Y ddwy Glyder 8 Tachwedd

Dathlu penblwydd Geth yn 30eg!
Daeth criw o 21 i gerdded taith Y ddwy Glyder, a drefnwyd i ddathlu penblwydd Gethin yn 30! Ar ôl tridiau o law trwm, cwmwl isel a niwl a gawsom ar gychwyn y daith wrth ddilyn llwybr Cwm Idwal.
Croesi’r afon ac anelu am Lyn Bochlwyd oedd y cam cyntaf, yn ystod y amser yma fe sgwrsion gyda aelodau or Clwb a dal i fyny efo beth oedd ar y gweill i ddathlu penblwydd Geth gyda’r nos! Roedd llawer iawn o chwerthin yn mynd ymlaen, gyda aelodau or criw yn tynnu coes Geth am ambell gelwydd gwyn a thynnu coes!!
Ar ôl seibiant byr wrth Llyn Bochlwyd fe aethom am Fwlch Tryfan a stopio yno i gael panad gyntaf y dydd.
O Fwlch Tryfan, aethom ymlaen drwy ddilyn Llwybr y Mwynwyr at lannau Llyn Caseg Fraith ac anelu i gyfeiriad Glyder Fach. Yn y fan hyn collodd Geth y falŵn mawr oedd yn ei gario, wrth i Keith Tân gydio yn y balŵn – a dyna oedd diwedd y falŵn!
Ar ôl sesiwn dynnu lluniau wrth Y Gwyliwr, aethom heibio i Gastell y Gwynt lle cafwyd cinio yn ei gysgod. Dillad glaw oedd y cam nesaf wrth i gawod o law trwm ein styrbio, aethom ymlaen wedyn yn reit handi am gopa Glyder Fawr.
Ar y copa fe arweiniodd Gerallt ni at Ffynnon Wil Owen (sef y Ffynnon ail uchaf yn Eryri), lle cafodd rhai ohonom flasu’r dŵr! Gwneud ein ffordd wnaethom wedyn i lawr y llethr llithrig uwchben Llyn y Cŵn; ac yna, yn groes i’r arfer, sgrialu ar i lawr wrth fynd heibio’r Twll Du cyn cyrraedd y llwybr ger Llyn Idwal. Aethom yn ein blaenau i lawr i’r maes parcio yn Ngwm Idwal i fynd mlaen am Gapel Curig i ddechrau dathlu penblwydd arbennig Gethin. Diwrnod da!
Adroddiad gan Sandra Lynn.
Lluniau gan Gerallt ar FLICKR
