HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penwythnos Y Bannau 4-7 Gorffennaf


Dydd Gwener 4ydd. Bannau Sir Gâr.
Andras, Dylan, Gethin, Keith a Sandra yn cyfarfod ag Eryl (Pentrefelin) ac Eurig ym Mlaenau Llanddeusant, man cychwyn y daith.
Taith ddigon pleserus wrth i Eurig ein harwain ar hyd ysgwyddau Cefn Disgwylfa a Gwely Ifan y Rhiw i fyny ein copa gyntaf, Fan Foel (781 m). ymlaen yn unswydd at y copaon nesaf, Fan Brycheiniog (802 m) a Fan Hir (761 m), wedyn yn ôl i’r lloches ar gopa Fan Brycheiniog am Ginio, cyn ail ddechrau ac am Fannau Sir Gâr a chopa Picas Du (749 m) ei hun. Yn ôl wedyn ar hyd ysgwydd Waun Llefrith gyda golygfeydd anhygoel o Fannau Sir Gâr. Gyda diolch mawr i Eurig am ei gwmni a chroeso mawr wrth ein harwain ar daith mor braf.

Ailinor.
Wrth wneud y gorau o’r tywydd da cyn i'r glaw taro am y penwythnos, aeth Ailinor i ymarfer ei sgiliau mordwyo a chrwydro, Twmpa (690 m), Rhos Dirion (713 m), Twyn Talycefn (702 m) a Chwarel y Fan (679 m).

Dydd Sadwrn 5ed. Mynyddoedd Duon.
Ailinor, Anna, Andras, Dylan, Gethin, Keith a Sandra
Tywydd drwg oedd trefn y dydd am daith yma yn anffodus, ond er gweithfa'r tywydd cawsom ddiwrnod pleserus iawn wrth gychwyn cerdded o Fwlch yr Efengyl am Twmpa (680 m), Rhos Dirion (713 m), Twyn Talycefn (702 m) Tarren yr Esgob a chwblhau'r ysgwydd yma ar Chwarel y Fan (670 m) a chinio yn nhwll y cyn chwarel. Ymlaen a ni wedyn wrth ddisgyn yn sydyn o 560 m i lawr i 290 m a gwaelod y cwm. Seibiant bach yma wrth edrych ar y Capel y Ffin ac “Eglwys”. Dringo yn ôl yn serth wedyn wrth ddilyn llwybr Clawdd Offa, gyda chodiad o 347 m, i ddringo yn syth serth trwy redyn dros 6 troedfedd o uchder nes cyrraedd llwybr cerrig pwrpasol Clawdd Offa oedd yn mynd a ni i’r copa nesaf, sef Mynydd Du (703 m), lle y bu bron i ni fynd heibio i’r llyn bychan ar y copa, yn y niwl, heb sylwi arno. Yna am Penybegwn (677 m) ac ar hyd ysgwydd Ffynnon y Parc gyda golygfeydd gwych o’r ardal pan oedd y cymylau yn ein gadael. Diolch i Eurig am ei arweiniad anhygoel trwy gymaint o niwl, a hefyd i Digby am ymuno ac wedi trafaelio mor bell i ymuno gyda ni. Braf oedd eich cwmni.

Dydd Sul 6ed. Mynyddoedd Duon.
Eryl (Pentrefelin).
Aeth Eryl (Pentrefelin) i grwydro ei hun dros Mynydd Llysiau (663 m), Waun Fach (810 m), wrth gerdded yn bleserus yn ôl dros Pen Trumau i lawr i’r gyffordd a charn rhwng Mynydd Llysiau ac ar lwybr Cambrian (618 m). Yn sydyn wedyn yn nôl i lawr ar hyd Rhiw Trumau Cwmfforest  a ffermdy Hoel Llygoden cyn dringo yn serth eto i fyny Mynydd Troed (609 m).

Dylan, Gethin, Andras, Sandra, Ali
Pen Cerrig Calch (701 m), Pen Allt Fawr (719 m), Waun Falch (811 m), Pen y Gadair Fawr (800 m).
Wedi dod o hyd i'r man cychwyn (bendant ddim yn hawdd) dechreuwyd y daith o waelod Cwm Banw. Roedd wedyn yn her i ffeindio giât gyda'r arwydd 'to the hills', yn ôl Gethin. Roedd llyfr Dewi Prysor yn dweud mai dyma oedd y man cychwyn! Felly ar ôl straffaglu drwy redyn mawr wedi tyfu’n wyllt, daethom o hyd i'r giât! Felly, ‘mlaen a ni 'to the hills' wrth ddilyn yr arwyddion y ffordd Cambrian.
Ychydig o ddringo serth i'r Copa cyntaf, sef Pen-Cerrig-Calch (701 m). Roedd y llwybr yn amlwg iawn tuag at yr ail gopa, sef Pen Allt Fawr (719 m), felly mlaen a ni yn sionc iawn i gipio’r copa.
Y gwynt yn gostwng yn arw wrth i ni feddwl am gael cinio, felly dod o hyd i ychydig o gysgod yn Mynydda Llysiau, ddim wedi aros yn hir – dim ond amser i gael 'bacon a sosej bap' yr oedd y ddynes glên yn y gwesty wedi paratoi i ni!
Ymlaen a ni wedyn am tua 3 milltir cyn cyrraedd y trydydd Copa, sef Waun Fach (811 m), doedd fawr o sgwrs i gael erbyn hyn, pawb wedi blino ac yn meddwl am y siwrne adre! Y llwybr eto yn glir am y copa olaf, a chyrhaeddom ni gyd Pen y Gadair Fawr (800 m). “Mission accomplished” oedd wyneb pawb yn dweud, a pum munud bach i gael llond llaw o Haribos Harry Potter gan Gethin.
Nol i'r man cychwyn, ac yna cychwyn y siwrne hir adre am y gogledd. Diwrnod da o fynydda, pawb di mwynhau a gwerthfawrogi’r arweiniad a gafwyd gan y bechgyn lleol.

Adroddiad gan Keith Roberts.

Lluniau gan Keith ar FLICKR