Taith Pen y Fâl 6 Rhagfyr

Dyma’r ail dro (o leiaf) i ni geisio’r glychdaith hon, ac rôn ni’n benderfynol i beidio gadael i’r tywydd ein trechu ni unwaith eto! Felly, serch y gwynt a’r cawodydd o law, wnaeth criw bach ond dethol o wyth mynyddwr dewr gwrdd ym maes parcio Crughywel i gerdded yr 11 milltir i gopa Pen y Fal (Sugarloaf i rai) ac yn ôl – ffigwr wyth via pentref Llangenny. (gwnaeth 3 o’r gwrp yrru ymlaen i gwrdd a’r lleill wrth y dafarn yn Llangenny – nid YN y dafarn, cofiwch). Dilyn yr afon Grwyne wedyn i Bont Millbrook lle cynhaliwyd cystadleuaeth Pooh Sticks. Roedd hi braidd yn wlyb dan draed ond chafon ni ddim glaw am yr awr gyntaf, a dim ond cawodydd wedyn (un yn eitha trwm). Yr unig fan serth oedd yr 300 llath olaf cyn y copa, pan gododd y gwynt o lefel cymedrol i lefel eithaf cryf. Ond ffeindion ni le cysgodol o dan y gopa i gael cinio – a ddaeth yr haul mas er mwyn i ni fwynhau’r olygfa hyfryd dros Ysgyryd Fawr i’r dwyrain.
Bach o sioc oedd gadael cysgod y creigiau a chodi’r ychydig fedrau i’r copa, lle oedd y gwynt wedi troi yn fwystfil – gyda hyrddiadau o tua 40 milltir yr awr. Ond o leiaf doedd neb arall ar y copa (sy’n anarferol iawn) ac ar ôl deng munud o afael yn dynn yn ein gilydd, cyrhaeddom y llwybr llydan gwyrdd sy’n dilyn y grib lawr i’r gorllewin, gyda golygfeydd hardd dros bentref Llanbedr draw i gopaon uchaf y Mynyddoedd Duon (Pen y Gadair a Waun Fach).
Ar ôl disgyn rhyw 300 m dyma ni’n ôl wrth yr afon Grwyne am daith hamddenol wastad yn ôl i Langenny. Y tro hyn roedd y dafarn ar agor, a buasai wedi bod yn anghwrtais i beidio mynd mewn. Ar ôl adfywio’r dyn (a dynes) mewnol, cerddodd 6 ohonom y filltir a hanner yn ôl i Grughywel – roedd y ddau arall yn dal mewn cyflwr i fynd a’r car yn ôl (jyst). Roedd pawb yn ôl erbyn 3.30 – digon o amser am baned a chawod cyn y cinio traddodiadol yn y Bear. 11milltir, 6 awr.
Adroddiad gan Richard Mitchley
Lluniau gan Richard a Dewi ar FLICKR
