HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ceunant Cynfal 24 Ionawr


Gyda glaw trwm ar y dydd Mawrth a’r dydd Iau, bu criw dydd Mercher yn lwcus i gael diwrnod sych i gerdded Ceunant Cynfal, ger Llan Ffestiniog ar 24 Ionawr 2024.

Wedi cyfarfod o flaen y Pengwern, Llan Ffestiniog, ar ei newydd wedd, teithiwyd mewn ceir at y Bont Newydd ar y ffordd rhwng Llan a Gellilydan. Dilynwyd llwybrau eitha llithrig y ceunant wedyn a rhyfeddwyd at ffurf creigiau’r ceunant a luniwyd gan lif yr afon dros y canrifoedd. Wedi edmygu nyth – cigfran, o bosib - ar glogwyn uchel gyferbyn â’r llwybr, dilynwyd y ceunant i lawr at Bont Tal-y-bont a dringo’n ôl ar yr ochr ogleddol; wedi mynd i mewn i warchodfa natur Ceunant Cynfal islaw pentref Llan Ffestiniog cafwyd cip ar y rhaeadr trawiadol a phulpud Huw Llwyd a saif yn rhyferthwy’r llif.

Wedi’r daith, cafodd y rhai oedd wedi teithio o’r gorllewin a’r gogledd gyfle i alw yn yr Oakeley, Maentwrog, am sgwrs a phaned a mwy.

Diolch i Nia Wyn a Meirion, Winnie, Mags, Arwel, Raymond, John Arthur, Margiad, Anet, Gwyn, Rhiannon a Bryn am eu cwmni rhadlon arferol. Hen dro, Dafydd, am y diffyg gwynt yn nheiar y car ar fore’r daith – y tro nesaf, ella?!

Adroddiad gan Haf Meredydd.

Lluniau gan Haf ag Anet ar FLICKR