Taith Dyffryn Ewias 26 Gorffennaf
Ar ddydd hyfryd o Orffennaf daeth cwmni dethol ynghyd ger Abaty Llanddewi Nant Honddu yn nhawelwch Dyffryn Ewias rhyw hanner ffordd rhwng Y Fenni a’r Gelli Gandryll. Dringo’n serth i’r grib sef Clawdd Offa, dim ond crawc y gigfran a chri’r barcud yn torri’r distawrwydd. Ambell i Dinwen y garn yn chwilota yma a thraw yn y grug a’r rhedyn.
Esgyn lawr i Gapel y Ffin gan ddod ar draws cerddwraig unigol o Fethesda- estyn croeso iddi yn y fan a’r lle i ymaelodi gyda’r Clwb!
Croesi Nant Honddu ac esgyn yn serth unwaith eto i ochr Orllewinol Dyffryn Ewias a’i ffin gyda Dyffryn Grwyne. Cwrdd a phererin ger copa Eingion y Gôf na’th adrodd hanes ei fywyd mewn cwta tair munud.
Cerdded ar hyd y grib, a’r awel yn dechrau codi, dros Bal Mawr a throi ger Bal Bach lawr drwy Gwm Bwchel nôl i’r Abaty.
Tua 11 milltir a 795 m o esgyn.
‘ Nant Honddu a Llanfaches…
Mi gofiaf innau gynt
Am seintiau a’u gweddiau
Yn gan ar dannau’r gwynt;
Yn Nhyndyrn mwy a Chapel y Ffin
Caf ddrachtio’n hir o hen, hen win.’
Adroddiad gan Alun Reynolds.
Lluniau gan Dewi Hughes ar FLICKR