Taith Carreg yr Ogof a Bannau Sir Gâr 17 Hydref

Ar ddiwrnod hydrefol braf daeth naw ohonom ynghyd (Llyr, Dewi, Pwt, Helen, Digby, Alison, Ruth, Alun a minnau) ym maes parcio Llyn y Fan Fach ger Llanddeusant. Erbyn 9:15 roedd y maes parcio bychan yn orlawn, gyda ceir a bysiau mini eisoes yn llenwi ymylon y ffordd at y maes parcio.
Ein her cyntaf oedd croesi’r afon Sawdde i gyrraedd y trac ar hyd Brest y Fedw. Ond oherwydd y llif cryf yn dilyn glaw trwm diweddar, aflwyddiannus bu ein hymdrechion i ddarganfod man croesi diogel. Digon hawdd bydde croesi drwy dynnu ein esgidiau, fel y profodd Alison, dwy waith. Ond nid oedd gweddill y criw yn orawyddus i wlychu traed cyn dechrau cerdded, felly penderfynwyd dilyn y ffordd gul allan o’r maes parcio a chroesi’r bont ger ben hewl Fferm Gorsddu.
Cerddom heibio ffermydd Gorsddu a Blaensawdde, cartref chwedlonol Gwyn, y bugail ifanc o chwedl Morwyn Llyn y Fan Fach, a dechrau hanes y teulu a ddaeth yn Feddygon Myddfai. Ymhen dipyn rhaid oedd ymuno â ffordd darmac am gyfnod byr. Parhau i esgyn wedyn ar drac carregog at Lwybr y Bannau. Cawsom hoe am baned wrth ymyl gât y mynydd cyn esgyn yn raddol ar draws y rhostir agored tuag at Garreg yr Ogof. O gwmpas y copa gwelsom olion yr hen chwareli calchfaen cyn ymweld a’r ogof ychydig i’r gogledd ddwyrain o’r copa.
Anelu am y dwyrain o Garreg yr Ogof dros dir agored, gan groesi darn gwlyb a chorsiog, cyn esgyn at grib Bannau Sir Gâr. Cawsom ein cinio yno, uwchben Llyn y Fan Fach, gan fwynhau golygfeydd godidog dros y llyn, Picws Du gyda’i glogwyni dramatig, a Bannau Sir Gâr o’n blaenau.
Ymlaen dros gopaon Waun Lefrith a Picws Du cyn disgyn i Fwlch Blaen Twrch. Esgyn wedyn at Fan Brycheiniog (807 m), pwynt uchaf y daith, a mwynhau’r golygfeydd dros Llyn y Fan Fawr, Bannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Duon.
Wrth gerdded ymlaen at Fan Foel daethom ar draws rhyw gant ag ugain o Fwslemiaid ifanc, a deall o sgwrsio ag ambell un mai myfyrwyr o wahanol golegau ar draws Cymru a Lloegr oeddynt ar daith gerdded i godi arian (hyn yn egluro y maes parcio gorlawn).
Disgyn o Fan Foel tua’r de-orllewin a dilyn llwybrau tawel dros dros Gefn Disgwylfa a Disgwylfa, cyn dilyn llwybr wrth ochr yr afon Sychnant nôl i’r maes parcio.
Cerddwyd tua 10 milltir (16 km), gyda 2,800 troedfedd (850 m) o esgyniad.
Adroddiad gan Eurig James.
Lluniau gan Dewi ac Alison ar FLICKR
