Cribyn a Pen y Fan o Gwm Gwdi 17 Ionawr

Ar fore digon dymunol ym mis Ionawr cyfarfu deuddeg ohonom yn y maes parcio yng Nghwm Gwdi, tua tair milltir i’r gogledd o Aberhonddu. Hon oedd ein taith gynta yn y De eleni, a braf oedd cael croesawu aelod newydd atom ar ei daith gyntaf gyda’r Clwb, sef Mike.
O’r maes parcio, fe anelom am y dwyrain gan ddilyn y llwybr drwy goedwig a chaeau tuag at fferm Plas y Gaer. Cerdded o amgylch y fferm at y gogledd ddwyrain ar draws rhai caeau, cyn cyrraedd yr hewl gul sy’n arwain at Gwm Cynwyn. Dilyn hon am ryw hanner milltir dros Pont y Caniedydd, gan dechrau esgyn yn raddol. Roedd y llwybr yn esgyn at Bryn Teg i weld yn glir drwy’r rhedyn crin, ond amser am baned clou cyn dechrau arno.
Wrth ddringo dros yr ysgwydd at Bryn Teg, cawsom olygfeydd da dros Cwm Sere at ochrau Cefn Cwm Llwch ag Allt Ddu i’r gorllewin, a dros Cwm Cynwyn at grib Cefn Cyff i’r dwyrain – y cymoedd a’r cribau hyn yn ffurfio’r tirlun sy’n nodedig o’r ardal hon o’r Bannau.
Ar ôl esgyn dros Bryn Teg (620 m) dyma Cribyn yn dod i’r golwg o’n blaenau, gyda’i gopa yn ymddangos yn achlysurol o’r cwmwl. Cerdded ar draws rhan weddol wastad o’r grib am dipyn bach, ac yna, yn rhyfedd o beth, y sgyrsio byrlymus yn tawelu’n sydyn wrth i ni dechrau dringo cymal weddol serth dros lethr gogleddol Cribyn at y copa (795 m).
Ar ôl ail ymgunull ar y copa ac amser byr i bawb adfer, ymlaen â’r daith, mewn rhywfaint o niwl erbyn hyn, tua’r gorllewin. Disgyn at y bwlch yn gynta cyn y ddringfa nesa dros Craig Cwm Sere at gopa Pen y Fan (886 m). Er bod dim llawer o gysgod rhag y gwynt, roedd pawb yn barod am eu cinio erbyn cyrraedd y copa, ac felly arhosiad byr am ginio, a’n cefnau at y gwynt.
O’r copa, anelu nôl tua’r gogledd, ac ar ôl disgyn yn serth i ddechrau, cerdded weddol rhwydd am dipyn wedyn dros grib Cefn Cwm Llwch. Yn lle dilyn y prif lwybr nôl at Gwm Gwdi, dyma ni yn gwyro i’r dde a dilyn y llwybr dros Allt Ddu, wedyn disgyn yn weddol serth i nôl i gyfeiriad Plas y Gaer. Wrth edrych i lawr o’r cyfeiriad yma roedd yr hen gaer o Oes yr Haearn yn amlwg iawn, gyda’r ffos a’r clawdd yn amlinellu’r safle i’w gweld yn glir.
O Plas y Gaer, ail gerdded yr un llwybr wedyn nôl at y maes parcio.
Diolch i fy nghyd gerddwyr am eu cwmni difyr, sef Alun, Dewi, Paddy, Ruth, Elliw, Alison, Mike, Digby, Meirion, Rhun a Llyr.
Taith o dua 7.5 milltir (12 km) a 2,700 Tr (825 m) esgyn.
Adroddiad gan Eurig James.
Lluniau gan Dewi ar FLICKR
