HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Y Cnicht 5 Gorffennaf


Dyma'r tro cyntaf i Sioned a finnau, (Anwen) arwain taith y Clwb, a'r man cyfarfod oedd maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Aberglaslyn cyn symud ymlaen a pharcio wrth Gelli Iago, ble magwyd y diweddar Michael Povey,  actor ac awdur drama.

Roedd naw ohonom, merched yn unig, Sioned Llew, Gaenor, Tegwen, Jano, Lynne, Sian, Alice, Sioned Prys a minnau. Penderfynodd Sioned a minnau y bysa'r llwybr yma ychydig yn wahanol i'r llwybr arferol o Groesor. Yn anffodus roedd y tywydd yn siomiant, niwl bron holl ffordd hyd at y diwedd. Piti garw a hithau y tro cyntaf i Sian a Lynne fynd i fyny'r Cnicht, a'r golygfeydd mor hardd fel arfer ar ddiwrnod clir. Doedd dim golwg o Lyn yr Adar, dim ond wrth dynnu lluniau ar lan y llyn, nag o Lyn Llagi ar y ffordd i lawr. Erbyn cyrraedd yn ôl i lawr o'r Cnicht daeth lygedyn o'r haul, ond wrth edrych yn ôl, roedd y Cnicht yn dal wedi ei orchuddio â niwl trwchus.

Wrth nesau at Lwynyrhwch, cartref oedd yn berchen i’r diweddar Colin Gresham, archeolegydd ac hanesydd, roedd corlan, gyda hen bwll dŵr ble fyddai'r ffermwyr yn golchi'r defaid yn yr hen oes. Credaf nad oedd yr un ohonom wedi gweld un fel yma o'r blaen.

Roeddem yn ôl yn y car erbyn 3.30pm, a traed rhai yn wlyb oherwydd fod y llwybr yn andros o wlyb. Roedd pawb reit awyddus i fynd adref yn syth, felly dim peint ar y diwedd y tro yma.

Diolch i bawb ddaru ddod, ac i'r rhai ddaru godi yn fuan i gyrraedd mewn amser.

Adroddiad gan Anwen Jones.

Lluniau gan Sioned Llew ar FLICKR