HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Medi i Rhagfyr 2016

Dyddiad
2016
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Medi
10
9.15 9.30 Parcio (cyfraniad i’r Ambiwlans Awyr) ym Mlaencywarch, ger Dinas Mawddwy.

Aran Fawddwy
I fyny Cwm y Graig i Fwlch Cosyn ac i gopa’r Aran gan ddychwelyd dros Drws Bach a Drysgol ac i lawr llwybr mawn Hengwm.
Tua 11 km neu 7 milltir a 760 metr o ddringo.

Tegwyn Jones
Mercher
Medi
14
9.45 10.00 Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog.
Digon o le parcio am ddim ar yr allt sy'n arwain o dafarn Glyn-y-Weddw at Neuadd yr Eglwys, ac mae dau faes parcio a thalu, un yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a maes parcio Plas Glyn-y-Weddw.
Taith yn y grug
Taith gron o ryw wyth milltir dros Fynydd Tir Cwmwd i draeth Ty'n Towyn, heibio Castellmarch ac i ardal Mynytho cyn dychwelyd i Blas Glyn-y-Weddw ar hyd amryfal lwybrau plwy.
Y gobaith ydy y bydd grug ardal Mynytho ar ei orau ac y cawn ni andros o daith liwgar.

Gwenan Roberts

Sadwrn
Medi
17
9.15 9.30

Maes parcio
Storey Arms
CG: SN 982 202

Pedol Pen y Fan
Y Gyrn, Pen y Fan,Craig Gwaun Taf, Rhiw yr Ysgyfarnog,Craig Fan Du, Fan Fawr.
Taith o ryw naw milltir gyda ambell i fan serth - tua 750 m o ddringo.

Dewi Hughes

Sadwrn
Medi
17
9.30 9.45

Maes parcio
Pentrefoelas
CG: SH 873 513

Beicio Mynydd Hiraethog a’r cyffiniau
Taith beiciau ffordd dros Fynydd Hiraethog heibio Llyn Aled i Lansannan ac ymlaen drwy Fryn Rhyd-yr-arian i Lanfair Talhaearn am ginio. Yna trwy Betws-yn-Rhos i Fryn-y-maen ac yn ol ar hyd y B5113, gyda golygfeydd gwych o Ddyffryn Conwy ac Eryri (efallai!), trwy Nebo i’r man cychwyn – a chyfle am baned neu beint!
Tua 75 km/46 milltir a thua 950 m/3120’ o ddringo – ond nid elltydd serth ofnadwy na hir iawn!

Eryl Owain

Sul
Medi
18

10.15 10.30 Maes parcio'r
Parc Cenedlaethol,
Rhyd Ddu
CG: SH 571 525

Mynydd Mawr
I fyny Mynydd Mawr uwchben clogwyni Craig y Bera gan ddisgyn i lawr Cwm Planwydd i lan Llyn Cwellyn.
Pellter 6.5 milltir a tua 5 awr o daith. Tirwedd garw.

Dylan Huw Jones
Sadwrn
Medi
24
9.15 9.30 Tyddyn Llidiart ger Llanbedr
CG: SH 599 253

Diffwys, Llethr a Moelfre
Dilyn yr hen ffordd dros Bont Sgethin ac i’r grib, yna i gopaon Diffwys a Llethr ac yn ôl dros Foel y Blithcwm a Moelfre i lawr i Dyddyn Llidiart am baned.
Tua 10 milltir gan godi tua 950 m.

Iolyn Jones
Sadwrn
Hydref
8
     

Llynnoedd Teifi
Mwy o fanylion i ddilyn

Guto Evans

Sadwrn
Hydref
8
9.15 9.30

Maes parcio Eigiau
CG: SH 733 664

Gogledd y Carneddau
Dilyn y llwybr at Felynllyn a dringo i Foel Grach. Ymlaen i Garnedd Gwenllian, Foel Fras a’r Drum, cyn dychwelyd tros Foel Lwyd a Phen y Gadair.
Taith o 10 milltir gyda 760 m o ddringo.

