HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O’r môr i’r môr dros y miloedd 8 Mehefin


Ar ôl cael ein difetha ym mis Mai efo tywydd sefydlog roedd hi n nôl i r arfer o edrych ar ragolygon y tywydd bob awr, pawb yn trafod pa wefan oedd yn rhoi r rhagolygon gorau. Yn anffodus doedd dydd Sadwrn ddim ffit i droi ci allan, heb sôn am drio neud taith 37 milltir, felly dydd Sul amdani.

Nath y criw gyfarfod yn oriau mân y bore yn Abergwyngregyn a dyma gychwyn am 3:00 ar ei ben. Y criw hwyliog yn cynnwys Erwyn a Mot (mwy am Mot toc), Mark, Gethin, Siôn, Dylan a Dwynwen.

Dyma gychwyn am y Carneddau heibio pen uchaf rhaeadr Aber a chanfod ein sialens cyntaf o r dydd sef sut i groesi r afon oedd mewn lli mawr wedi glaw dydd Sadwrn. Roedd hi n llawer rhy fuan yn y dydd i wlych traed, rhywsut  llwyddodd pawb i gadw n sych ac ymlaen a ni a ddringo n serth drwy r grug am y Bera. Rhoddem mewn cwmwl trwchus o tua 600 m bu bron iawn i ni gerdded mewn cylch wrth geisio canfod y llwybr am Foel Grach, mae Strava yn dangos pob pechod!

Ar ôl saib fer yn y cwt ar Foel Grach ymlaen wedyn dros gopaon Carnedd Llywelyn a Dafydd. Wrth ddisgyn lawr heibio Ffynnon Lloer i Glan Dena dyma ni allan o r cwmwl unwaith eto a chyfarfod Gerallt am ein seibiant cyntaf yn Ogwen.

Ar ôl trefnu i gyfarfod Gerallt yn Pen y Pas am 12:00, dyma gychwyn fyny am Lyn Bochlwyd a ddringo r Gribin i gopa Glyder Fawr. Gwnaed hyn yn eitha chwim gan fod Mot wedi dechrau brathu sodlau. Mot ydi cyfaill dychmygol Erwyn J ac yn ôl pob sôn mae o yn eitha brathog pan fydd cerddwyr yn llusgo i traed. Mae Erwyn wedi perffeithio cyfarthiad Mot, o leia mae na rybudd cyn bob brathiad!

Wrth adael y copa a dod i olwg Pen y Pas dyma sylweddoli ein bod yn mynd i fod yno tua awr yn gynt na r disgwyl. Natho ni hefyd sylwi fod maes parcio Pen y Pas yn syndod o wag. Ar ôl cysylltu efo Gerallt cawsom wybod fod y ffordd i Pen y Pas wedi ei chau o r ddau gyfeiriad ar gyfer ras triathlon. Nath Gerallt gynnig ein cyfarfod yn Pen y Gwryd ond am ryw reswm doedd neb yn awyddus i neud y milltiroedd ychwanegol hynny.

Roedd Pen y Pas fel y bedd efo dim ond un neu ddau marshal Triathlon yno, profiad gwahanol iawn i r arfer. Gafon ni ddŵr yn yr hostel a rhannu hynny o fwyd oedd ganddo ni rhwng pawb cyn cychwyn fyny llwybr PYG. Oherwydd fod y ffordd wedi cau doedd na neb ar lwybr PYG chwaith, roedd hyn yn braf ac annisgwyl.

Erbyn cyrraedd gwaelod yr iagm ogam roedd pawb yn teimlo bod llwybr PYG yn llafurus ond efo Mot yn brathu doedd na ddim llacio ar y cyflymder. Ar ôl cyrraedd Bwlch Glas picio i gopa Carnedd Ugain ac yn ôl a cyfarfod Gerallt oedd wedi dod i gopa r Wyddfa atom. Gan nad oeddem wedi cael llawer o fwyd yn Pen y Pas dyma fanteisio ar y ffaith fod copa r Wyddfa yn gymharol ddistaw a mynd i r caffi am baned a gwledd o hot dogs a byrgyrs.

Wrth ddisgyn lawr llwybr Rhydd Ddu dyma ddod allan o r cymylau unwaith eto. Cawsom olygfeydd godidog a gweld y môr oedd yn edrych yn bell iawn o fan hyn. Ar ôl seibiant yn Rhyd Ddu, lle bu dipyn o sylw i draed, dyma gychwyn am Fwlch y Ddwy Elor a r môr yn dod yn nes bob cam. Ymlaen wedyn i lawr Cwm Pennant a dros Fraich i Gwm Ystradllyn lle natho ni gyfarfod Gerallt am y seibiant olaf. Efo pen y daith o fewn golwg aethom i ben Cwm Mawr mewn chwinciad cyn mwynhau r daith lawr allt pob cam i goed Nyrseri Tremadog.

Ar ôl cyrraedd Port, cerdded holl ffordd i r harbwr er mwyn cael deud ein bod wedi cyrraedd y môr a chael peint haeddiannol iawn yn nhafarn Y Pencei. Cafwyd groeso gan Idris oedd tu ôl i r bar ond dwi m yn siŵr iawn os oedd o n ein goelio ni pan gafodd ateb i w gwestiwn o lle da chi di gerdded”….

Diolch i bawb am ddiwrnod bythgofiadwy ac am fod yn griw hapus a siriol drwy r dydd. Diolch yn fawr iawn i Gerallt am ein cefnogi trwy r dydd, nawn ni faddau iddo am fethu ein cyrraedd yn Pen y Pas.

Tan yr her nesa….

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Dwynwen, Erwyn a Gerallt ar FLICKR