dringo,
wrth i amryw droi i'r mynyddoedd am adloniant a phleser. Yn ddiddadl mae
crwydro mynyddoedd yng nghwmni cyfeillion sy'n rhannu'r un diddordeb â
chwi yn ffordd ddiguro o ddod i adnabod Cymru'n well. Fel aelod o Glwb
Mynydda Cymru mae cyfle i wneud hynny'n gyson.
Trefnir teithiau mynydda a chyfarfodydd dringo neu sgramblo'n rheolaidd,
yn Eryri ac mewn ardaloedd mynyddig eraill yma yng Nghymru, heb sôn
am ymweliadau hwy i Loegr, Yr Alban, cyfandir Ewrop a thu hwnt.
Er mai Clwb ar gyfer Cymry Cymraeg ydi Clwb Mynydda Cymru, mae
croeso cynnes hefyd i unrhyw un sy'n dysgu Cymraeg. Mae teithiau'r Clwb
yn gyfle delfrydol i ymarfer eich Cymraeg!
Mae manteision eraill o ymuno â'r Clwb . . .
Bod yn aelod o rwydwaith o Gymry Cymraeg sy'n mynydda - cyfle i
ddod o hyd i gwmni i gerdded neu bartner dringo (gweler y rhaglen gyfredol).
Disgownt mewn amryw o siopau mynydda.
Cyfle i ddysgu sgiliau mynydda gyda aelodau mwy profiadol y Clwb.
Cefnogaeth ariannol i ddilyn cyrsiau hyfforddi.
Offer ar gael i'w logi
Ymgyrchu dros ddiogelu'n ardaloedd mynyddig, a chadw'i harddwch.
Cylchlythyr am weithgareddau'r Clwb.
Cyfarfodydd cymdeithasol.
Safle we gyda gwybodaeth am y Clwb.
Tâl aelodaeth yn cynnwys aelodaeth o'r CMP (BMC).
Rhannwch y profiad . . .
FFURFLEN
YMAELODI
RHAGLENNI'R GORFFENNOL
Mawrth-Gorffennaf 2008
Y
PWYLLGOR
Trefnir
rhaglen gweithgareddau Y Clwb gan Y Pwyllgor. Etholir Y Pwyllgor yn flynyddol
gan yr aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Ceir copi o
Gyfansoddiad Y Clwb a chofnodion y CCB o dudalen dogfennau'r
Clwb.
PWYLLGOR
A SWYDDOGION 2008
Cadeirydd: Dylan Huw
Is-Gadeirydd: Morfudd Thomas
Ysgrifennyddion
Cyffredinol ac Aelodaeth: Clive James
Gweithgareddwch: Maldwyn Roberts
Gwefeistr: Iolo ap Gwynn
Trysorydd: John Arthur Jones
Tegwen Williams, Arwel Roberts, Alwen Williams, Llew ap Gwent, Ceri Jones,
Gareth Roberts, Rhys Dafis
Gellir
cysylltu ag unrhyw un o'r uchod drwy e-bostio
ymholiadau@clwbmynyddacymru.org.uk
Fel
arfer bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yng nghanol misoedd Ionawr, Mai a Medi.
Annogir aelodau i gynnig syniadau ar gyfer teithiau (gan gynnwys parodrwydd
i arwain, ond dim o angenrhaid) a chodi unrhyw fater o bwys drwy'r e-bost
uchod erbyn y 5ed diwrnod o'r misoedd hyn.
Dim
ond cynrychiolwyr y Clwb yw'r Pwyllgor, yr Aelodaeth yw'r Clwb.
Mae Clwb Mynydda Cymru
yn cydnabod y gall dringo a mynydda arwain at anaf personol neu farwolaeth.
Dylai pawb sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn fod yn ymwybodol o'r
peryglon hyn a'u derbyn, a bod yn gyfrifol am eu gweithgareddau eu hunain.
|