Gwyn Williams

Mercher
Hydref
12
9.45 10.01

Gorsaf Drên y Bermo
CG: SH 611 157

Sywer: trên yn gadael am 10.01

Tal-y-bont i’r Bermo 
Parcio (rhaid talu!) a dal tren am 10:01 yn y Bermo i Dal-y-bont (taith o 15 munud).
Cerdded glannau afon Sgethin, codi graddol i Fwlch y Rhiwgyr a cherdded yn ôl i’r Bermo, gan basio olion cyn-oesol a chael golygfeydd o’r Fawddach.
Os yw’r tywydd yn anffafriol iawn, fe ellir cwtogi’r daith a dod oddi ar y trên yn Llanaber, a cherdded yn ôl i’r Bermo ar lwybr ychydig yn is ac yn fyrrach.  Hei lwc na fydd angen gwneud hyn.
Paned yn y Bermo ar y diwedd.
Tua 7 milltir gan godi’n raddol rhyw 400 m.
Gareth Tilsley
Iau
Hydref
13
6.30   Stablau
Plas Tan y Bwlch

Lansio Copaon Cymru
Noson arbennig i ddathlu cyhoeddi’r llyfr o 48 o deithiau mynydd gyda lluniaeth ysgafn, sgyrsiau, cyflwyniad taflunydd o’r ffotograffau, raffl gyda gwobrau da (yn rhoddedig gan siopau mynydda lleol).
Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn bresennol yn y digwyddiad unigryw hwn!

Gwyn Williams

Eryl Owain
Sadwrn
Hydref
22
9.15 9.30

Maes parcio’r Parc Cenedlaethol ym Minffordd
CG: SH 732 115

Cader/Cadair Idris
Rhannu ceir a symyd i ben Bwlch Llyn Bach (Tal-y-llyn), yna codi i gopa Gau Graig a Mynydd Moel a Phen y Gader/Gadair.
Tua 2600'/800 m a tua 10.7 milltir.

Myfyr Tomos

Sadwrn
Tachwedd
5
9.15 9.30

Maes parcio
Croesor
CG: SH 632 447

Cnicht a’r Moelwynion

Iolo Roberts

Sadwrn
Tachwedd
5
    Oakley Arms, Maentwrog

Cyfarfod a Chinio Blynyddol

Iolo Roberts
Mercher
Tachwedd
16
9.25 10.00 Gyda chaniatâd y tafarnwyr, ym maes parcio Tafarn y Ring, Garreg
SH 613 413

Cwm Croesor
Taith gylch trwy Gwm Croesor at bentref Croesor ac yn ôl ar hyd llwybrau dwyreiniol y Cwm.  Y man uchaf yw tua 250m a hyd y daith tua 11 km. 
Byddwn yn mynd heibio adeiladau gyda chysylltiadau â Bob Owen a’i wraig yn ogystal â Moses Kellow, y peiriannydd.  Hefyd, cerddwn heibio hen ffermdai cynllun Eryri cynnar o ganol yr 16eg ganrif ac adeiladau Stad Brondanw sydd yn dangos gwaith pensaernïol Clough Williams Ellis.

Rhiannon a Clive James
Sadwrn
Tachwedd
19
9.10 9.25

Maes parcio’r
Parc Cenedlaethol,
Pont Bethania,
Nant Gwynant
CG: SH 627 506

Yr Wyddfa
Dal bws 9.25 i Ben y Pas a cherdded i gopa’r Wyddfa ar hyd llwybr y Mwynwyr ac i fyny’r Gribyn ac i lawr drwy Gwm Llan

John Parry

Sadwrn
Tachwedd
19
9.15 9.30 Cyfarfod o flaen y neuadd yng Nghapel Gwynfe
CG: SN 683 219

Ardal Gwynfe a’r Mynydd Du
Capel Gwynfe, Glyn Toddeb, Foel Fawr, Foel Fraith, Cefn y Clychau, Llwyn wennol.
Taith o 10.4 milltir a thua 700 m o ddringo.

Pete Evans

Sadwrn
Tachwedd
26
10.00 10.15

Maes parcio Llynnau Cregennan
CG: SH 658 142

Beicio Mynydd
Taith o tua 30 km ar hyd y Ffordd Ddu i Llanegryn yna heibio Gwastad Meirionydd i Lwyngwril am baned. Yn ôl i Llynnau Cregennan dros Fryn Seward.

