Craig Cwm Llwyd, Craig y Llyn a Thyrrau Mawr 12 Ebrill

O‘r diwedd! Roeddwn wedi ceisio cynnal y daith yma i’r clwb y llynedd, ond daeth digwyddiad noddedig enfawr yn yr un ardal ar ein traws.
Felly, amdani, eleni!
Wedi ymgynull ym maes parcio Cregennan, cerddwyd cwta filltir heibio Hafod Taliadau at y Ffordd Ddu. Mae hon yn hen. hen dramwyfa, y tybir iddi ddeillio o Oes yr Efydd, yn rhoi mynedfa i’r tir mewnol o’r arfordir. Dim ond ni ac ambell feiciwr modur traws-gwlad oedd arni heddiw, ac ar ôl ei dilyn i’r de-orllewin am bron i ddwy filltir, gan godi’n raddol, troesom i fyny am y bryniau.
Buom yn dilyn crib y mynydd wedyn. Dros y Fraich Ddu i ddechrau ac i lawr i’r bwlch uwch Llyn Cyri, yn swatio yn y cwm bach rhewlifol odditanom. Swatio fuom ninnau yma allan o’r gwynt oer, a chael ein cinio cyntaf. Ymlaen wedyn dros Graig-y-llyn. Ffarwelsom â Dilys ac Aneurin yn y bwlch nesaf, wrth iddyn nhw gymryd Llwybr Cambria yn ôl i Gregennan. Aeth y gweddill ohonom yn ein blaenau i fan ucha’r diwrnod, sef Tyrrau Mawr, yn 661m o uchder. Roedd yn werth oedi yma i ryfeddu at y golygfeydd o aber y Fawddach a’r Rhinogydd y tu hwnt iddi. Er mwyn osgoi’r oerwynt aethom yn ein blaenau at Carnedd Lwyd, dwy garnedd hynafol, i gael cysgod ar gyfer ail ginio’r diwrnod.
Ymuno â llwybr y Pilyn Pwn o gopa Cader Idris wedyn, gan ddilyn y gangen orllewinol at y ffordd darmac, ei chroesi, a gwneud ein ffordd yn ôl i Gregennan heibio godrau Pared y Cefn hir.
Un antur arall cyn gorffen! Dod ar draws menyw mewn trafferth.... dafad wedi ei dal yn hollol sownd mewn mieri. Daeth Keith i’r fei efo cyllell finiog, a gyda Paula, Morfudd a fi yn gafel yn dynn yn Musus Mêê (roedd ganddi acen Dolgellau....) fe lwyddwyd i’w rhyddhau.
Mi wnes i fwynhau yn fawr cael tywys yn fy annwyl Sir Feirionnydd. Diolch i Dilys ac Aneurin, Richard, Morfudd, Paula a Gwyn, Dafydd Legal, Keith, Meinir a Tegwen am eu cwmni hwyliog, a diolch am dywydd da i weld y golygfeydd!
A diolch i Eirlys – cynllunydd y daith.
Adroddiad gan Elen Huws.
Lluniau gan Elen ac Aneurin ar FLICKR
