Pen yr Ole Wen a Charnedd Dafydd 20 Rhagfyr

Ar ôl tua 4 diwrnod o chwarae “chicken” efo’r tywydd a meddwl am bob math o ddewisiadau am deithiau i osgoi gwynt, osgoi tir gwlyb, osgoi afonydd uchel, yn ôl i plan A oedd hi a chyfarfod yn Glan Dena i fynd am Ben yr Ole Wen a Charnedd Dafydd.
Y criw, oedd wedi dewis mynydda yn lle siopa ‘dolig, oedd Sioned Llew, Gwyn Deiniolen, Anwen, Sioned, Manon, Elen, Matthew, Sandra, Geralli a fi. A cafodd y deg ohonom ein gwobrwyo am ddewis mynydda efo haul ac awyr lâs.
Ar ôl cychwyn hamddenol fyny gyda Afon Lloer a dros y sgrambl bach i ganfod ysgwydd Pen yr Ole Wen dyma’r gwynt yn cryfhau a daeth y cerdded yn fwy heriol. Ar ôl cael cysgod am baned sydyn ymlaen am y copa a oedd yn gopa cynta i Anwen er mawr syndod pawb gan gysidro faint o fynydda mae wedi neud.
Roedd y daith o Pen yr Ole Wen i Garnedd Dafydd, sydd fel arfer yn ddarn hawdd, yn heriol iawn efo gwynt o’r de ddwyrain yn taro’r fraich. Da oedd cael cysgod yn y gorlan ar y copa a paned arall. Cerdded haws wedyn yn ôl lawr heibio Ffynnon Lloer i lawr Dyffryn Ogwen.
Oedd hi’n ddiwrnod da i dynnu lluniau efo golau’r haul gaeaf isel a cymylau yn carlamu dros y copaon, cafodd Matthew, Gerallt a Sioned Llew luniau gwerth eu gweld.
Efo taith gweddol fyr roedd digon o amser i gymdeithasu a diweddglo’r daith oedd peint (neu 2-3 i heini oedd ddim yn gyrru) a lot o chwerthin yn Ty’n y Coed.
Diolch i pawb am eu cwmni, diwedd da i fynydda 2025.
Adroddiad gan Dwynwen Pennant.
Lluniau gan Matthew, Gerallt, Sioned Llew, Anwen a Sioned ar FLICKR
