HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Rhobell Fawr 29 Tachwedd


Roedd rhagolygon y tywydd ar y dydd hwn yn wael iawn ond  serch hyn, rhoddodd saith aelod  cynnig arni sef Roger, Anne, Iola, Huw, Andras, Gethin a minnau.

Cychwyn o Llanfachreth drwy Glasgoed ac i ben Bwlch Goriwared lle gafwyd seibiant byr i ail drefnu dillad a llymiad sydyn o ddiod. Ymlaen wedyn heibio Ffynnon Shon heb weld dim o’i hoel ac ymlaen am y copa. Cafwyd olygfeydd tipyn gwell na’r disgwyl wrth godi mewn uchder, Y Rhinogydd tuag at gyfeiriad Trawsfynydd a criw Cadair Idris gyda Penygadair â’i gap gwyn tu draw i Ddolgellau.

Dirywiodd y tywydd wrth agosau at y copa ac heb oedi dim ond am y llun hanfodol o’r copa ac ymlaen am gysgod i gael tamaid o ginio sydyn. Disgyn yn weddol serth wedyn i gyfeiriad Tŷ-newydd-y-mynydd a chodi trac amlwg yn dychwelyd â’r criw gwlyb nôl i Llanfachreth.

Diolch i pawb am y cwmni ac am wneud fy nhaith gyntaf fel arweinydd mor rwydd.

Adroddiad gan Gareth Hughes (Llan)

Lluniau gan Gareth ar FLICKR