HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyffryn a Chreigiau Aberedw 30 Awst


Daeth chwech ohonom ynghyd ar ddiwrnod sych ond cymylog ym maes parcio Canolfan Grefftau Hen Orsaf Erwyd oddi ar y A470 i’r de o Lanfair-ym-Muallt, ar ôl gorfod gohirio ddwy waith yn ddiweddar oherwydd y tywydd.

Dechrau yn gyntaf gyda dringfa gweddol serth trwy ddilyn llwybr yng nghanol rhedyn i gopa Garreg Fawr gyda golygfa o Greigiau Aberedw(324 m) i’w gweld i’r gogledd. Yna dilyn y grib tuag at y creigiau. Dyma man uchaf taith y bore. Ar ddiwrnod braf mae golygfeydd hyfryd o ddyffryn Gwy ac i law tuag at y Bannau, ond ddim cymaint heddi!

Yna, disgyn i lawr ochr y creigiau tuag at Ogof Llywelyn, sy’n weddol agos, ar lan afon Edw. Gweddol hawdd oedd ei ffeindio, gyda digon o arwyddion bach syml(gweler lluniau Dewi). Dyma’r man, yn ôl yr hanes, i Llywelyn dreulio ei noson olaf.

Yna, gweithio ein ffordd yn ôl i’r llwybr a dilyn gwaelod y creigiau trwy toreth o redyn. Roedd i fyny i tua chwech troedfedd mewn mannau, byth wedi gweld rhedyn mor uchel. Yna i lawr i’r heol fach sy’n arwain at Aberedw. Croesi’r heol ac yna i fewn i warchodfa natur Y Nyth ar lannau’r afon Gwy. Wedyn dilyn yr afon ar hyd llwybr braf am hanner milltir tan i ni gyrraedd nôl i’r maes parcio am ginio hwyr.

Bwriad taith y prynhawn oedd cerdded ar hyd ‘Y Skreen’ ac yna dringo’n serth i gyrraedd Twyn y Garth(325 m). Ond, tra yn cael cinio, dyma’r tywydd yn newid. Cafwyd pleidlais a penderfynwyd gohirio’r ail ran tan y tro nesaf
Cylchdaith o 7 milltir.

Yn cerdded oedd Rhun, Dewi, Bruce, Eileen, Pens ac Alun

Adroddiad gan Rhun

Lluniau gan Dewi ar FLICKR