HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Pedwar Cwm 23 Ebrill


Braf iawn oedd cael croesau criw da o 18 i’r Bont-ddu ar gyfer taith ar hyd rhai o lwybrau cynefin yr arweinydd ac, wedi gorfod gohirio wythnos yn ôl oherwydd rhagolygon am law trwm, cawsom ddiwrnod cwbl sych, a heulog hefyd ar y cyfan.

O’r man cyfarfod ar y Drofa Goch (rhowch feiro flin drwy’r Fiddler’s Elbow welwch chi ar y mapiau), roedd rhaid cerdded yn serth tuag at ffriddoedd agored a golygfeydd da tuag at Lyn Penmaen a Dolgellau i gyrraedd Coed Garth-gell, sydd yn Warchodfa Natur dan ofal y Gymdeithas dros Warchod Adar. Roeddem bellach wedi croesi’r gefnen i Gwm-mynach ac wedi cyrraedd Garth-gell, cyfle am baned yng nghysgod y ffermdy solet a sylweddol sydd yn dŷ gwyliau ers degawdau.

Dilyn llwybrau dymunol wedyn dros gwr Mynydd y Clogau a heibio i agorfeydd Yr Hen Glogau, lle bu’r cloddio cyntaf am aur yn yr 1840au. O edrych tua’r gorllewin tua’r bryn gyferbyn, gallem weld olion mwynglawdd y Figra, lle’r oedd copr yn cael ei gloddio ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i’w allforio o’r Bermo i Abertawe ar gyfer gweithfeydd niferus yr ardal honno. Yn ôl hen stori, daeth mwynwyr yno o hyd i rhyw fwyn dieithr a melynach na’r arfer a phenderfynu ei ddanfon at y perchnogion rhag ofn y byddai o rhyw werth. ‘Wrth gwrs’, oedd yr ateb, ‘cloddiwch cymaint a fedrwch o’r mwyn yma’!

Oddi tanom, i’r dde, roedd Cwm-llechen unig a gwag yn ymestyn hyd tuag at Diffwys, yr ail gwm yr oeddem yn ei weld os nad yn ei droedio. Agorwyd gwaith Clogau Newydd yn y cwm ar ddechrau’r 1860au wedi dod o hyd i wythïen gyfoethog ‘Parry’s Bunch’, ar ôl rheolwr neu gapten y gwaith, John Parry. Ond byrhoedlog iawn oedd y llwyddiant a meth-dalodd y cwmni ymhen ychydig flynyddoedd. Dyna’r patrwm wedyn – cloddio ysbeidiol a pheth llwyddiant o dro i dro – hyd at yr 1880au.

Wedi cerdded i lawr i Gwm Hirgwm a dod i’r ffordd ger Llech-fraith, lle ganwyd arweinydd y daith, a dilyn y ffordd at Bont Tyn-glan ar lafar, ar ôl ffermdy Tŷ-yng-nglan-yr-afon. Wrth ymyl, mae tŷ gwyliau gyda chloch-dy eglwys ar ei do. Gan mai yn Llanaber, yr ochr draw i’r Bermo, oedd unig eglwys y plwyf, chwe milltir a mwy i ffwrdd, penderfynodd masnachwr o Hendre-forion gerllaw, a wnaeth ei ffortiwn efo’r British East Indies Company ddiwedd y ddeunawfed ganrif, adeiladu eglwys ar gyfer trigolion Cwm Hirgwm. Yn anffodus, bu farw cyn ei hagor ac ni chafodd yr eglwys erioed ei chysegru a bu’n feudy tan yn ddiweddar.

Cafwyd dargyfeiriad bach wedyn i lawr gyda'r afon at agorfeydd Clogau St David’s. Dyma oedd y gwaith pwysicaf o’r 1880au ymlaen gyda pheiriannau gwell a buddsoddi helaeth yn ei gwneud yn bosib i dyllu’n ddyfnach ac ymhellach i ymuno dan ddaear â’r gweithfeydd eraill. Oes Aur y cloddio oedd rhwng 1899 a 1907 pan gynhyrchwyd 60,000 owns o aur, gwerth tua £150 miliwn yn ôl pris aur heddiw.

