Crib Goch a Charnedd Ugain 26 Gorffennaf
Wrth gynnig y daith hon ar gyfer canol haf, roeddwn yn breuddwydio am haul ac awyr las a chreigiau sych a chynnes dan draed ond, er “disgwyl pethau mawr i ddyfod, croes i hynny maent yn dod”, ac ysbeidiau o law mân a niwl trwchus parhaus tua’r copaon a gafwyd tan i ni droi am i lawr ar ddiwedd y dydd. A do, cafwyd golygfa braf o Grib Goch dan heulwen fin nos – wedi i ni gyrraedd y gwaelod.
Y siom nesaf oedd gweld y bws o Gaernarfon yn mynd heibio heb hyd yn oed droi i mewn i faes parcio Nantperis, ond daeth Iolo oddi arno i egluro ei fod eisoes yn llawn. Dim llawer o bwys, daeth bws deulawr ymhen rhyw ugain munud, a hwnnw hefyd yn orlawn, i’n cludo at Bont y Gromlech. Aeth rhan gyntaf y daith o ddringo’n gyson heibio bwthyn Blaen-y-nant i fyny Cwm Glas Mawr yn eithaf rhwydd, ond gydag esgyniad serth iawn dros greigiau llithrig ar y darn olaf, cyn mwynhau paned sydyn ar lan Llyn Glas. Roedd y sgri i gyrraedd crib ogleddol Crib Goch mor rhydd ag arfer ond braf wedyn oedd dilyn y grib gul honno i’r copa – a’r niwl o bobtu yn gwneud pethau rhywsut yn fwy trawiadol nac arfer.
Roedd angen cryn ofal gan gymryd pethau’n ddigon araf ac, hyd yma, dim ond tri o bobl a welwyd. Newidiodd pethau wedyn wrth groesi Crib Goch ei hun a’r symud yn arafach fyth gan fod amryw o’n blaen yn cropian drosodd! Wedi cinio ym Mwlch Coch, cafwyd rhagor o sgrialu haws ond digon difyr ar Grib y Ddysgl. Ar gopa Carnedd Ugain, doedd gan neb awydd mynd i gopa’r Wyddfa dim ond i weld rhagor o ymwelwyr yng nghanol y niwl. Penderfynwyd hefyd newid o’r bwriad gwreiddiol i ddod lawr dros Gyrn Las ac, yn hytrach, aethpwyd am Orsaf Clogwyn a dilyn yr awgrym o lwybr i lawr Cwm Hetiau i Gwm Glas Bach sy’n gyfarwydd i’r rhai sydd wedi troedio’r pedwar copa ar ddeg.
Na, doedd y tywydd ddim ar ei orau a hynny, oherwydd natur y daith a’r angen i sgrialu, yn cael cryn effaith ond diwrnod mwy na gwerth chweil serch hynny (byddai tywydd braf bob tro’n ddiflas!!) a diolch i Iolo, Trystan, Gethin, Eifion o Harlech, Richard (ffoadur o Uwchaled yng Nghaerdydd), Elen, Sioned a Nia Wyn am eu dycnwch a’u sirioldeb.
Adroddiad gan Eryl Owain.
Lluniau gan Sioned Llew ar FLICKR