Y ddwy Glyder 17 hydref

Er gwaetha’r problemau parcio difrifol yn ardal Ogwen, roedd pawb mewn hwylia da wrth gychwyn am Gwm Idwal; roedd yr haul yn gwenu a chawsom dynnu ein llun ar lan y llyn cyn i’r mynydda go iawn ddechrau.
Cerdded ar draws wyneb gorllewinol Glyder Fawr i ganfod gwaelod Hafn y Clogwyn Du. Roedd hi’n eitha gwlyb ond pawb yn mwynhau’r sgrialu gan oedi mymryn yng Nghwm Cneifion i ailffurfio. I fyny llethrau’r Clogwyn Du a chyrraedd copa’r Glyder Fawr. Roedd fanno’n rhyfeddol o dawel o ystyried nad oedd unrhyw le i barcio yng nghyffiniau Ogwen ar ôl i Gareth fachu’r lle olaf am 07.30! Cawsom fymryn o ginio a sgwrs gan werthfawrogi golygfeydd gwych o Eryri a thu hwnt.
Croesi Bwlch y Ddwy Glyder cyn dringo dros Gastell y Gwynt. Ymbalfalu wedyn dros greigiau copa’r Glyder Fach cyn manteisio ar y cyfle i gael tynnu ein llun ar Garreg y Gwyliwr.
Disgyn wedyn yn serth iawn i lawr y sgri yng nghysgod y Grib Ddanheddog cyn croesi’r gamfa ym MwlchTryfan a dilyn y llwybr yn ôl heibio Llyn Bochlwyd i Bont Pen-y-Benglog. Aeth rhai am beint i Fethesda ac eraill i Gapel Curig i gau pen y mwdwl ar ddiwrnod ardderchog o fynydda.
Diolch yn fawr i Sioned Llew, Stel, Dwynwen, Anna George, Sandra, Eryl, Eifion Harlech, Gareth Wyn, Janet, Iolo a diolch arbennig i Gareth Llan am gyd-arwain a chario’r diffib!
Adroddiad gan Richard Roberts.
Lluniau gan Richard, Eryl, Sioned, Dwynwen a Stel ar FLICKR
