Y Garn, Foel-goch a’r Llymllwyd 17 Ionawr

A fyddai eira, ac os felly, faint, ac ym mha gyflwr? Gyda’r rhagolygon tywydd yn darogan tymheredd o gwmpas y rhewbwynt, anodd oedd rhagfynegi ai meirioli neu rewi fyddai’r stwff gwyn, a faint ohono fyddai ar ôl.
Cafwyd dechrau llwyddiannus i’r diwrnod gan i bawb gael lle i barcio! Tasg braidd yn heriol wrth i’r torfeydd gyrraedd o ddinasoedd Lloegr – clywyd dipyn o acenion Lerpwl-aidd ar y mynydd yn ystod y dydd. Wedi i 19 ohonom ymgynull o flaen canolfan Ogwen, cychwynwyd am Y Garn trwy gymryd y llwybr sy’n mynd trwy hafn gul y chwarel cerrig hogi tu ôl yr adeilad. Dilynwyd hwn at y grisiau cerrig sy’n dringo braich ogleddol Cwm Clyd. Mae hwn yn lwybr da, ond yn gyson serth, a buom yn mynd yn hamddenol a rhwydd tan cyrraedd o fewn tua 100m i’r copa. Ychydig mwy o her (neu hwyl!) yma, wrth i’r ceibiau ddod allan i daclo’r ardal o eira eithaf caled wrth gyrraedd y grib. Ond doedd hynna ddim digon i rai! “Plis miss, gawn ni fynd i chwarae yn yr eira?” gofynnodd Eryl a Gareth Wyn (hogia cwrtais ydi rhai Penmachno) - ac i ffwrdd â nhw, a Trystan a Simeon hefyd, i ddringo’r gwli i’r gogledd o’r creigiau o dan gopa’r Garn, a oedd yn llawn eira sefydlog.
Wedi’r cyffro yna, cinio nesaf, ger copa’r Garn. Hyfryd iawn oedd cyfarfod criw Bethesda yma, oedd wedi dod i fyny Cwm Padrig ac yn mynd dros yr Elidir yn ôl.
Gan mai ar y wynebau dwyreiniol oedd yr eira, gan fwyaf, cafwyd bron ddim ohono wedi hyn. Aed ymlaen dros Fwlch y Cywion i gopa Foel-goch, ac yna dilyn llwybr cul i lawr braich Y Llymllwyd, gyda Cwm Cywion ar y dde, a chlogwyn serth Creigiau Gleision uwch Cwm Coch ar y chwith. Croesi gwaelod Cwm Cywion wedyn i ail-ymuno â gwaelod llwybr y bore, cerdded ar hyd glan Llyn Idwal, a dilyn y prif lwybr yn ôl i Ogwen. Er fod niwl ar y Glyderau tan ddiwedd y diwrnod, yn ddi-gwmwl fuom ni, a cafwyd golygfeydd trawiadol trwy’r dydd.
Daeth criw niferus a hwyliog. Da oedd croesawu Ewart ar ei daith gyntaf efo’r clwb, ac Elin ar daith flasu. Dw i bob amser wrth fy modd pan fydd aelodau’r gogledd a’r de yn mynd ar deithiau’i gilydd, felly gwych oedd cael Simeon efo ni, wedi dod i fyny am y diwrnod. Diolch hefyd i Sioned Llew, Buddug, Gwyn Chwilog, Jano, Anwen, Sandra, Arianell, Erwyn, Richard, Rhys (Hiraethog), Trystan, Wil, Alice, Gareth Wyn ac Eryl am eu cwmni a’u brwdfrydedd!
Aed i’r Ty’n y Coed yng Nghapel Curig am lymaid bach cymdeithasol cyn mynd adref.
Adroddiad gan Elen Huws.
Lluniau gan Elen, Jano, Erwyn, Gwyn, Sioned ac Anwen ar FLICKR
