Moel Famau a Moel y Gaer 15 Ebrill

Cyfarfu’r pump ohonom ym maes parcio Pen Barras ar fore digon gwyntog a rhagolygon y tywydd yn bygwth cawodydd trymion drwy’r dydd. Cychwynom ar hyd Lwybr Clawdd Offa gan anelu am gopa Moel Famau ond penderfynom adael y llwybr tua hanner milltir cyn cyrraedd y copa ac ymuno â llwybr cul sy’n arwain i gopa Moel y Gaer. Mae hon yn Gaer sylweddol ei maint a oedd â phoblogaeth o hyd at 300 yn ystod yr Oes Haearn.
I lawr â ni wedyn, bron i waelod y dyffryn, cyn troi i gyfeiriad Nant-y-Ne. Y bwriad yn wreiddiol oedd parhau ar hyd y llwybr am tua hanner milltir ymhellach cyn troi i fyny’r ffridd am Bwll-y-rhos, ond, ar ôl ymgynghori efo’r criw, penderfynwyd dilyn y nant a dringo’r raddol i fyny’r dyffryn tawel, hyfryd. Roedd y map yn awgrymu bod tir serth iawn o’n blaenau a chawson ni mo’n siomi. I gyrraedd pen y daith, roedd rhaid dringo 1161 o droedfeddi mewn pellter o ychydig dros filltir, ond roedd pawb wrth eu boddau!
Roedd y gwynt yn eitha cryf ar gopa Moel Famau ac wedi mwynhau cinio yng nghysgod adfeilion y Tŵr Jiwbili, i lawr y llwybr â ni gan gyrraedd y ceir ychydig funudau wedi i’r glaw trwm ein cyrraedd.
Diolch i Aneurin, Dilys, Iona a John Arthur am eu cwmni anturus.
Adroddiad gan Richard Roberts.
Lluniau gan Richard, Aneurin a Dilys ar FLICKR
