Cylch Croesor 14 Hydref

Mae mannau distaw i grwydro ar gael, a hen ffefryn oedd ar y gweill gan Glwb Mynydda Cymru’n ddiweddar. Mae gwasanaeth bws Sherpa Pen y Pas yn rhedeg pob awr trwy’r haf ac roedd i’r dim (ac am ddim) i gario criw ohonom o Port i Bont Garreg Hylldrem, gan godi eraill ym mhentref Llanfrothen ar y ffordd. Yma ger troed y clogwyn serth mae llwybr cyhoeddus yn cychwyn am Groesor.
Roedd carped o weddillion blodau jac-y-neidiwr yn amlwg yn y caeau ger yr afon. Mae’r planhigyn estron yma a ddaeth i’r wlad o ogledd India yn ôl yn y 19eg canrif yn niweidiol iawn. Mae’n ymledu’n gyflym ac yn achosi erydiad i lannau afonydd.
Ar ôl dringo i fyny trwy’r coed roedd yn braf gweld bod y llwybr yn amlwg yr holl ffordd i fyny at Gae Glas ar gyrion Croesor. Mae golygfeydd godidog o’r Cnicht, y Moelwynion a’r Wyddfa yn datblygu wrth gerdded y grib llydan agored i gyfeiriad ffermdy Garth Foel.
Rwy’n cofio mynd yno i weld teulu yn 40/50au’r ganrif ddiwethaf a da oedd gweld bod y goeden goncyrs anferth yn dal yn y buarth a bellach wedi’i chofrestru. Ymlaen yng nghysgod y coed â ni wedyn yn dal ar i fyny nes cyrraedd ffermdy Cae Glas sy’n dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif. Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yma yn y llofft mor gynnar ag 1816. Ar ôl galw heibio i ddeud helô wrth Ken Brassil, yr archeolegydd, sy’n byw yn y pentref, lle gwell i gael pwt o ginio nag wrth ochr y pwll nofio yng Nghroesor.
Er ei fod bellach wedi’i wagio ar gyfer y gaeaf, mae’r pwll nofio’n wych o gaffaeliad i’r pentref ac mae’r cae pêl-droed drws nesaf iddo hefyd yn unigryw gan ei fod wedi’i amgylchynu gan grawiau o lechi. Adeiladwyd tramffordd Croesor yn 1864 i gario llechi o chwarel Croesor i borthladd Porthmadog, a defnyddid ceffylau i dynnu’r wagenni. Cawsom ddilyn y trac o’r pentref ar draws y caeau nes cyrraedd yr hen dŷ weindio ar ben yr inclein. Ceir hanes am yr hen dŷ weindio yn y casgliad lluniau (gweler isod) ac YMA.
Dilynwyd trac i lawr at hen blasdy’r Parc – led cae o’r fan honno mae Bwrdd Samson, man cyfarfod to ifanc Croesor yn ôl fy Mam, a fagwyd yn y pentref dros ganrif yn ôl bellach. Mae yna olygfa wych oddi yma i lawr dros y Traeth Mawr am gyfeiriad y môr. Cartref y teulu Annwyl oedd y Parc ac mae’r dyddiad 1671 i’w weld ar wal un rhan o’r tŷ. Mae simneiau crwn unigryw ar dalcen rhan arall o’r plasty.
Islaw’r Gatws mae trac braf yn arwain uwchlaw’r afon Maesgwm i lawr at chwarel Parc. Chwarel lechi tanddaearol oedd yma o dan reolaeth y peiriannydd arloesol Moses Kellow. Bu’r hanesydd Bob Owen Croesor yn gweithio fel clerc yn y chwarel tan iddo gau yn 1931. Cofiaf fy mam yn sôn am alw droeon i weld Bob Owen yn ei waith er mwyn iddi gael cysylltu ar y teliffon â’i thad oedd yn beiriannydd i Moses Kellow ym Mhwerdy Blaen Cwm. Mae’r llwybr yn dilyn tramffordd chwarel Parc i lawr at domennydd enfawr o slabiau llechi. I orffen y daith, ar ôl cael paned a chacen yng nghaffi Bron Danw, canlynwyd llwybr amlwg i’r Tŵr/ffoli a gynlluniwyd gan Clough Williams Ellis uwchben y pentref cyn gorffen yn gyfleus iawn wrth ymyl Y Ring. Mae’r safle bws yn ôl i Port gyferbyn â’r dafarn.
Adroddiad gan Arwyn Jones.
Lluniau gan Haf ar FLICKR
