HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Sgrialu Tryfan a Glyder Fach 15 Tachwedd


Dyma gyfarfod yng Nglan Dena efo’r cymylau at lawr y dyffryn a glaw mân cyson. Serch hynny, y criw hwyliog oedd Sioned Llew, Eryl, Gethin, Andras, Elen, Gwyn, Manon, Gerallt a fi.

Y bwriad oedd mynd i sgramblo ac anelu am Grib Ogleddol Tryfan a’r Grib Danheddog ond roedd gan Strom Claudia syniadau eraill ac felly Plan B oedd hi.

Gan mai taith gradd ddu oedd hon i fod roeddwn yn ymwybodol fod rhaid gwneud rhywbeth ychydig yn heriol a chael o leiaf un copa. Cytunwyd na taith gradd ‘lwyd’ fasa hi wedi bod yn hytrach na du.

Yn rhan gyna’r daith aethom i fyny godra Tryfan a chanfod Llwybr y Gwregys (Heather Terrace) a’i ddilyn am gopa deheuol Tryfan. Roedd y llwybr yma yn newydd i 4 o’r criw ond piti na welwyd dim byd wrth ei droedio. Braf oedd dod ar draws Carwyn am sgwrs ar y grib, doedd hyd yn oed Carwyn am fentro’r Grib Danheddog yn yr amodau yma.

Ar ôl disgyn i Fwlch Tryfan dyma ymuno efo Llwybr y Mwynwyr a mynd ar gyfeiriad Llyn Caseg Fraith, roeddem bron i fewn yn y llyn cyn ei weld. Ymlaen wedyn dros gopa Foel Goch ac i gopa Gallt yr Ogof. Yma gadawodd Eryl ni er mwyn cymeryd ‘short cut’ am adra.

Cafodd gweddill y criw ginio ym Mwlch y Goleuni ond doedd dim goleuni na golygfa, dim ond cwmni difyr a sgwrsio am fandiau pop o bob dim.

Ar ôl disgyn i lawr i Gapel Curig aethddom yn ôl i Lan Dena ar y Llwybr Llechi a chyrraedd mewn digon o amser i gael peint ac ymbincio cyn y cyfarfod.

Diwrnod da er y newid cynllun, diolch i pawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Dwtnwen Pennant.

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR