HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Awst i Rhagfyr 2015

Dyddiad
2015
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Awst
22
9.30 9.50 Arosfan bws ar sgwâr Blaenau Ffestiniog
CG: SH 702 459

Gellir parcio yn y maes parcio ar y sgwâr.
Toiledau cyhoeddus gerllaw.

Dolwyddelan i Flaenau Ffestiniog
Cyfarfod am 9.30 i ddal bws rhif X1 am 9.50 o’r Blaenau i Ddolwyddelan.
Dilyn y llwybr ger Afon Bwlch y Groes sydd yn codi yn raddol i gopa Ro Wen (594 m). Cerdded ar hyd y ffridd heibio Bryn Hafod Fraith ac i Chwarel Cwt y Bugail. Ymlaen heibio Llyn Bowydd a disgyn i lawr yr inclein i chwarel Maenofferen. Cerdded drwy’r chwarel yn ôl i Blaenau.
Gellir dod ar draws darnau gwlyb yma ac acw.
Pellter: 12 km / 620 m o esgyn

Rhiannon a Clive James

Sadwrn
Medi
12
9.00 9.15

Pont y Ddol
(capel ger llaw)
CG: SH 531 453

Cylchdaith Cwm Pennant
Cychwyn i fyny Cwm Llefrith am Foel yr Ogof a Moel Lefn ac yna i lawr am Fwlch y Ddwy Elor. Ymuno â Chrib Nantlle ger Trum y Ddysgl a dilyn y grib hyd at y Garnedd Goch cyn dod yn ôl i lawr i Gwm Pennant.
Taith o tua 12 milltir a rhyw 1300 medr o esgyn.
Map amlinellol o’r daith ar gael drwy e-bost pe dymunir.

Raymond Wheldon Roberts
Sadwrn
Medi
19
9.30 9.45

Ger yr  gorsaf rheilffordd y Bermo

Dolgellau i’r Bermo – yng nghysgod y bryniau!
Dal bws am 9.45 i gyrraedd Dolgellau am 10.10.
Cerdded gydag afon Arran i gyfeiriad Bryn Mawr a thuag at Rhydwen ac ymlaen i Islaw’r-dref, yna gyda throed Pared y Cefn Hir (neu ar hyd y Pared ei hun) at Lynnau Cregennan ac i lawr i Arthog a thros y bont yn ôl i’r Bermo.
Tua 9 milltir a rhyw 380 m o esgyn.

Anet Thomas

Gwyn Williams
Sadwrn
Medi
19
9.15 9.30

Y Sgwâr tu ôl i’r Fox and Hounds
CG: SS 933 867

Taith Pedol Cwm Ogwr
Taith dros Melin Ifan Ddu, Cwm Ogwr,Darren y Dimbath, Craig Ogwr a Charn yr Hyrddod


Rhys Dafis

Mercher
Medi
23
9.45 10.00

Llangernyw ar yr A548, 7 milltir o Lanrwst a rhyw 10 m o Abergele
Parcio: Ar iard yr hen ysgol sydd yng nghanol y pentre; troad wrth borth yr eglwys - i lawr yr allt (yr ysgol lle bu Syr Henry Jones, Margaret a Nia yn ddisgyblion!).
CG: SH 885 675

"Rhodio lle gynt y rhedwn", ardal Llangernyw
Dyma daith hamddenol yng nghefn gwlad Dyffryn Elwy.
Cerdded rhan o ffordd Rufeinig, ar lwybr y pererinion, pasio cartref awdur yr englyn 'Y Llwybr Troed' (J T JONES) gan ddychwelyd drwy goedwig Hafodunos.
Golygfeydd hyfryd i'w gweld ar y daith.
Bydd cyfle ar y diwedd i ymweld â'r ywen hynafol wrth yr eglwys.
Paned/peint a chacen yn Y Stag wedyn.
Hyd y daith: oddeutu 7.5 milltir

Cofiwch gysylltu â Margaret neu Nia os ydych yn bwriadu mynd ar y daith er mwyn Trefnu rhannu ceir

Margaret

Nia Wyn

Sadwrn
Hydref
3
9.15 9.30

Maes parcio Nant Peris
CG: SH 607 582

Sgramblo:  Llechog a’r Gyrn Las
Cerdded i gyfeiriad Cwm Glas Bach i sgrialu i fyny crib Llechog, sgramblo agored gradd 2/3 ar graig dda. Yna ymlaen i gopa Carnedd Ugain ar Grib y Ddysgl (copa’r Wyddfa hefyd?) ac i lawr dros Gyrn Las a chrib ddwyreiniol Cwm Glas Bach.
Tua 7 milltir a 950 medr o esgyn.

