HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith o amgylch Llyn Elsi, Betws-y-coed 19 Tachwedd


Cafwyd diwrnod braf ar gyfer ein cylchdaith o amgylch Llyn Elsi, uwchben Betws y Coed. Y cam cyntaf oedd i ddilyn yr A470 at y bont fach dros yr Afon Lledr, heibio Llawrynys a troedio’r ffordd fach sydd yn dilyn yr afon tua Pont Gethin. Yn anffodus, mae’r bont droed sy’n croesi’r Lledr wedi dirywio’n arw, ond croesi hi oedd rhaid er mwyn cario ymlaen gyda’r daith. Cymal go serth nesaf, i gyrraedd Llanerch Elsi, cyn dilyn ochr gorllewinol y llyn a cael llecyn cysgodol i gael ein cinio. Ymlaen wedyn i’r cofgolofn sydd yn coffau agor y llyn fel cronfa ddŵr i Betws y Coed ym mis Mehefin 1914. Yn wreiddiol roedd dau lyn bach yma, Llyn Rhisgog a Llyn Enoc. Cafwyd golygfa godidog o Foel Siabod, y Glyderau a’r Carneddau dan drwch o eira o’r fan hyn, ond gyrrodd y gwynt oer a ni ar ein ffordd yn ôl tua Llanerch Elsi, Mynydd Bychan ac yn ôl i’r Dyffryn.

Ar y daith - Eryl, Angharad, Gwyn, Anet, John, Iona, Paula, Gwyn, Susan, Hefin, Margaret, Raymond.

Adroddiad gan Raymond Griffiths

Lluniau gan Raymond ac Eryl ar FLICKR