Mynydd Rhiw, Llyn 17 Mehefin

Wrth edrych drwy’r ffenestr yn fuan fore Mercher, yr 17eg o Fehefin, suddodd fy nghalon. Doeddwn i ddim yn gweld gwaelod yr ardd heb sôn am Fynydd y Rhiw. Gyda 14 o aelodau wedi nodi eu bwriad i deithio’n bur bell i gyrraedd pellafion Llŷn, roeddwn yn poeni na fyddent yn gweld y wlad o gwbl, heb sôn am ei gweld ar ei gorau.
Ond diolch byth, erbyn i bawb gyrraedd Treheli, uwchben traeth Porth Neigwl, roedd pethau wedi gwella.
Ond nid y niwl oedd yr unig broblem! Wrth gael golwg olaf ar y llwybr y pnawn blaenorol a thorri tipyn o ddrain, roeddwn wedi dod ar draws llond cae o wartheg a lloua, a tharw bywiog yn eu mysg. Doedd dim amdani ond ailwampio’r daith a dilyn llwybr gwahanol gan hepgor ambell beth o ddiddordeb.
Arweiniodd y llwybr ni heibio Ty’n y Parc at Ffynnon Saint cyn mynd ymlaen at adfeilion Capel Galltraeth. Yn y fynwent yno, ochr yn ochr, mae beddau’r ddau frawd Griffith a Watcyn Jones. Yn dilyn rhyw anghydfod, llwyddodd y ddau i dreulio blynyddoedd olaf eu hoes yn byw yn yr un tŷ heb dorri gair â’i gilydd. Nhw hefyd oedd yr unig ddau i fynychu’r capel yn ei flynyddoedd olaf, Griffith yn cymryd y gwasanaeth ac yn codi canu a Watcyn yn eistedd yn y sedd gefn yn cynrychioli’r gynulleidfa.
Yn ein blaenau wedyn a chyrraedd crib y mynydd erbyn amser cinio. Y dewis oedd, naill ai eistedd yn y gwynt yn mwynhau golygfa dda ar draws y penrhyn, neu dorheulo yn y cysgod heb gystal golygfa.
Tra roeddan ar ein cinio sleifiodd cymylau tros y grib o’n blaenau a chawson ni ddim golwg glir o’r copa uchaf na Chlip y Gylfinir. Erbyn cyrraedd pentref Rhiw roeddan wedi cefnu ar y niwl unwaith eto, a daeth Ynys Enlli ac Ynysoedd y Gwylanod i’r golwg wrth i ni anelu am gopa mynydd Penarfynydd. Roedd y daith yn ôl yn dilyn Llwybr yr Arfordir, a Phorth Neigwl yn disgleirio oddi tanom.
Mwynhaodd y mwyafrif ohonom banad a chacan yn stafell de Plas yn Rhiw i’n cynnal tuag adref, tra dewisodd lleiafrif dorri eu syched mewn man gwahanol!
Y criw oedd Roger o Gorwen wedi codi Margiad ac Eirlys ar y ffordd, Merfyn o Hen Golwyn, Gareth T., Dewi, Arwel a Meirion o Fangor a thu hwnt, Nia Wyn a Rhiannon H-J, Wini, Aneurin, John Arthur a Gwen Rds.
Diolch i bawb am eu cwmni clên.
Adroddiad gan Anet.
Lluniau gan Gareth, Aneurin ac Eirlys ar FLICKR
