HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Machlud ar Garnedd Llywelyn 31 Ionawr


Roeddwn yn eistedd yn y car yn gwrando ar y glaw yn curo’n galed ar y to ac yn edrych allan at ein cyrchfan yn y niwl ar dopiau’r Carneddau gan feddwl wrthyf fy hun nad oeddwn ni am fynd yn bell iawn heddiw. Roeddwn i’n gwybod na fyddai cynnig taith hwyr ddiwedd mis Ionawr i ail gopa uchaf Cymru yn apelio i bawb, ac wrth i mi gadw llygaid ar y rhagolygon dros y diwrnodau cynt, mi ddechreuais i feddwl tybed a fyddai’n apelio i rhywyn o gwbl. Erbyn 7.30 nos Wener, doedd neb wedi cysylltu. Roeddwn i’n dechrau meddwl am ei ail chynnig hi eto yn yr haf efallai pan fyddai na siawns fwy realistig o weld yr haul yn machlud oddifri a mwynhau'r tirwedd o dan olau’r lleuad gan edrych i fyny at y sêr. Yna, cyrhaeddodd un neges. Dim ond 10 munud wedyn daeth alwad ffôn a chyn i bo hir mi oedd gen i 5 ddigon hyderus i fentro.

Stopiodd y glaw wrth i ni gychwyn o Fethesda, ond nid oedd hi’n hir cyn i ni orfod tynnu ein dillad glaw allan wrth y Tŷ Dŵr. Ar ddiwrnod sych o haf, mai'n her llywio'r corsydd i fyny ar hyd ochor Afon Lafar heb wlychu'ch traed ac ar ôl sawl wythnos o eira, dadmer cyflym a glaw trwm ar ol hyny, roedd yn amlwg bod angen sanau dal dŵr arnom ni heddiw.

Wrth ddringo’n serth i fyny Mynydd Du mewn tywydd oedd yn dirywio doedd fawr o sgwrs gyda neb. Pennau i lawr yn dawel ac yn ein blaenau er mwyn cadw’n gynnes yn hytrach na sych. Wrth i ni gyrraedd Mynydd Du fe gafom sgwrs hefo dau gerddwr oedd ar eu ffordd i lawr. Call iawn hefyd! Disgrifion nhw'r amodau ar gopa Carnedd Dafydd fel llithrig a gaeafol. Roedd y glaw yn ein taro ni o’r ochr dde ac oerfel yn y gwynt yn dechrau gwneud i mi deimlo byddai angen addasu pethau os na wnai hi wella. Wrth i ni gyrraedd y creigiau tu hwnt i Foel Meirch,  cafom ddipyn o gysgod o’r gwynt a'r glaw trwm felly yn gyfle am baned cyn amlygu ein hunain i'r elfennau unwaith eto ar y dynfa  galed olaf i dop Carnedd Dafydd. Unwaith i ni gyrraedd 900 metr, fe drodd y glaw yn eira ac ar ôl cyrraedd y copa mi oedd yn amlwg nad oedd hwnw yn fan i stopio a gorffwys heddiw.

Mi oedd angen dewis unai gostwng yn fuan am oddwy awr i lawr Braich Tŷ Du neu i barhau am tua pedair awr a hanner gyda'n cynllun gwreiddiol. Roedd pawb yn hapus i barhau. O'r fan hon mi oedd angen dilyn cyfeiriadau cwmpawd  dros gefn Ysgolion Duon i Fwlch Cyfryw Drum cyn i ni golli’r golau dydd yn llwyr. Ni wnaeth y niwl helpu"r llywio yn y tywyllwch ond gyda pwyll mi oedd cyfeiriad y cwmpawd o'r Bwlch yn ddigon i ddod â ni'n ddiogel i gopa Carnedd Llywelyn. Roedd hi'n aeaf oddifri i fyny fano ac erbyn hyn roedd hi'n pluo eira. Gyda cornis mawr wedi ffurfio o amgylch ochrau’r clogwyni, mi oedd angen cyfeiriad gofalus i lywio'n ddiogel oddi ar y llwyfandir a disgyn yn ofalus iawn tuag at Foel Grach. Teimlad anghyffyrddus ar adegau tra oeddwn yn gostwng gan bod y tirwedd yn edrych mor wahanol yn y tywyllwch ond tydi’r cwmpawd byth yn anghywir a mae angen dipyn bach o ffudd yndfo ar adegau fel hyn. Ar ddiwrnod clir mae copa Foel Grach yn amlwg ond mae dod o hyd i bentwr bach o gerrig yn yr eira, y niwl a'r tywyllwch yn fater arall. Roedd fy nghyfeiriad wedi fy nghynnal ychydig i'r chwith ohono ond allwn i ddim ei weld o nes i fflachlamp pen Sioned tu ôl i mi ei oleuo. Hyd yn oed wedyn mi oedd angen sgwrs er mwyn caradnhau a diolch byth am GPS ar y ffon i wneud yn hollol sicir. Gall “Cwt Dafydd Ross” deimlo fel cell garchar ar adegau, ond mi oedd o’n le croesawgar i roi seibiant byr i ni o’r gwynt a’r eirlaw a mwynhau ein bwyd a paned. Mi roddodd o hefyd gyfle i mi sgwrsio ddipyn unwaith eto  yn hytrach na bod yn anghymdeithasol wrth geisio gweithio allan  ble yn union oeddwn ni. Cymerais gyfeiriadau i osgoi copaon Carnedd Gwenllian, yr Aryg a Bera Bach, gan ddewis cerdded tua 20 metr islaw ac osgoi’r creigiau dan draed. Ni waeth hyny cweit weithio allan ar Bera Bach. Gall sgramblo sy’n aml yn hawdd iawn deimlo’n llawer anoddach yn y tywyllwch, yn enwedig ar greigiau gwlyb, ond roedd ein hanawsterau ni, diolch byth, yn fyr iawn. Yr isaf oeddwn ni’n mynd fe drodd yr eira’n eirlaw ac yna’n law. Diolch byth, fe stopiodd erbyn i ni gyrraedd Gyrn Wigau, ond roeddwn ni i gyd yn socian erbyn hynny beth bynnag.

Cyrhaeddon ni’n ôl ym Methesda tua 10.20yh, â'r drefn fel arfer fyddai peint i orffen ond doedd fawr o awydd gan neb y tro hwn! Roeddwn i'n teimlo dros Simeon oedd wedi gorfod gyrru pedair awr yn ôl i lawr i'r De wedyn. Roedd beth oedd wedi teimlo'n afrealistig ryw 9 awr ynghynt wedi troi allan i fod yn antur epig ar nos Sadwrn ddipyn bach yn “wahanol”. Mae'n gwneud i ni werthfawrogi'r dyddiau clir mewn amodau perffaith ond pe bai mynydda bob amser fel 'na byddem ni'n colli profiadau sy’n adeiladu cymeriad. Diolch i Sioned Llew, Simeon, Gwyn, Anwen a Sioned Pyrs am eu cwmni - er gwaethaf yr amodau, pob parch i bawb am ddyfalbarhau ac yn sicir mi ddaw'r daith i fyny mewn sgyrsiau am  beth amser i ddod!

Adroddiad gan Stephen Williams.

Lluniau gan Steve ar FLICKR