Taith i Ben Draw’r Byd 23 Gorffennaf
Mentrodd pedwar ar hugain ar y daith i ben pella Llŷn ar 23ain. Gorffennaf sef Roger, Eirwen, Alun, Anet, Susan, Paula, Gwyn, Gwynfor, Cleif, Edwin, Siwsan, John Arthur, Haf ,Gwenan, Nia Wyn, Eryl, Angharad, Buddug, GwynRoberts, Iona, Arwyn, Gwenan a Gwil ac ambell un wedi gorfod cychwyn yn blygeiniol i gyrraedd yno mewn da bryd. Roedd hi’n fore tawchlyd gydag Enlli i’w gweld yn llwyd yn y y mwrllwch, y Swnt yn ddigon di-gynnwrf a’r grug a’r eithin yn eu blodau hyd y llethrau.
Roeddem yn cychwyn uwchlaw Ffynnon a Chapel Mair ac wrth droedio at gopa Mynydd Mawr gallem weld oddi tanom y Maen Melyn y cyfeiriodd Dafydd Nantmor ato yn ei gywydd molawd i Wallt Llio.
O ben Mynydd Mawr dilyn llwybr serth yr arfordir i lawr i Borth Llanllawen cyn codi’n raddol hyd lethrau Anelog a chael hoe bach am ginio cyntaf tra’n edrych yn ôl at Drwyn Braich a‘i glogwynni’n plymio i‘r môr. Dotio at enwau’r cilfachau a’r creigiau sydd wedi eu cofnodi mor fanwl yn llyfr Elfed Gruffydd ‘Ar hyd ben ’Rallt’. Y Cyfrwy, Pwll Darllo, Bwrdd Robat Ifas, Twll Robat Ifas, Ebolion Pwll Wgwr, Y Noddfa i enwi ond ychydig ohonynt.
Cerdded dros war Mynydd Anelog i olygfa reit wahanol gydag ehangder Gwlad Llŷn yn agor o’n blaenau a chael hanes y saer gwlad ac adeiladwr cychod Aberdaron, John Thomas. Roedd cychod Aberdaron yn gychod pysgota unigryw ddatblygodd yn gychod hwylio a ddefnyddid gan Gymdeithas Hwylio Hogia Llŷn yn eu rigetas wythnosol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Cymdeithas hwylio unigryw iawn gan mai Cymry Cymraeg lleol oedd yr aelodau ac mai’r Gymraeg oedd ei hiaith.
Gweld Mynydd Carreg heb fod ymhell lle bu cloddio am siaspar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwelir cochni’r garreg ar sawl traeth ac mewn waliau cerrig ac adeiladau ym mhen draw Llŷn. Cafwyd ar ddeall hefyd mai siaspar o Fynydd Carreg ddefnyddiwyd i addurno adeilad fu’n Fanc y Norwich Union ac sy’n sefyll ar gornel stryd St. James a Piccadilly yn Llundain.
Yn fuan iawn roeddem ym Mhorth Orion ac yn troi am y tir i gyfeiriad Capel Carmel, Siop Plas a draw am y Gors lle canfuwyd dwy garreg fedd o’r chweched ganrif. Credir mai yno roedd Capel Anelog neu Gapel Ferach. Erbyn heddiw mae’r cerrig i’w gweld yn Eglwys Hywyn Aberdaron.
Codi unwaith eto dros ochr Mynydd Anelog a Bae Aberdaron ac Ynysoedd Gwylan oddi tanom a phawb yn barod am eu hail ginio. Draw am Bwll Ciw a hanes Meddyges Bryn Canaid cyn ymlwybro’n ôl at y ceir a phanad a chacan dderbynniol iawn yng Nghaffi Pen Draw’r Byd
Adroddiad gan Gwenan Roberts.
Lluniau gan Gwenan ac Eirwen ar FLICKR