Ni fu dim cloddio llwyddiannus ar raddfa fawr wedi hynny ond gall yr arweinydd gofio clywed sŵn ffrwydro dan ei gartref yn Llech-fraith gyda’r esboniad “eu bod nhw” wrthi yn y gwaith aur. Y ‘nhw’ erbyn hynny oedd dau ffarmwr lleol, Huw Edwards, Caerdeon a John Williams, Bwlch-coch a gadwodd y traddodiad yn fyw gan daro ar peth aur o dro i dro.

Prynwyd yr hawl i gloddio yn yr 1980au gan gwmni Clogau Gold Mines a llwyddwyd i ddarganfod digon o aur i gyflenwi’r cwmni Clogau Gold sy’n dal i fasnachu heddiw gan werthu gemwaith a thlysau sy’n cynnwys ‘traces of Welsh Gold’, yn ôl eu hysbysebu. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cwmni arall, Alba Mineral Resources, wedi buddsoddi cryn dipyn mewn archwilio gwyddonol gan ymddangos yn hyderus y byddant yn dod o hyd i gyflenwadau sylweddol o aur unwaith eto. Cynhyrchwyd tri darn – coin – owns o aur pur ddechrau’r flwyddyn (2025) a’u gwerthu mewn ocsiwn am dros £20,000 yr un, tuag wyth gwaith gwerth yr aur ynddynt.

Yn ôl ar y daith, cerdded i fyny’r cwm i derfyn y ffordd ym Manc-y-frân a saib haeddiannol yno am ginio cyn cychwyn ar i lawr trwy weddillion coedwig pîn newydd ei thorri i Gwm Dwynant, heibio i Bwlch-yr-ysgol ac i lwybr dymunol  ar hyd ochrau’r Geuos gyda rhagor o olygfeydd gwych, erbyn hyn tuag at Arthog a’r Bermo ac aber afon Mawddach. Does ryfedd i rhyw fardd o’r enw Ioan Glan Mawddach lunio’r englyn bach yma

            Wrth fryn serth, nid oes prydferthach – na thref
                   A thraeth Abermawddach;
               A geir porthladd rhagorach
               Yn Iwrob, na’r Bermo bach?

Cafwyd saib fach i edrych i lawr drwy’r coed ar eglwys Caerdeon y bu i’w hadeiladu yn 1862 achosi cryn gynnwrf ac a arweiniodd at basio deddf seneddol. Fe’i cynlluniwyd gan John Luis Petit ar ffurf eglwys fynyddig yng Ngwlad y Basg ar gais ei frawd-yng-nghyfraith, y Parch. W. E. Jelf a oedd wedi ymddeol yn gynnar (yn 42 mlwydd oed!) a phrynu stad Caerdeon. Roedd yn ysgolhaig gyda gradd dosbarth cyntaf o Rydychen a byddai’n rhoi gwersi preswyl i fyfyrwyr i astudio Lladin a’r Clasuron. Bwriadwyd yr eglwys fel un breifat, Saesneg ei hiaith, ar gyfer teulu a myfyrwyr Jelf. Gwrthwynebwyd hynny’n gryf gan Reithor Llanaber, y Parch. John Jones, a oedd yn dadlau y dylai’r eglwys fod ym mhentref Bont-ddu ar gyfer y trigolion lleol. Cafodd gefnogaeth gan eglwyswyr o Gymru ond roedd gan Jelf ei gysylltiadau hefyd a chyflwynwyd Bil yn 1863 gan rhai o Esgobion Tŷ’r Arglwyddi a ddaeth yn English Services Act, yn datgan bod yn rhaid cynnal gwasanaethau yn Saesneg os oedd deg neu fwy o blwyfolion yn gwneud cais am hynny.

Daethpwyd i lawr i’r ffordd fawr ger maes parcio a phic-nic Gell-rudd, gyda dros filltir o gerdded drwy bentref Bont-ddu yn ôl at y Drofa Goch. Diwrnod da a’r unig siom oedd nad oedd unlle cyfleus yn lleol am baned a sgwrs i ddiweddu’r dydd. Diolch i bumawd Môn, Nia a Meirion, Ann, Winnie a Margaret a chyfaill iddynt, Justin o Gaerdydd, Dafydd o Ddinbych, Eirlys (yr unig un i gyrraedd o gyfeiriad y Bermo!), Erddyn, Dilys ac Aneurin, dau Huw – o Lan-dre a Mallwyd, Iona, Nia Wyn Seion a dau Gwyn – Deiniolen a Chwilog am fod yn gwmni diddan a hawddgar i Angharad a minnau.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Aneurin ag Eryl ar FLICKR