Cychdaith dwyrain Cadair Idris 10 Hydref

Os oedd themâu i’r daith yma, roedd dwy – golygfeydd...a gwynt!
Wedi cyfarfod ym maes parcio Tŷ Nant, roedd rhaid cerdded ar hyd y ffordd i ddechrau am hen westy’r Gwernan. Troi i’r de yma am y mynydd a dringo’n raddol am Llyn Gafr i ddechrau, ac yna am Lyn y Gadair. Mi fu dipyn bach o sboncio a phrancio (gosgeiddig iawn, wrth gwrs) wrth groesi ambell nant fyrlymus! Roedd y gwynt yn cryfhau wrth i ni esgyn, ond cawsom lecyn bach cysgodol yn union ar lan Llyn y Gadair i gael hoe a phaned cyn dringo Llwybr Madyn.
Mae hwn yn lwybr serth a rhydd sy’n arwain o’r llyn tuag at y copa, a chyda chydig o enw am fod yn un anodd. Mewn gwirionedd, oherwydd y traul sydd wedi bod arno, mae’n haws na’i ymddangosiad. Roedd yn bosib canfod trywydd ble roedd y cerrig rhydd wedi cael eu disodli dros y blynyddoedd, a ninnau’n cerdded ar ddaear solet. Cryfhau wnai’r gwynt wrth i ni esgyn, ac erbyn i ni gyrraedd y copa doedd hi ddim yn rhy hawdd sefyll na cherdded mewn llinell syth! Roedd hi’n hyfryd cael cysgodi am ginio yn y cwt carreg, efo sŵn y gwynt yn wirioneddol ruo tu allan.
Aed ymlaen wedyn ar hyd y grib i’r dwyrain, dros Mynydd Moel, yna at drydydd copa’r diwrnod, sef Gau Graig. Cafwyd ychydig o gwmwl a niwl ysgafn, ond ar y cyfan roedd y golygfeydd yn odidog, efo golau tlws, a chlytiau o haul a chysgod ar y mynyddoedd. Dim ond disgyn oedd angen gwneud wedyn, gan ddilyn y wal fynydd i lawr am Bwlch Coch, ac yna cerdded yn ôl i’r gorllewin heibio’r hen dai ar odre’r mynyddoedd – Pandy’r Gader, Coed Croes, o dan Bryn Mawr (hen gartref Rolant Elis, y Crynwr – Y Stafell Ddirgel), Tan y Fedw, Bryn Rhug, Tan-y-Gader a Gilfachwydd, a rhywun yn synhwyro fod hen lwybrau yma a fu’n cysylltu’r hen ffermydd a’i gilydd. Chydig o gerdded ffordd eto i ddod â ni nôl i Dŷ Nant
Diolch i Anwen, Sioned, Richard, Meinir, Stel ac Eurig (ddaeth yr holl ffordd o’r de – wrth fy modd gweld aelodau o’r de yn ymuno!) am eu cwmni hwyliog.
Adroddiad gan Elen Huws
Lluniau gan Elen, Sioned ac Anwen ar FLICKR
