Cefn y Ddraig Diwrnod Tri 12 a 13 Medi

Gan bod ni wedi mwynhau her y ddau ddiwrnod cyntaf dyma feddwl “be am i ni gyrraedd y canolbarth eleni” ac felly dyma drefnu dyddiad cyn i’r dyddiau fyrhau.
Yr unig ‘snag’ efo diwrnod 3 Cefn y Ddraig ydi fod llai o ddringo i gymharu efo diwrnod un a dau tra bod y pellter yn cynyddu. Gan fod cerddwyr yn medru dringo bron cyn cyflymed a’r rhedwyr dydy ni ddim yn medru symud mor sydyn ar dir llai serth. Felly, penderfynwyd i wneud diwrnod 3 dros ddau ddiwrnod gan dorri’r daith o Benmaenpool i Bonterwyd ym Machynlleth.
Y criw brwdfrydig ddaru gyfarfod yn Penmaenpool am 4:00yb oedd Erwyn, Trystan, Dwynwen, Andras a Manon. Cafodd pawb rhoi bag dros nos i Gerallt a braf oedd gwybod y byddai’r dillad sych yn ein disgwyl yng ngwesty Y Wynnstay ym Machynlleth.
Roedd rhagolygon y tywydd ar gyfer dydd Sadwrn yn erchyll, gwynt cryf a glaw trwm ond yn well ar gyfer dydd Sul. Gan fod pawb wedi bwcio ystafell yn Y Wynnstay doedd gohirio ddim yn bosib a ffwrdd a ni.
Mi gawsom ni hi’n sych am yr awr gyntaf o leiaf ond daeth y glaw cyn hyd yn oed cyrraedd ein copa cyntaf sef Gau Graig. Felly bu hi wedyn, gwynt cryf a glaw trwm dros Mynydd Moel a Cader Idris, ond cawsom ddianc rhag y tywydd am frecwast yn y cwt ar ben y Gader.
Ymlaen a ni dros Tyrrau Mawr a Chraig y Llyn gan geisio ddychmygu’r golygfeydd godidog tuag aber Afon Mawddach cyn disgyn wedyn am Fro Dysynni. Yn rhyfedd iawn, ni welwyd yr un enaid byw arall tan bron a cyrraedd Abergynolwyn. Yn Abergynolwyn roedd Elen yn disgwyl i ymuno efo ni am weddill y daith.
Roedd y cymal nesaf yn mynd a ni dros Darren y Gesail ac i lawr drwy’r coedwigoedd i Fachynlleth. Gan fod y glaw wedi bod yn drwm drwy’r dydd roedd rhai o’r pyllau dŵr dros ein pengliniau.
Roedd pawb yn falch iawn o groesi Pont ar Ddyfi a cherdded fewn i Fachynlleth ond hyd yn oed fwy balch o gael cawod boeth, ein dillad sych, peint neu ddau a chroeso cynes iawn yn Y Wynnstay.
Roedd yn addo i’r glaw arafu tua 9-10 fore Sul ac felly brecwast hamddenol iawn oedd hi a disgwyl i’r glaw fynd heibio cyn cychwyn am 9:45.
Roedd ein llwybr fore Sul yn dilyn llwybr Glyndŵr am beth ffordd cyn i ni gyrraedd Bwlch Hyddgen a dechrau dringo am Bumlumon. Yma, roedd Manon yn cerdded ar dir cyfarwydd a chwarae teg, ddaru hi ddim deud gair am ba mor annifyr ydi’r llwybr o Gerrig Cyfamod Glyndŵr i fyny at Lyn Llygad Rheidol nes i ni gyrraedd y cerrig.
Ar ôl cyrraedd y llyn, dringfa eithaf byr wedyn i’n unig gopa o’r dydd sef Pen Pumlumon Fawr a gweld yr unig fynyddwyr eraill welsom ni drwy’r dydd. Yn anffodus roedd y cymylau yn isel eto erbyn hyd ac unwaith eto bu’n rhaid dychmygu’r golygfeydd.
Roedd gweddill y daith, eto mewn glaw, lawr allt ac yn dilyn Llwybr Cambria i Ddyffryn Castell ger Ponterwyd. Yma roedd Gwil a Gerallt yn disgwyl ac unwaith eto a pawb yn falch dros ben i gael dillad sych.
Deuddydd gwerth chweil, pawb wedi mwynhau y gwesty cysurus ac ambell un yn gofyn “pam da ni’n trafferthu efo’r busnes campio ma?” Diolch i pawb am eu cwmni hynod hwyliog er yr amodau heriol. Diolch yn fawr iawn i Gwil a Gerallt ein ‘sherpas’ am gludo’n dillad sych.
Ac, rhag ofn bod rhai ohonoch yn pendroni be nesa?? Wel, mae dyddiadau Cefn y Ddraig diwrnod 4, 5 a 6 yn y dyddiadur!
Mae croeso i rhywun ymuno efo ni
Cefn y Ddraig Diwrnod 4 – 8/9 Mai 2027
Cefn y Ddraig Diwrnod 5 – 19/20 Mehefin 2027
Cefn y Ddraig Diwrnod 6 – 11/12 Medi 2027
Adroddiad gan Dwynwen Pennant
Lluniau gan Erwyn, Elen a Dwynwen ar FLICKR
