HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diwrnod i ymarfer map a chwmpawd 18 Ebrill


Ar ôl llwyddiant y diwrnod yma llynedd doedd dim amdani ond gwneud yr un fath eleni…

Y criw awyddus i ymestyn eu sgiliau map a chwmpawd oedd Sioned Prys, Anwen, Llinos Alun, Eifion, Nia Wyn, Ali, Sandra, Meic a Gareth a r ddwy wnaeth wirfoddoli i m cynorthwyo unwaith eto oedd Elen a Manon.

Cafwyd croeso cynnes yn Tyn y Coed lle cafwyd brecwast a sawl paned a dechrau da i’r diwrnod.  Cawsom gysgod o r glaw i gael rhyw awr neu ddwy o drafod egwyddorion mordwyo cyn cychwn am y mynydd.

Cyn mynd am y mynydd mi oedd angen i bawb fesur eu camau dros 100m. Wedyn, darn anoddaf o’r dydd, penderfynu sut i gael hyd i ddechrau’r llwybr a ffwrdd a ni am ardal Crimpiau. Cafwyd cyfle i drafod hawl i grwydro a hawl mynediad a chanfod esiamplau ar y ffordd.

Ar ôl cyrraedd tir agored dyma rannu y criw yn dri grŵp er mwyn cael ymarfer defnyddio map a chwmpawd i amcanu pellter a chyfeiriad dros gymalau ar lethrau ardal Crimpiau. Daeth Sioned, Anwen a Llinos efo fi; Nia, Ali ac Eifion efo Elen ac aeth Sandra, Meic a Gareth efo Manon.

Mae’r tirwedd yn ardal Crimpiau yn ddelfrydol i gael cymysgedd o ymarfer darllen a lleoli ar y map, cymryd a dilyn cyfeiriad efo’r cwmpawd a chynllunio cymalau. Mae’r tirwedd hefyd yn amrywiol dan draed a chafodd y tri grwp, ella un mwy na’r lleill, fwynhau corsydd, tir twmpathog a grug dros eu pen gliniau.

Er bod cadw at amser tra’n mwynhau ymgolli (neu peidio mynd ar goll) yn y mynyddoedd yn eitha anodd, nath y tri grwp fedru cyrraedd yn ôl i Tyn y Coed o fewn 20 munud o’u gilydd. Gafwyd peint haeddiannol ac arhosodd rhai am swper.

Diolch i r criw am eu cwmni a diolch yn arbennig i Elen a Manon am helpu.

Adroddiad gan Dwynwen Pennant.

Lluniau gan Dwynwen, Anwen, Elen a Sandra ar FLICKR