HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Mynyddoedd y Berwyn 20 Ebrill


Braint oedd cael cwmni 11 o aelodau Clwb Mynydda Cymru ar fore Dydd Sadwrn braf. Richard, Keith, Eifion Thomas, Eifion, John Arthur, Erwyn, Iolyn; Sandra (arweinydd), Sioned, Gaenor, Eirlys a Sharon a ei thaith flasu cyntaf efo’r clwb.

Roedd yr haul yn gwenu pan gychwynom o faes parcio Tan-y-Pistyll, piciad sydyn at waelod y Rhaeadr am sesiwn tynnu lluniau cyn cychwyn ar hyd y llwybr ac anelu am Graig y Llyn.

Golygfeydd arbennig wrth gerdded ochor wrth ochor Nant y Llyn nes cyrraedd Llyn Llyncaws am ein stop cyntaf am banad wrth y Llyn. Braf oedd cael yr haul yn gynnes ar ein wynebau; Wrth sgwrsio tarodd rhywbeth lygaid Sioned wrth iddi edrych drwy ei ysbienddrych ac welodd rhywbeth coch a du yn y bellter wedyn roedd pawb yn trio dyfalu beth oedd allai ei fod????

Er mor braf oedd eistedd yn yr haul, ymlaen a ni heibio Craig y Llyn am gopa Moel Sych. Pum munud fach ar y Copa cyn anelu am Gadair Berwyn. Cafwyd cyfle i dynnu lluniau arbennig ar hyd y ffordd ac fe benderfynom cael cinio wrth Garnedd Cadair Berwyn.

Cawsom fwy o gyfle i dynnu lluniau ar Gadair Berwyn gyda Keith yn cymryd drosodd rôl (role) Gerallt Pennant gan rhoi trefn ar bawb efo’i ffôn hunlun telesgop yn ei law wrth drio cael lluniau call o bawb! Ar ôl lot o chwerthin aethom ymlaen at Gadair Bronwen ac panad arall ar fwrdd Garnedd Arthur ar Gadair Bronwen.

Aethom yn ôl lawr yr un ffordd hyd at gadair Berwyn cyn troi lawr am Moel yr Ewig. Aeth criw fach ohonom ymlaen yn waelod Moel yr Ewig i chwilio am gopa arall (yn ôl pob sôn medda Eirlys) yr oeddent wedi ei ddarganfod; hynny yw, nes i Iolyn ddweud wrthynt yn wahanol!

Wrth fynd lawr heibio Llyn Llawcus, dyma ddarganfod beth oedd yr UFO a welsom yn gynharach; beic quad coch a du oedd wedi rowlio lawr o’r mynydd! Wrth gwrs, fel dyn yn llawn gwybodaeth diddorol, roedd gan Keith stori i ddweud am pa mor hir oedd y quad wedi bod yno; hanes petrol a petroleum oedd i gael wedyn ac felly darganfod nad oedd y beic quad wedi bod yno yn hir iawn! Roedd rhaid wedyn i Keith gael tynnu ei lun ar gefn y quad a ffansio ei hun fel ffarmwr!!! Fe aethom wedyn yn ôl yr un ffordd i’r man cychwyn yn ôl at ein ceir.

Cawsom peint yn y New Inn, Llangynog, ac fe arhosodd rhai ohonom ymlaen am wledd o fwyd yno cyn cychwyn nol am adre.

Diwrnod bythgofiadwy.

Adroddiad gan Sandra Parry

Lluniau gan Sandra ar FLICKR