HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Llan 23 Mawrth


Er rhagolygon y tywydd, dyma saith ohonom yn cwrdd yn maes parcio hen lôn Nant Gwynant ger y cyn Capel Bethania. Capel gafodd ei adeiladu yn wreiddiol yn 1822 ac wedyn ei ail-adeiladu yn 1867 fel capel y plwyf Nant Gwynant. Wedi iddo gau ei drysau fel addoldy, fe’i brynwyd gan bobl y pentref a’i drosi’n dŷ bwyta yn 2015. Tŷ bwyta sydd bellach yn poblogaidd iawn ac yn alwad sawl unigolyn ar ddechrau neu ddiwedd taith i'r copaon.

Dal y bws i Ben y Gwyryd oedd y cam cyntaf, yna, ac ar gyrraedd, “a theimlad croes i'r graen,”  i lawr o 280 medr i waelod Nant Cynnyd a phwerdy Cwm Dyli, sy’n eistedd ar 70 medr uwchben lefel y môr. Cychwyn o’r pwerdy yn serth a syth i fyny at ben y bibell danfon dwr i’r pwerdy ar ben Nant Aderyn, sy’n 310 medr uwchben mor, codiad o 240 medr. Dilyn y bibell wedyn nes cyrraedd Llyn Llydaw, a seibiant bach o’r gwynt main ac ychydig o hanes yr ardal cyn anelu am Fwlch Merch a mymryn o sgrialu ar ei man uchaf a thoriad byr am ginio. Yma cawsom ein golygfa gyntaf o’r llinell hir o bobl o Fwlch y Moch yn disgwyl sgrialu, ac yn sgrialu, ar Crib Goch

O Fwlch Merch wedyn am ddau gopa Lliwedd, yn araf wrth sgwrsio am hyn a llall. Yma’n mwynhau'r golygfeydd o’r afon Glaslyn yn llifo am y môr a’r ardal o’i chwmpas, a gweddill copaon Eryri i'r de a phellach. Dyma gyrraedd y ddau gopa yn ddi-stŵr, lle cafodd sawl un y fraint o gwblhau'r ddau Lliwedd am y tro gyntaf. Yna lawr a ni i'r torfeydd o bobl yn mentro'r llwybr Watkin am gopa'r Wyddfa, a sawl un oedd wedi troi yn ôl syllu ar ei uchder. Un ddi-stŵr wedyn, i lawr a ni i Gwm y Llan a nôl i'r man cychwyn.

Diolch am gwmni Trystan Evans, Gethin Rowlands, Andras Williams, Ifan Jones, Gareth Hughes a Sandra Parry ar ei thaith gyntaf.

Adroddiad gan Keith Roberts.

Lluniau gan Keith ar FLICKR