HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhaglen Gorffennaf i Tachwedd 2014

Dyddiad
2014
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Gorffennaf
5
9.15 9.30 Cilfan rhwng Tal y Bont a Thŷ’n-y-groes
CG: SH 771 701
er mwyn trefnu ceir i Eigiau 

Y Carneddau o Eigiau
Cychwyn cerdded o’r lle parcio yng Nghwm Eigiau (SH 731 663) o amgylch Glogwyn yr Eryr at Felynllyn a Llyn Dulyn, i fyny i Garnedd Gwenllian, ymlaen dros Foel Grach i Garnedd Llywelyn ac yn ôl i Gwm Eigiau.
Tua 11 milltir a thua 860 m o esgyn.

Gareth Wyn Griffiths

Sadwrn
Gorffennaf
12
   

Pen-y-pas

Manylion i'w trefnu

Y Pymtheg Copa
Yr her fawr o gerdded y pymtheg copa dros 3,000’ troedfedd o fewn diwrnod!  Bydd yn rhaid cychwyn yn gynnar iawn a bydd yn rhaid wrth lefel uchel o ffitrwydd a phrofiad o gerdded tir garw ac o groesi’r Grib Goch.  Croeso i’r rhai â diddordeb i gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd ac efallai y gellid trefnu taith neu ddwy i ymarfer.
Uchafswm o wyth – y cyntaf i’r felin gaiff gerdded!
Manylion llawnach i’w cael gan yr arweinydd yn nes at y dyddiad.

Mark Williams
Sadwrn
Gorffennaf
12
8.45 9.30

Ochr draw i dafarn Y Fuwch Goch Pontsticill
CG: SO 057 116

Taith y Bannau
Pontsticill - Pen-y-fan - Fan-y-Big - Craig-y-Fan-ddu - Torpantau (diwedd lein-fach Merthyr).
Tua 15 milltir ond gellir torri’r fyr yn ôl y dymuniad.
Angen symud ceir i ddiwedd y daith.

Bruce Lane

Mercher
Gorffennaf
16
9.45 10.00

Ar ochr y ffordd fawr ger y Drofa Goch (ar gyrion y pentre wrth ddod o Ddolgellau)

CG: SH 678 189

Ardal y Bont-ddu
Cyfle i droedio tri chwm – Cwm Mynach, Cwm Hirgwm a Chwm Dwynant – gyda golygfeydd gwych o Gadair Idris ac aber afon Mawddach wrth ddilyn llwybrau i’r bryniau uwchben y Bont-ddu. 
Taith o rhyw 7-8 milltir gan godi’n raddol tua 400 medr – ond ddim gyda’i gilydd!

Eryl Owain
Sadwrn
Gorffennaf
19
9.00 9.15

Maes parcio coedwigaeth a gorsaf Abergynolwyn
CG: SH 671 064
i rannu ceir a symud i Dolgoch.
Tâl parcio.

Tarrennau Meirionnydd
Fyny heibio Rhaeadr Dolgoch yna Tarren Hendre, Tarren y Gesail a lawr i Pont Llaeron a chwarel Bryn-Eglwys. Yna dilyn hen wely y rheilffordd o'r chwarel heibio inclein yr Alltwyllt ac yn ôl i stesion Abergynolwyn.
Tua 10 milltir ac o gwmpas 3000' o godi.

Raymond Griffiths
Mawrth
Awst
5
14.30   Pabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Darlith Llew Gwent

'Cymraeg Bannau Sir Gâr'

Siaradwr:  Arwel Michael      
Cadeirydd:  Bruce Lane

Iau
Awst
7

9.30  

Prif Fynedfa’r Eisteddfod

Taith yr Eisteddfod
Cerdded o'r Maes i Gydweli ar hyd llwybr yr arfordir - tua 12 milltir. Bws neu ceir yn ôl o Gydweli

Dai Thomas

a
Bruce Lane

Sadwrn
Awst
16
10.30  

Gorsaf Rheilffordd Ffestiniog yn Nhan y Bwlch
CG: SH 650 416
ar gyfer trên 10:50
i Danygrisiau – mae caffi yn yr Orsaf!
(Gall trigolion chwe sir y gogledd brynu tocyn mantais ymlaen llawn yng ngorsaf Caernarfon, Blaenau Ffestiniog neu Borthmadog
[£15 - dilys am 5 mlynedd]
trwy ddangos prawf cyfeiriad a chyflwyno llun maint llun passport i gael deubarth i ffwrdd o gost tocynnau ar Rheilffyrdd Eryri a Ffestiniog.)

Moel-y-hydd a’r ddau Foelwyn
Dros Moel yr Hydd i’r Moelwyn Mawr, ymlaen i’r Moelwyn Bach ac i lawr i Dan-y-bwlch, heb fod yn bell o Dafarn yr Oakley Arms!

