**Taith Flasu: Copaon Gorllewinol y Carneddau 3 Hydref

Mae’r teithiau blasu'r hydref ma'n tueddu i ddenu llai o sylw na’r rhai rydan ni’n eu cynnig yn y gwanwyn, ac unwaith eto, dyna sut oedd hi. Fodd bynnag, y tro hwn roedd y tywydd llawer gwell na mis Mai ar Gader Idris. Roedd hi’n anarferol o braf am fis Hydref – awyr las glir a thywydd barbeciw erbyn dechrau’r prynhawn ar ôl cychwyn eithaf oer.
Drama gynta’r diwrnod oedd ffeindio rhywle i barcio. Gyda’r daith yn dechrau ychydig yn hwyrach am 9.45, doedd nunlle ar ôl i’r ceir, er mai dyma’r unig anfantais o gael tywydd mor dda. Mi wnaethom ni gychwyn 5 munud yn hwyrach na’r bwriad wrth i’r car olaf ffeindio lle o’r diwedd yng Ngwern Gof Uchaf. Cychwynnodd 12 ohonom o Lan Dena ar hyd Llwybr Llechi Eryri i Wern Gof Isaf cyn croesi’r A5 a cherdded i fyny’r lôn i Ffynnon Llugwy. Dyma ran fwyaf serth y diwrnod, a diolch byth dim ond un fyr ydi hi. Dilynwyd y draphont ddŵr sy’n cludo dŵr rhwng Ffynnon Llugwy a Llyn Cowlyd, a chroesi pont a aeth â ni allan i lechweddau deheuol Pen yr Helgi Du, gan gynnig dringfa gyson i’r copa erbyn hanner dydd. Mi wnaethom ni aros yma am sbel i fwynhau’r golygfeydd godidog o Gwm Eigiau cyn cytuno mai Bwlch y Tri Marchog oedd y lle delfrydol i aros am ginio. Cefais fy nal allan pan ofynnwyd i mi am yr hanes tu ôl i’r enw, felly dyma’r stori – does gen i ddim syniad am ddyddiadau!: Roedd gwrach yn creu bob math o drafferthion yn y cymoedd o gwmpas y ddau fynydd. Aeth tri marchog lleol a ci hela du anferth ati i’w hela hi. Er mwyn dianc, trodd y wrach ei hun yn sgwarnog a ffoi yn uchel i’r mynyddoedd. Datblygodd yr helfa ar draws yr ardal, gan roi enwau i sawl tirnod amlwg ar hyd y ffordd: Pen yr Helgi Du – Roedd y ci yn dilyn yr sgwarnog i fyny’r llechweddau, gan roi ei enw i’r mynydd hwn pen-yr-hel- gi-du. Bwlch Eryl Farchog – Gan obeithio colli’r rhai oedd ar ei hôl, fe wnaeth yr sgwarnog wibio ar draws crib hynod gul a pheryglus. Eryl, y mwyaf dewr o’r tri marchog, arweiniodd y lleill ar draws y bwlch peryglus, gan roi ei enw i’r fan hon. Bwlch y Tri Marchog – Yn flinedig ac yn anobeithiol, trodd y sgwarnog tuag at glogwyni moel ble wwnaeth y tri marchog ei chornelu hi o’r diwedd, gan ei gorfodi i lawr tuag at y dŵr islaw. Wedi’i dal ar y glannau creigiog, daliwyd y sgwarnog gan y ci du. Newidiodd yn ôl i’w ffurf ddynol fel gwrach a boddi yn y dŵr, gan waredu’r cwm o’i hud. Gerllaw, mae Pen Llithrig y Wrach yr un modd yn clymu i hanes yr ardal o daflu merched a amheuid o fod yn wrachod i fewn i lynnoedd.
Yn ôl i’r daith! Cynhesodd y tywydd, gan wneud i’r ddringfa fer o’r bwlch i gopa Pen Llithrig y Wrach deimlo’n llawer anoddach nag ydi hi go iawn. Roedd hi’n braf cyrraedd y copa a chael edrych i lawr ar lyn dyfnaf Cymru, Llyn Cowlyd. Rydw i wedi bod yn ddigon anffodus i gael tywydd gwael ar y copa hwn yn aml. Ar ôl cyfle am fwy o luniau, disgynnom yn gyflym i lawr llechweddau serth y mynydd yn ôl i’r draphont ddŵr uwchben Llyn Cowlyd.
Wedi i ni adael y draphont fe dechreuodd yr antur go iawn. Er bod hwn yn lwybr clir (yn ol OS) i lawr i Dal y Braich Uchaf, mae’r ardal yn enwog am fod braidd yn fawnog a mwdlyd, ac roedd glaw trwm nos Wener wedi gwneud cadw traed yn sych yn ddipyn o her. Wedyn mae yna ffoes fechan i’w chroesi yn is i lawr a roddodd hono ddiwedd ar unrhyw obaith osgoi socsan. Roedd glaw’r noson gynt wedi codi lefel y dŵr ac roedd croesi yn dipyn o antur. Dyna fynydda i chi fodd bynnag, a fyddai’r un daith yn hwyl heb ychydig o ddrama.
Ar ôl y rhwystr yma, roedd hi’n daith ddigon syml yn ôl i’r ceir, ac yna peint haeddiannol i rai yn Nhŷ Mo ym Methesda. Gobeithio gwelwn ni’r rhai oedd ar y daith flasu eto – roedden nhw i gyd yn edrych yn awyddus i ymuno!
Aelodau: Steve, Richard, Sioned Llew ac Iolo.
Blaswyr: Ali, Shan, Emma, Lona, Ffion, Keith, Sian a Bethan.
Adroddiad gan Stephen Williams.
Lluniau gan Steve ar FLICKR
