Taith Goffa Gareth Pierce Eisteddfod Wrecsam 6 Awst
Croesawyd 35 o gerddwyr ar fore braf i faes parcio’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen. Criw amrywiol dros ben o bob oed, o bob rhan o Gymru a hyd yn oed Florida. Yn eu plith hefyd, roedd pedwar o bobl yn ‘blasu’.
Dechrau’r daith trwy gerdded ar hyd camlas Llangollen cyn troi i fyny’r llwybr ger Ysgol Dinas Brân a dringo’n serth i gopa’r bryn lle mae caer neu gastell wedi sefyll ers yr Oes Haearn. Cafwyd hoe bach yn adfeilion y castell er mwyn i bobl gael cyfle i fwynhau’r golygfeydd godidog.
I lawr â ni i’r bwlch cyn esgyn trwy’r creigiau calchfaen i’r ‘Panorama’. Yno, cafwyd cinio a mwynhau golygfeydd o Ddyffryn Dyfrdwy cyn ymuno â Llwybr Clawdd Offa a cherdded trwy’r coed i bentref Trefor. Dychwelyd i Langollen ar hyd y gamlas a chyrraedd y maes parcio tua 2.45.
Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog.
Adroddiad gan Richard Roberts.
Lluniau gan Richard, Aneurin ac Eirwen ar FLICKR