Clive James

Llun
Awst
18
ymlaen

     

Taith gerdded Llwybr Arfordir Cymru

Yn hytrach na threfnu ‘taith ddydd Mercher’ y mis hwn, mae gwahoddiad i ymuno â Beryl Vaughan ar un (neu fwy!) o gymalau Taith Gerdded Llwybr Arfordir Cymru i godi  arian a chynyddu ymwybyddiaeth o Eisteddfod Maldwyn 2015.  Dyma’r bwriad:
Awst 18 - Harlech i Borthmadog
19 - Porthmadog i Bwllheli
20 - Pwllheli i Bentowyn
21-  Pentowyn i Aberdaron
22 - Aberdaron i Dudweiliog
23 - Tudweiliog i Drefor
24 - Trefor i Gaernarfon.
Gofynnir am £10 o gyfraniad.

Bydd y daith yn ymweld â Môn a Phenfro yn ystod misoedd Medi a Hydref – manylion pellach i ddilyn.

Mae Haf Meredydd yn cyd-gerdded â Beryl; os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r daith,
e-bostiwch Haf ymlaen llaw os gwelwch yn dda       

Sadwrn
Awst
30

9.15 9.30

Maes parcio Pont Bethania  CG: SH 627 507

Yr Wyddfa o Nant Gwynant
Bwlch Cwm Llan i gopa’r Wyddfa ac yna Lliwedd.
Tua 8 milltir gan ddringo a disgyn tua 4,000 troedfedd

Rhys Dafis

Mercher
Medi
10
10.15 10.30 Maes parcio Capel Seion,
Y Fron, Nefyn
CG: SH 309 404 

Garn Boduan
Tros Garn Boduan (golygfeydd da o Lyn ac Eifionydd, Eryri ac i lawr am fynyddoedd Meirion os bydd y tywydd yn ffafriol), tua Mynydd Nefyn ac o gwmpas Carreg Lefain i  Lwybr yr Arfordir yn ol i Nefyn.
Rhyw 7 milltir.

Anet Thomas

Sadwrn
Medi
13
7.45 8.00 Ar ochr y ffordd i’r dwyrain o Lyn Tryweryn ger ffermdy Nant Ddu
CG: SH 808 387

Dal trên o Gwm Prysor at Arenig Fawr?!
Bydd angen symud rhai ceir at y man cychwyn ger Trawsfynydd (SH 727 360).
Dilyn llwybr yr hen reilffordd o Gwm Prysor, dros y draphont i gyfeiriad y Clogwyn Du. Cerdded hawdd felly am y 7 milltir cyntaf. Troi tua’r de-orllewin ger y chwarel, am Amnodd Wen a dringo at gopa’r Arenig Fawr dros Graig yr Hyrddod. Ymlaen am Foel Llyfnant ac yna dychwelyd at y ceir yn Nant Ddu heibio Amnodd Bwll.
Cyfanswm o 14 – 15 milltir.
Taith o tua 11 – 12 awr
(Gellir addasu a chwtogi y daith os bydd y tywydd yn anffafriol, neu’r coesau yn gwegian!)

Raymond Wheldon-Roberts

Sadwrn
Medi
13
9.15  

Maes parcio ger goleudy Strwmbwl
CG: SM 894 411

Arfordir Gogledd Sir Benfro
Taith o tua 8 milltir o gwmpas Pen Strwmbwl

Peter Evans
Penwythnos
Medi
19-21
     

Penwythnos yn Ardal y Llynnoedd
Wedi llwyddiant ysgybol y llynedd, penderfynwyd dychwelyd i Ardal y Llynnoedd ond i Keswick y tro hwn.
Digonedd o fynyddoedd a llwybrau haws o fewn cyrraedd!  
Llefydd aros ar gael yn Hostel Denton House neu gallech wneud eich trefniadau Gwely a Brecwast eich hunain.

 
Sadwrn
Medi
27
9.15 9.30

Cilfan ger Pont Mynachddwr yng Nghwmtirmynach
CG: SH 912 418

Y Gylchedd a Chwm Hesgyn
Taith o oddeutu 10 milltir gyda tua 800m o ddringo (ond nid i gyd gyda’i gilydd!) mewn ardal newydd i’r clwb, ardal anghysbell iawn ac ardal ardal dau gwm - Cwmtirmynach a Chwm Hesgyn.

