HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Morfudd a Moel y Gamelin 12 Medi


Er gwaethaf y tywydd cyfnewidiol o gawodydd, ambell gyfnod sych a gwyntoedd cryfion, cawsom weld rhai o ryfeddodau’r gogledd-ddwyrain ar y daith hon. Erbyn i ni gyrraedd copa Moel Gamelin, roedd hi’n bosib gweld Castell Dinas Brân, creigiau rhyfeddol Eglwyseg a hyd yn oed draphont Pontcysyllte i’r dwyrain a Bryniau Clwyd yr holl ffordd i’w pen drawdod uwchben Prestatyn yn y gogledd. Moel y Gaer ydy’r mân gopa sy’n cadw cwmni i Foel y Gamelin ac yma y mae olion clir y gyntaf o gadwyn o fryngeiri o’r Oes Haearn sy’n ymestyn draw i’r gogledd ar hyd copaon Bryniau Clwyd. Y copa olaf o’r daith ydy Moel Morfydd ac yma cawsom ginio yng nghysgod y copa a mwynhau tua thri munud o heulwen! Wedi disgyn o’r copa, troi i lawr i gyfeiriad pentref Bryneglwys a cherdded ar hyd y llwybr sy’n dilyn godrau’r copaon ac yn ôl at y ceir heibio’r chwarel.
Diolch yn fawr i Dafydd, Raymond a Sue am eu cwmni difyr.

Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan Sue a Raymond ar FLICKR