O’r Ffin i’r Môr dros y Mynyddoedd 3-5 Mai
Mae ’n rhaid fi gyfaddef mod i yn dipyn o ‘mapaholic’ ac yn hapus i dreulio oriau yn edrych ar fapiau. Felly, be well na edrych ar fapiau o Gymru a chwlio am lwybrau y medrwn ei cyfuno i wneud taith ar draws Cymru. Dyna ddechrau ’r syniad o daith o ’r Ffin i ’r Môr a dyddiau lawer o droedio ’r llwybrau i wneud yn siŵr fod beth oedd yn bosib ar fap yn bosib ar y ddaear (doedd hyn ddim bob amser yn bosib!).
Ar ôl penderfynu ar drywydd a sylweddoli fod hi ’n mynd i gymeryd tri diwrnod i wneud y daith roedd angen penwythnos hir ac os am dywydd da pa well penwythnos na phenwythnos Sioe Nefyn, dydi hi bob amser yn braf? Beth bynnag, cawsom dywydd delfrydol, dim diferyn o law!
Roedd hefyd angen trefnu sut i gael pawb i ’r man cychwyn ac yn ôl ar ddiwedd y daith. Gyda rhyw lwc roedd hi ’n bosib defnyddio trenau y ddau ben a ddaru Trafnidiaeth Cymru ddim siomi.
Felly, ben bora dydd Sadwrn cychwynnodd Gerallt a fi, Trystan, Simeon ac Eryl Thomas ar y trên o Fangor i Gobowen gyda David yn ymuno â ’r trên yn Wrecsam a daeth Manon ar y trên o Aberystwyth i Gobowen. Ymlaen wedyn mewn tacsi drwy Groesoswallt i ble mae ’r ffordd yn croesi ’r ffin. Dwi ’n siŵr bod y gyrrwr tacsi yn meddwl ein bod ni ychydig yn od yn gofyn i gael ein gollwng ar y ffordd yng nghanol nunlle!
Roedd y cymal cyntaf o ’r daith yn dilyn llwybr Ceiriog drwy ardal o Gymru oedd yn anghyfarwydd i bawb ond ardal braf. Tra yn neud reci o ’r darn yma nes i daro ar Casey, sydd yn byw yn Tyn y Rhos wrth droed Y Berwyn, a sylwi fod ganddo dap dŵr allan felly gyda chaniatâd cawsom ddisychedu cyn cychwyn am y mynyddoedd. Er y paciau trwm roedd yn braf mynd dros gopaon Y Berwyn o dan awyr las.
Roedd cyrraedd Milltir Gerrig yn garreg filltir yn ei hyn ond roedd na ddwy awr arall o gerdded cyn cyrraedd y man gwersylla cyntaf. Roedd darn di lwybr efo grug at ein canol a wedyn ffordd goedwig oedd wedi ei racsio gan beiriannau cynaeafu coed yn brawf stamina ac roedd pawb yn falch o gyrraedd Cefn y Meirch. Roeddwn wedi cael caniatâd gan Jo sydd yn ffermio yma i gael gwersylla ac roedd hyd yn oed wedi sicrhau bod dim gwartheg yn y cae. Bu Jo hefyd yn ddigon caredig i sychu ddillad ac esgidiau Eryl ar ôl iddo gael anffawd wrth nôl dŵr o ’r afon…
Ar ôl cael ein deffro gan y gôg am tua 5:00yb roedd pawb yn barod i gychwyn cerdded yn reit handi. Ymlaen a ni drwy Gwm Hirnant a dros Bryn Ronwydd cyn disgyn drwy ’r goed i Glyn Gower. Ar ôl rhyw ddwy filltir ychydig yn ddiflas ar ffordd darmac dyma gyrraedd Llanuwchllyn lle roedd Iolyn wedi dod i ’n cyfarfod efo mwy o fwyd a dŵr. Cawsom hefyd groeso mawr gan Dyfir a ’r teulu, diolch am y bisgedi (dwi rioed di gweld dau baced o fisgedi yn diflannu mor sydyn).
Yr Aran oedd y nod nesa, dros Aran Benllyn ac am Aran Fawddwy. O fano roedda ni ’n gweld y man gwersylla sef copa Glasgwm, a diolch i Hedd Pugh Blaencywarch am gael caniatâd. Wrth osod y pebyll mi welwyd fod rhywbeth yn nofio yn Llyn y Fign a sylweddoli mai dafad oedd yn sownd yn y llyn. Wedi i Gerallt lusgo’r ddafad o ’r llyn y peth amlwg i neud wrth nôl dŵr oedd peidio meddwl faint o ddefaid oedd eisoes wedi boddi yn ein dŵr yfed.
Cafwyd gyda ’r nos hyfryd ar y gopa Glasgwm ond noson eithaf oer yn ein pebyll gan i ni ddeffro a chael y pebyll a ’n poteli dŵr wedi rhewi. Felly, efo pawb yn gwisgo pob dilledyn oedd ganddyn nhw dyma codi pac yn gyflym a cychwyn cerdded i gynhesu. Daeth Iolyn i ’n cyfarfod eto ym Mwlch Oerddrws ac roedd gryn rhyddhad medru gwagio rhywfaint ar y pac. Daeth Sonia i ’n cyfarfod yma hefyd ac ymuno am weddill y daith. Da oedd cael ei chwmni ac roedd ganddi hi ddigon o egni i dynnu lluniau.
Dros Waun Oer oedd y cymal nesa ac ar ôl croesi ’r ffordd ym Mwlch Llyn Bach dringo fyny am Gau Graig cyn mynd dros Mynydd Moel a Chader Idris. Ymlaen wedyn at ein copa olaf, Tyrrau Mawr, lle oedd modd gweld Bermo a diwedd y daith yn glir. Lawr pob cam i Arthog a Morfa Mawddach cyn croesi ’r bont.
Roeddwn wedi hanner meddwl byddem mi yn dal y trên am 6:00 ond mi aeth honno heibio ni ar y bont. Ar ôl llun hanfodol i gofnodi diwedd y daith, ar ein pennau fewn i ’r Last Inn am beint neu dri haeddiannol i ddisgwyl y trên nesa i Port. Cafodd Manon drên yn ôl i Aberystwyth hefyd ac unwaith eto Trafnidiaeth Cymru ddim yn siomi.
Diolch i pawb am eu cwmni hwyliog am dridiau cyfan a diolch yn arbennig i Iolyn am ein cefnogi.
Rwan ta, be fydd nesa i fodloni fy awydd mapaholic, be gawn ni fel yr her nesa tybed…..
Adroddiad gan Dwynwen
Lluniau gan Gerallt, Dwynwen, Sonia, Manon, David, Simeon a Eryl ar FLICKR
Dyma’r ystadegau:
23 Copa
58 Milltir
14,500 troedfedd o ddringo
31 awr o gerdded