Diwrnod Ymarfer Map a Chwmpawd efo Dwynwen a Manon 26 Ebrill
Ar ôl ychydig o waith paratoi a sicrhau cymorth dwy arweinydd mynydd profiadol i helpu doedd dim ar ôl i neud ond gobeithio am dywydd priodol…. niwl!!
Y criw awyddus i ymestyn eu sgiliau map a chwmpawd oedd Sioned Llew, Eirlys, David, Meic, Sian, Nia Wyn, Matthew a Dylan a ’r ddwy wnaeth wirfoddoli i ’m cynorthwyo oedd Elen a Manon.
Cafwyd groeso cynes yn Caffi Nantgwynant a chysgod o ’r glaw i gael paned a rhyw awr o drafod egwyddorion mordwyo cyn cychwn am y mynydd gyda ’r glaw yn arafu.
Am weddill y bora, wrth i ’r cymylau godi, cafodd y criw ymarfer cyfeirio ’r map a chwilio am wahanol nodweddion er mwyn medru lleoli ar y map. Bu ymarfer darllen cyfuchliniau a ddefnyddio cyfuchliniau a nodweddion llinol fel canllaw wrth gerdded am Graig Gladstone.
Ar ôl cinio dyma rannu y criw yn dri grŵp er mwyn cael ymarfer defnyddio map a chwmpawd i amcanu pellter a chyfeiriad dros gymalau yng Nghwm Tregalan. Daeth Sian, Nia a Meic efo fi ac ar ôl rhyw dau neu dri o gymalau roeddynt yn taro ’r nod yn dda. Aeth Sioned, Eirlys a David efo Elen ac aeth Matthew a Dylan, sydd eisoes wedi gwneud hyfforddiant arweinydd mynydd, efo Manon. Cafodd y ddau yma eu herio gan Manon ac mi ddaru eu sesiwn nhw fel asesiad arweinydd mynydd a hyd yn oed ganfod ychydig o niwl i wneud pethau yn anoddach fyth.
Cafwyd gerdded yn hamddenol yn ôl i lawr ar ddiwedd y pnawn ac yn ôl i ’r caffi am banad a sgwrs i gloi diwrnod llwyddiannus.
Diolch i ’r criw am eu cwmni a diolch yn arbennig i Elen a Manon am helpu.
Adroddiad gan Dwynwen
Lluniau gan Dwynwen ac eraill ar FLICKR