Gwyn Williams
Sadwrn
Hydref
4
9.15  

Maes parcio Abaty Tyndyrn
CG: SO 532 001

Ardal Abaty Tindyrn
Taith o tua 13 milltir o amgylch Abaty Tyndyrn a’r cylch

Iestyn Davies
Sadwrn
Hydref
11
8.30  

Cyfarfod yn Pete's Eats, Llanberis

Beddgelert i Llanberis – yr Haute Route!
O Feddgelert i fyny'r Aran ac i lawr i Fwlch Cwm Llan, yna i fyny Allt Maenderyn a Bwlch Main i gopa'r Wyddfa, ac i lawr i Lanberis dros  Moel Cynghorion, Moel Gron a Moel Eilio.   Tua 16km. 8 awr.
Gellir gwneud y daith yn fyrrach os oes angen.

Cawn drefnu pwy sy'n gadael ceir yn Llanberis a phwy sy'n mynd a ceir i Beddgelert dros baned sydyn.
Cychwyn o Beddgelert am 9:30.

Mark Williams

Mercher
Hydref
15
9.45 10.00 Maes parcio’r Goedwigaeth
ger Abergwyngregyn
CG: SH 664 719
Cylchdaith o Gwm Anafon
Canlyn yr afon at y llyn, yna at gopa’r Drum ac yn ôl dros y moelydd bach i giât y mynydd.
Cofiwch ddod â ffyn i helpu i groesi’r afon!
Tua 9 milltir efo cyfle i fyrhau’r daith i rai wrth barcio yn giât mynydd.
Dewi Roberts a Rhodri
Sadwrn
Hydref
25
9.15 9.30

Maes parcio Pont Bethania (CG: SH 628 506) i ddidoli ceir i barcio yn CG: SH 637 495

Moelydd Blaen Nanmor a Cnicht
Taith rhyw 12 km o hyd: picio fyny Moel Meirch a lawr heibio Llyn Edno ac ar hyd Ysgafell Wen heibio Llynnau'r Cwn ac i ben Cnicht cyn dychwelyd heibio Castell a Gelli Iago.
Noson gymdeithasol am 6.30 yng Nghaffi Gwynant - dewis bwyd a chost i ddilyn

Sian Shakespear
Sadwrn
Tachwedd
1
9.15 9.30

Arhosfan i'r De o Graig y Nos
ar yr ochr dde wrth deithio
am y Gogledd ar yr A4067.
CG: SN 841 153

Taith Cribarth Sgwd Henrhyd o Glyntawe
Taith gylch hynod ddifyr ac amrywiol tua 9 milltir, a golygfeydd godidog

Emlyn Penny Jones
Sadwrn
Tachwedd
8
9.15 9.30

Maes parcio Bryn Glo,
gyferbyn â Pont Cyfyng
CG: SH 572 734

Moel Siabod
Trwy'r hen chwarel, heibio i Lyn y Foel ac ar hyd braich y Ddaear Ddu i'r copa. Lawr trwy Goed Engan ac ar hyd lan Afon Llugwy yn ôl at y ceir. Peint neu baned i orffen y daith.
Tua 8 milltir ac esgyniad o tua 2,500 troedfedd.

Richard Roberts

Sadwrn
Tachwedd
22

9.15 9.30

Maes parcio Nant Peris

Glyder Fawr a’r Garn
Bws neu drefnu ceir i fyny i Ben y Pas. Cychwyn oddi yno i fyny Glyder Fawr, lawr at Lyn y Cŵn ac yna i fyny’r  Garn. Os amser/tywydd yn caniatáu, ymlaen at Elidir Fawr cyn disgyn i lawr yn ôl i Nant Peris.

CYFARFOD CYFFREDINOL A CHINIO BLYNYDDOL YN Y FIC, LLANBERIS FIN NOS
Siaradwr Gwadd:  Gwyn Roberts

Iolo Roberts

Sadwrn
Tachwedd
29
   

Gwersyll Glan-llyn

***GOHIRIWYD

Cynhadledd Mynyddoedd Pawb

***GOHIRIWYD
Cynhelir ail gynhadledd yr ymgyrch i hyrwyddo defnydd a lledu ymwybyddiaeth o'r enwau cynhenid priodol ar ein mynyddoedd

 
Sadwrn
Rhagfyr
13
9.15 9.30 Maes parcio Crughywel
(tu ôl i’r Ganolfan wybodaeth)
CG: SO 219 185

Taith y Mynyddoedd Duon
Crughywel – Llangenny – Llanbedr – Pen y Fal
Hyd: tua.13m


Richard Mitchley

Sadwrn
Ionawr
24
9.15 9.30 Carreg Cennen
CG: SV 666 193
Taith o amgylch Carreg Cennen
Taith o tua 10 milltir
Tarddiad yr Afon Llwchwr a siawns i gerdded grib mwyaf orllewinol Bannau Brycheiniog.
Siawns cael torri syched neu cynhesu yn y Cennen Arms ar ôl y daith.
Guto Evans

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php