HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dwyrain Bryniau Clwyd – Moelydd Gamelin a Morfydd 30 Mawrth


Pan gynnigiais I’r daith hon, rhai misoedd yn ôl pellach, doeddwn i ddim yn rhy siwr faint fyddai’n dewis ymuno, o ystyried pa mor ddi-arffordd yw hi i’r rhan fwya o’r aeoldau, ond pob yn dipyn, dyma enwau yn dechrau dod ymlaen i gofrestru eu diddordeb dros y tridau cynt (gyda un aelod wedi cofrestru ei ddiddordeb tua mis ynghynt!), braf oedd cael croesawu 15eg i ymuno a mi ar y daith.

Gyda phawb wedi cyrraedd mewn da bryd I’r man cwrdd – Caffi Ponderosa, Bwlch yr Oernant, dyma ni’n cychwyn ar ein taith. Mwy neu lai yn syth o’r maes parcio, roedd y dringo yn cychwyn, er mwyn cyrraedd y copa cynta – Moel y Faen.

Yma, cawsom gyfle i fwynhau’r olygfa odidog, o weddill Bryniau Clwyd, i fynyddoedd Eryri tua’r gorllewin, oedd a’u capiau gwynion i weld yn glir, wedi eira dydd Iau. Fel mymryn o chwarelwr, braf hefyd oedd cael trafod hanes a daeareg rhai o’r chwareli is-law. Mae’r lechfaen yma yn ddipyn iau nag llechfaen ardal siroedd Caernarfon a Meirionydd, ac wedi ei ffurfio yn y cyfnod Silwraidd. Dengys hyn yn safon y lechfaen – sydd ddim digon dygn i wrthsefyll elfenau’r tywydd, fellu mae’n ddi-werth ar gyfer llechi to, ac yn hytrach, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu slabiau ac ati, a llawer o’r tomenydd pellach yn cael eu chwalu i gynhyrchu aggrigad.

Wedi’r seibant byr, dyma ymadael o lwch sgwrs y chwarel, ac anelu am y copa nesa – pwynt ucha’r daith, sef Moel Gamelin. Rhyw daith o fyny a lawr oedd y daith, gyda dipyn o ddringo a cholli uchder, digon yn wir i un aelod ei chymharu a reid “roller-coaster” mewn ffair!

Ymlaen a ni wedyn, i lawr a mwy o ddringo i gyraedd Moel y Gaer. Fel mae’r enw yn awgrymu, hen Gaer sydd yma, yn deillio o’r oesau a fu. Ardal go gyfaethog o fryn-gaerau mae’n debyg, a gwelwyd Castell Dinas Bran yn y pellter.

Ar ôl egwyl, paned a rhywbeth sydyn i fwyta, dyma parhau a thema’r daith, sef colli uchder ac yna dringo eto! Y tro hwn, rhaid oedd dringo yn o serth at y copa ola, ac at trig-bwynt Moel Morfydd. Tynnwyd y “copa-lun” traddodiadol o’r cwmni, cyn anelu i lawr, at y llwybyr byddai’n ein tywys yn ôl i’r man cychwyn. Llwybrau hawdd, cymharol sych ar y cyfan, oedd yn groeso, wedi’r holl fyny a lawr blaenorol!

Cafwyd egwyl byr am ginio nid nepell o fferm Tan y Foel. Rhywsut, trodd y sgwrs yn un ddifrifol o wleidyddol, a cryn ddipyn o drafod coeth, a phrocio tafod yn y boch, wrth i rhai geisio cael eraill i “frathu’r abwyd”. Os fyth clywch am blaid wleidyddol newydd yn y misoedd nesa, o’r daith hon y’i ffurfwyd – wnai ddim son mwy!!

Taith weddol fyr, o thua dwy filltir oedd o’n blaenau ar ôl yr egwyl a’r “party Political”, i gyrraedd diwedd y daith.

Bum yn ffodus iawn o’r tywydd, a braf oedd cael clywed i bawb fwynhau y daith – mewn ardal sy’n weddol anghyfarwydd i lawer dwi’n siwr.

Carwn ddiolch o waelod calon i bawb ag ymunodd, a gwnaeth y baich o arwain taith yn un ysgafn, braf a rhwydd!

Y cwmni difyr oedd: Dafydd Dimbych, Gaenor, Tegwen, Keith, John Arthur a Gwyn Llanrwst, Eirlys a Iolyn, Huw Mallwyd, Erddyn, Arwel Roberts, Dilys ac Aneurin, Sian Shakespear, a Richard Roberts.

Adroddiad gan Erwyn.

Lluniau gan Aneurin ac Erwyn ar FLICKR