HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa a’r Lliwedd o Nant Gwynant 22 Tachwedd


Dyma 7 ohonom, sef Andras, Alice, Dafydd, Elen, Gareth, Gwyn a finnau yn cyfarfod yng nghulfan hen lôn pentref Nant Gwynant am 9. Trwy lwc, newydd i'r glaw toreithiog y noson gynt darfod tua hanner awr yn gynharach. A’r glaw a olchodd ein mymryn o Fynydda gaeafol i ffwrdd !! Cychwyn wedyn yn ddi-stŵr am ac i fyny Llwybr Watkin nes cyrraedd y bont cerrig ar pistyll afon Cwm y Llan. Wedi i ni ei groesi, a dringo ychydig…. mi wnaethom feddwl y bysa fo wedi bod yn lle da am lun bach!!! Ond, erbyn hyn roedden wedi dringo gormod a neb yr awydd mynd yn ôl i lawr i ystun y camera!!! Ymlaen a ni i fyny ac i fewn i Gwm Merch nes cyrraedd y cyn safle mwyngloddio copr “Chwarel Cwm Erch” sy’n eistedd ar 1,500’/457 m ar lethrau deheuol Lliwedd.

Roedd sawl enw ar y chwarel yma, fel Cwarel Llwyd, Chwarel Llywydd a Bwlch Mwlchan ar ôl y fferm gafodd ei dymchwel i osod y felin ar hoel y tŷ fferm!! Gyda hyn, roedd sawl chwarel mwyngloddio yn yr ardal yma (Yr Wyddfa), ond chwarel y Lliwedd oedd y chwarel fwyaf cynhyrchiol. Agorwyd y chwarel yma yn y 19eg ganrif ac yma oedd y prif fwyngloddio, gyda’r gweddill ar lethrau deheuol a gorllewin Lliwedd. Bellach, dim ond ei hoel sydd ar ôl i’r cerddwyr syllu ar y gwaith a’r peirianneg aeth i mewn i’w gweithio!!

Ar ôl croesi'r Afon Merch, ger y chwarel, bu sawl munud o seibiant i edrych ar y dyffryn crog, sef Cwm Merch oddi tanom cyn cyrraedd y copa gyntaf, Gallt y Wenallt yn eistedd ar 2,030’/619 m a chael cinio a sgwrs wrth fwynhau'r olygfa 360° o’n cwmpas.

Wedi cinio, ail dechrau ar y rhan uchaf o’r daith wrth fyrlymu dros 3 is-gopa di-enw yn unswydd – un ar ôl llall, 606 m/649 m/694 m. Y targed nesaf oedd Lliwedd Bach, 2,683’/818 m, sgrialu hawdd wrth ddilyn y llwybr amlwg nes cyrraedd y copa, ac yna yn ddi-lol, syth ymlaen am y copaon eraill, copa dwyreiniol, copa gorllewinol, sef y prif gopa ac 2,946’/898 m. Wrth reswm, fysa hi ddim yn daith clwb heb yr hunlun o’r Copa neu “Summit Selfie”. I lawr wedyn wrth fyr-gamu a sgrialu i lawr yr ysgwydd ddi-lwybr i Fwlch Ciliau am banad a sythu ein hunain, cyn dychwelyd yn ôl i lawr grisiau cerrig Llwybr  Watkin.

Diolch i bawb am eu cwmni ac wrth gwrs, am y tywydd ffafriol.

Adroddiad gan Keith Roberts

Lluniau gan Keith ac Elen ar FLICKR