Coedwig Gwydyr 15 Tachwedd

Taith hawdd a hamddenol iawn oedd Aneurin a fi (Dilys) yn gynnig ar ddiwrnod y Cyfarfod Blynyddol i wrthgyferbynnu hefo’r daith fwy heriol oedd gan Dwynwen. Roeddem yn falch o groesawu chwech aelod ac un gwestai atom i faes parcio Hafna, Nant Bwlch yr Haearn, y bore ar ôl i storm Claudia chwythu drwy’r wlad a gadael y tir dan draed yn wlyb diferyd. Er hynny, cawsom daith heb ddiferyn o law na chwa o wynt.
I gychwyn roedd rhaid dringo i fyny drwy olion y gwaith plwm. Bu mwynglawdd yma ers y 18fed ganrif a’r hyn oedd yn ei wneud yn unigryw ac arloesol oedd fod ganddo ei ffwrnais ei hunan i doddi’r plwm. Mae olion y ffwrnais i’w gweld o hyd ynghyd â’r simdde fawr oedd yn gollwng y nwyon.
Ar y bryn uwchben y gwaith plwm mae Llyn Pen y Gwaith, cronfa a adeiladwyd tua 1850 i gael cyflenwad dŵr i yrru’r peiriannau yn Hafna. Hwn oedd y cyntaf o bum llyn i ni ymweld â nhw ar y daith. Yr un nesa oedd Llyn Glangors, ac yma cawsom stori gan Iona am yr actorion John Alderton a’r ddiweddar Pauline Collins yn dod yno i ffilmio un o’u cyfresi. Aethom heibio Castell y Gwynt nesa, un llawer is na’r un ar y Glyderau!
Wrth Lyn Bodgynydd Bach, sydd mewn gwarchodfa natur, cawsom seibiant am baned ac edmygu’r gwahanol fathau o ffwng oedd yn tyfu yn yr ardal, cyn mynd ymlaen am ein ail fwynglawdd, sef gwaith cloddio Cyffty. Roedd y gwaith yma’n weithredol tan 1921 a gallem weld olion yr hen olwyn ddŵr fawr oedd yn pweru pwmp i bwmpio dŵr allan o’r mwynglawdd.
‘Roedd rhaid croesi tir braidd yn gorsiog wedyn a cherdded ymlaen trwy goedwig heibio i lyn bach arall dienw (Coedmawr efallai?) er mwyn cyrraedd Llyn y Parc, llyn hir a llonydd. Wedi seibiant arall yma i gael ail ginio aethom ymlaen gyda glan y llyn (a dod ar draws rhywun yn diosg ei dillad er mwyn nofio ynddo!) ac yna dilyn llwybrau coedwig yn ôl i’r man cychwyn a’r ceir.
Diolch am gwmni Gwen, Eirlys, Iona, Buddug, Gaenor, Gwyn a Mair ar daith y gweithfeydd plwm a’r llynnoedd bychain.
Adroddiad gan Dilys Phillips.
Lluniau gan Aneurin ar FLICKR
