Penwythnos Mynydda'r Urdd 10-12 Hydref
Er bod y nawdd a godwyd er cof Gareth Pierce i gynnal penwythnos mynydda yng Nglan-llyn ar gyfer pob ifanc wedi dod i ben, mae'r Urdd wedi penderfynu parhau i gynnal yr hyfforddiant. Nid oes cysylltiad â Gareth, na'r clwb bellach, ond meddwl y byddai o ddiddordeb i'n haelodau a gefnogodd y gronfa er cof i wybod bod y penwythnos yn parhau. Er eu bod yn gorfod talu'n llawn erbyn hyn, cafwyd yr ymateb gorau hyd yn hyn gyda17, o bob rhan o Gymru'n mynychu.
Cawsant benwythnos rhagorol o fynydda; ar y Moelwynion ddydd Sadwrn, gyda'r tywydd yn niwlog yn y bore ond yn codi'n braf at y p'nawn ac yna, ar y Sul, y profiad gwych o wrthdroad, haul braf, awyr las a golygfeydd arbennig.
Adroddiad gan Eryl Owain.
Lluniau gan Eryl ar FLICKR