Gareth Wyn Griffiths

Penwythnos
Hydref
9-11
     

Penwythnos Llanymddyfri
Aros yn hostel The Level Crossing yn Llanymddyfri.
Taith gerdded a thaith feicio lôn ar y Sadwrn a theithiau mwy hamddenol ar y Sul.
Mae amrywiaeth o ystafelloedd ar gael ac mae’r pris o £48 y pen am ddwy noson yn cynnwys brecwast a gwelyau wedi eu paratoi’n barod.
Angen bod â’ch llieiniau eich hun.
Holl gyfleusterau arferol hostel o safon gan gynnwys ystafelloedd sychu.
Bwyd gyda'r nos i’w gael yn yr hostel a digon o ddewis yn y dre hefyd.
Dylai fod enwau a thâl fod wedi eu derbyn cyn 31 Gorffennaf ond os oes diddordeb gellid cysylltu â’r trefnydd rhag ofn bod llefydd ar gael.

Guto Evans

Mercher
14
Hydref
9.45 10.00 Llanuwchllyn
Maes parcio ger y fynwent ar yr A494
CG: SH 872 305

Castell Carndochan
Taith i Gastell Carndochan a adeiladwyd yn ôl y sôn gan naill ai Llywelyn Fawr neu Llywelyn Y Llyw Olaf.
Mi fydd Anita Daimond yn egluro gwaith ymchwil archeolegol a roddwyd ar y gweill yn ystod mis Medi 2015 gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.
Am flas o'r gwaith a wnaed ar y safle yn ystod 2014 ewch i www.heneb.co.uk/wcarndochan.html
Hyd y daith: oddeutu 5 milltir / tua 4 awr

Anita Daimond
Sadwrn
Hydref
24
9.15 9.30 Maes parcio Nant Gwynant
CG: SH 627 506
Pedol Cwm Llan
Ar hyd llwybr Watkin cyn croesi Afon Cwm Llan ac anelu am Cwm Merch a Gallt y Wenallt.  Dros dri chopa'r Lliwedd a sgramblo hawdd  lawr i Fwlch y Ciliau cyn esgyn i Fwlch Main a throi am gopa'r Wyddfa. Yn ôl i Fwlch Main a thros Allt Maenderyn ac yn ôl i Gwm Llan.
Dewch i fwynhau goleuni Cwm Llan cyn i ni droi'r clociau!
Taith o rhwng 6-7 awr, tua 12 milltir ac esgyniad o tua 1250 m.

Richard Roberts

Sadwrn
Tachwedd
7
9.45 10.00

Maes parcio Bryn Glo, gyferbyn â Pont Cyfyng    CG: SH 572 734

Moel Siabod
Trwy'r hen chwarel, heibio i Lyn y Foel ac ar hyd braich y Ddaear Ddu i'r copa. Lawr trwy Goed Bryn Engan ac ar hyd lan Afon Llugwy yn ôl at y ceir.
Tua 7 milltir ac esgyniad o tua 730 m.

Iolo Roberts

Sadwrn
Tachwedd
7
   

 

Cyfarfod Blynyddol a Chinio Blynyddol
Gwesty'r Royal Oak, Betws y Coed

Yn ogystal â bod yn rhan hanfodol o drefniaeth y Clwb o ran penderfynu ar flaenoriaethau, ethol swyddogion a phwyllgor ac ati, mae hefyd yn ddigwyddiad cymdeithasol pwysig a braf iawn, yn gyfle i ymlacio a mwynhau yng nghwmni cyd-aelodau a chyfeillion.  

Croeso cynnes i bob aelod - a phob croeso i gymar neu gyfaill hefyd. 

Iolo Roberts

Sadwrn
Tachwedd
14
9.15 9.30

Ger Tafarn y New Inn, Ystradfellte

Taith Ystradfellte
Cylchdaith dros y Fforest-Fawr yn cynnwys Fan-Gyhirych, Fan-Nedd, Fan-Dringarth, Cronfa Ystradfelle ac yn ôl i’r man cychwyn.
Taith o ryw 15 m ond yn bosib cwtogi os bydd rhaid.

Bruce Lane

Mercher
Tachwedd
18
9.45 10.00

O flaen y stesion ym Metws-y-coed.

Parcio am ddim tu ôl i`r eglwys neu ar y ffordd am y clwb golff

Betws-y-coed
Taith hamddenol o rhyw 7 milltir am Pentre Du, Rhiwddolion, Pont Gethin ac yn ôl i Betws-y-coed.
Tua 5 awr.
Digon o ddewis am le i gael panad wedyn.

Gwilym Jackson
Sadwrn
Tachwedd
21
9.15 9.30 Cwm Mynach
CG: SH 684 219

Diffwys a Llethr o Gwm Mynach
I fyny trwy'r gwaith mango i gopa'r Diffwys, dilyn Crib y Rhiw (Mynydd Gors) i gopa'r Llethr yna lawr at Fwlch Llyn Hywel, lawr at Lyn y Bi, chwarel Cefn Cam, Hafod y Brenin (Shanti) ac yn ôl trwy'r coed i Gwm Mynach.
Tua 750 m o ddringo a tua 9 milltir o hyd.

 Myfyr Tomos
Sadwrn
Rhagfyr
5
9.15 9.30 Maes parcio tu cefn i siop Joe Brown
CG: SH 719 582

Crimpiau a’r Creigiau Gleision
Taith o rhyw 11- 12 milltir, gyda oddeutu 1000 m o godi tir i gyd. Bwriadu mynd tros y Crimpiau, Y Graig Wen i gopa Creigiau Gleision. Yna disgyn i lan Llyn Crafnant.
Penderfynu yn ôl amser/tywydd a hwyliau y criw, a awn yn ôl trwy ddringo y bwlch yn uniongyrchol i gyfeiriad Capel Curig, neu fynd tros ysgwydd Mynydd Deulyn a heibio Llyn Bychan yn ôl i Gapel Curig.

Gwyn Williams

Mercher
Rhagfyr
9
10.00 10.15 Porth Swtan
CG: SH 302 892

Arfordir gogledd Sir Fôn

Cylchdaith: Porth Swtan, Mynydd y Garn, Trwyn y Gader, Ynys Fydlyn, Porth Swtan, 10 km.

Arwel Roberts
Sadwrn
Rhagfyr
12
9.15 9.30 Maes parcio Crughywel tu ôl i’r Ganolfan Wybodaeth
CG: SO 219 185

Taith Ffordd y Bannau
a chinio CMC Cangen y De (yn y Bear, Crughywel)

Gyrru mewn llai o geir i Fwlch. Cerdded ar hyd Ffordd y Bannau ac yn ol i Grughywel. Un car yn mynd a'r gyrrwyr i nôl y ceir - y lleill yn mynd yn syth i'r Bear i brynu peints iddyn nhw!
Cysylltwch â Richard i gael mwy o wybodaeth am y cinio ac i archebu lle.

Richard Mitchley

Sadwrn
Rhagfyr
19
9.15 9.30 Ar ochr y fffordd o Ddeiniolen am Farchlyn   CG: SH 596 630

Carnedd y Filiast ac Elidir Fawr
Taith bedol o amgylch Cronfa Ddŵr Marchlyn Mawr, tua 6-7 milltir a 630m o esgyn. Dringo Carnedd y Filiast a Mynydd Perfedd ac i lawr i Fwlch Marchlyn i gopa Carnedd y Filiast a lawr nôl dros Elidir Fach.

Elen Huws

2016          

Ionawr
1
9.45 10.00

Maes Parcio Pen-y-pas

Pedol yr Wyddfa,
Taith draddodiadol y clwb i ddathlu’r Calan o Ben-y-pas i gopa’r Wyddfa – dros y Grib Goch os bydd amgylchiadau’n caniatau neu dewis o lwybr haws.


 
Mercher
Ionawr
6
9.45 10.00 Pen y Stryd
(cyffiniau Trawsfynydd)
CG: SH 725 319 
parcio ar ochr y ffordd
Taith y Flwyddyn Newydd
Cerdded am Big Idris, Moel Ddu, ac uwchben Llyn Gelli Gain i Foel Oernant.
Yn ôl ar hyd y ffordd a galw ar Porius yn ei fedd.
Tua 12 km.
(Os bydd y tywydd  yn anobeithiol o ddrwg, gallwn fynd i Goed y Brenin a cherdded yn ardal Gwynfynydd)

Raymond


Chwefror
13-20
     

Wythnos yr Alban,
Canolfan Snowgoose, Corpach ger Fort William  -  £110 

Mae lle ar gyfer 14 ym myncws Blacksmiths a rhagor o le, pe byddai angen, mewn byncws arall ar yr un safle. Cewch fwy o wybodaeth am y Ganolfan ar www.highland-mountain-guides.co.uk.

Y bwriad yw cael cyfle i brofi mynydda gaeaf felly gobeithio y bydd y tywydd a'r amgylchiadau o'n plaid. Mae angen dillad ac offer pwrpasol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn yn yr Alban ac er bod angen profiad blaenorol o fynydda cyffredinol, mae taith y clwb yn cynnig cyfle i ymestyn profiad a datblygu sgiliau o ran mynydda gaeaf.

Angen y canlynol erbyn 1 Ionawr 2016:

Enw, Cyfeiriad, Rhif(au) Ffôn, cyfeiriad e-bost

Sieciau yn daladwy i 'Clwb Mynydda Cymru'

Maldwyn Roberts

CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com

Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com

Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058  arwelgwydyr@aol.com

Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    07760 283024  hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php