HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pont-y-pant a Llyn Elsi 9 Medi

Neidiodd pump ar hugain o aelodau'r clwb ar y trên ym Metws-y-coed a disgyn ym Mhont y Pant i ddechrau'r daith dros y mynydd. Yna, cerddodd y grŵp trwy'r coetir i Lyn Elsi, lle cawson ni frechdan neu ddwy. Ar ôl cipolwg ar y gofeb a thynnu llun o'r grŵp, aethom i gyd i lawr i Fetws am baned.

Diwrnod hyfryd gyda chwmni ardderchog a thywydd derbyniol.

Adroddiad gan Haf