Arwel Roberts
Sadwrn
Rhagfyr
3
9.15 9.30

Maes parcio Bwlch Penbarras
CG: SJ 161 605

Moel Famau a Bryniau Clwyd
Moel Fenlli, Moel Famau, Foel Dywyll ac ymlaen cyn belled â Moel Arthur ac yn ôl gyda godrau’r bryniau uwchlaw Dyffryn Clwyd – yr un trywydd â Thaith 29 yn Copaon Cymru.
16 km/10 milltir a tua 700 metr o ddringo.
Peint neu baned yn nhre’ ganoloesol Rhuthun i orffen y diwrnod.

Richard Roberts

Sadwrn
Rhagfyr
10
    Mwy o fanylion i ddilyn

Ardal Crughywel a Chinio'r de
Taith yn ystod y dydd a chinio yng Ngwesty'r Bear, Crughywel, gyda'r nos.
Croeso i bawb (De a Gogledd)

Richard Mitchley
Mercher
Rhagfyr
14
9.45 10.00 Maes parcio
(efo toiledau)
Pentrefoelas,
ger y Tŷ Siocled!!
CG: SH 873 514

Cylchdaith Pentrefoelas
Taith ar ddwy ochr i’r A5 dros Fryn Prys gan ymweld â Phlas Iolyn, yr Hen Foelas a Charreg Llywelyn. 
Tua 12.5 km/8 milltir ar hyd llwybrau da a chefnffyrdd gyda thua 250 m o esgyn heb fod yn serth.

Eryl Owain
Sadwrn
Rhagfyr
17
9.15 9.30

Safle parcio gyferbyn
â Llyn Ogwen
CG: SH 657 602

Foel Goch a’r Glyderau
Cerdded llwybr sy’n cadw at y llethrau dwyreiniol o Gwm Cywion, Cwm Coch a Chwm Bual cyn dringo i gopa’r Foel Goch.
Bydd gweddill y daith yn dibynnu ar y tywydd a chyflwr y coesau. Gellir dychwelyd yn syth dros Y Llymllwyd (5.5 milltir, dringo 2,500’) neu fynd ymlaen tua’r Garn ac ati.

Raymond Wheldon-Roberts

2017          
Sul neu Llun
Ionawr
1/2
     

Taith draddodiadol y Calan i gopa’r Wyddfa

Mwy o fanylion i ddilyn

 
18-25
Chwefror
   

Leckmelm Holiday Cottages,
Loch Broom,
Ullapool,
Ross-shire,
IV23 2RN
-  yr un lle ag yn 2008

Yr Alban
Wythnos arferol y clwb ym mynyddoedd yr Alban.
Mae lle i 21 mewn pedwar bwthyn a’r ffermdy, mewn 11 o wahanol lofftydd, gyda rhai ystafelloedd dwbl ar gael

Cost: £80.00  -  sieciau'n daladwy i Clwb Mynydda Cymru 

Danfonwch eich taliad, enw, cyfeiriad, ebost a rhif(au) ffón at:
Maldwyn Peris Roberts,

6-8
Mehefin
      Croesi'r ffin: ychydig ddyddiau yn ardal y Long Mynd

Llety yn Hostel Ieuenctid Bridges, yn Ratlinghope gerllaw Church Stretton ar y 6ed a’’r 7fed o Fehefin 2017 (Mynd Ddydd Mawrth a cherdded Dydd Mercher ac Iau cyn dychwelyd adref).
Byddem yn cael dau ddiwrnod o gerdded ar Long Mynd a Chaer Caradog.
Cost yr hostel fyddai £16.00 am lety, gyda brecwast am £6.00 a phryd nos os dymunir am £12.50.
Byddai Gwyn yn fodlon trefnu llety ar ran y clwb, i gynnwys brecwast am £22.00 y noson. Mae lle yno i 30+, ond byddai’n dda cael enwau rhag blaen er mwyn sicrhau lle. 

Mae’n bosibl gwersylla hefyd yno am £8 y noson a gerllaw mae tafarn y Bridges gyda llety a bwyd min nos yno. Felly mae’r dewis yn eang. Gwnech eich tyrefniadau eich hunain os am wersylla neu am aros yn y dafarn.

Mae’n lleoliad canolog i aelodau y de yn ogystal a’r gogledd!

Cysylltwch efo Gwyn erbyn 30 Tachwedd os gwelwch yn dda


Gwyn Williams (Llanrwst)

CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com

Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com

Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058  arwelgwydyr@aol.com

Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    07760 283024  hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php