HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Taith yr Alban 18-24 Chwefror


Ar ôl rhai blynyddoedd gwerth chweil yn mynydda yn ardal Crianlarich, dychwelyd yno ac i’r Crianlarich Hotel wnaeth 23 o fynyddwyr y clwb fis Chwefror eleni.
“Lle mae’r eira?” Dyna gwestiwn sawl un ar ôl y daith hir i Crianlarich a’r copaon yn bopeth ond gwyn.
Ond ar ôl diwrnodau o fynydda yn y glaw a’r niwl ac ambell ysbaid heulog, daeth eira trwchus gan roi amodau gaeafol o’r radd flaenaf.
Llongyfarchiadau i Gerallt Pennant ar gwblhau ei her o ddringo holl funros Yr Alban; 282 i gyd. Dyma gofnod o’r teithiau.

Sul 18 Chwefror

Munros: Buachaille Etive Beag, Stob Dubh, Stob Coire Raineach
Criw: Dwynwen, Gerallt, Iolyn, Dei, Catrina, Sandra, Anna, Rob, Carys, Sioned Prys, Anwen, Sioned Llew, Elen Huws, Catrin Huws, Catrin Bethesda, Manon, Gethin, Andras, Keith, Gareth Everett, Marc, Alun, Curon, Matthew, Owain, Dylan, Trystan
Aeth criw o 26 i gefnogi Gerallt wrth iddo ddringo ei 282fed Munro. Cychwyn o Glen Coe i fyny Stob Dubh yn gyntaf cyn gorffen ar Stob Coire Raineach lle roedd gosgordd o fynyddwyr swnllyd a balch yn chwifio’u ffyn yn yr awyr i greu bwa oedd yn arwain Gerallt at gopa ei 282fed Munro.
Roedd wisgi, cwrw, Prosecco a chrys-t arbennig yn aros amdano a llymaid i bawb.
Beth oedd gan Gerallt i’w ddweud ar ddiwedd ei gamp?
“Gwell munro dan draed na dau mewn llwyn. Mor ddiolchgar i bawb oedd yno am y croeso a’r gyfeddach yn y Clachaig wedyn.”
Llongyfarchiadau i Gerallt, a hefyd i Anwen a Sioned ar ddringo eu dau Munro cyntaf.

Munros: Carn Aosda, Carn a’Gheoidh, The Cairnwell
Criw: Gareth ac Ifan
Wedi teithio i ganolfan sgi Glenshee lle’r oedd mymryn o eira a dyrnaid o sgïwyr arno, dringodd Gareth ac Ifan dri chopa. Tywydd sych a chlir gydag ysbeidiau heulog ond gwynt digon main.

Llun 19 Chwefror

Munros: Beinn Dorain, Beinn an Dothaidh
Criw:  Anna, Sioned Prys, Anwen, Carys, Sioned Llew, Dwynwen, Gerallt, Gethin, Andras, Trystan, Dylan, Gareth Everett, Manon, Marc, Curon
Dringo am gopa Beinn an Dothaidh yn gyntaf, yna yn ôl i’r bwlch cyn anelu am Beinn Dorain lle gadawodd Anwen a Sioned Llew - well oedd ganddyn nhw fynd am y Bridge of Orchy Hotel na mynydda mewn glaw.
Ond lwcus i’r ddwy ei heglu hi am y bar gan iddyn nhw gyfarfod y rhedwr mynyddoedd Stephen Pyke  a lwyddodd i ddringo holl Munros Yr Alban mewn 39 diwrnod, 9 awr a 6 diwrnod yn 2010, gweld ceirw ac achub ci o’r lôn...!

Munro: Schiehallion
Criw: Sandra a Keith
Cychwyn o faes parcio Braes of Foss a cherdded trwy’r goedwig cyn gweld Schiehallion yn glir o’u blaenau. Golygfeydd at Loch Tummel hyd at Beinn a’Ghlo.
Roedd eira wedi disgyn yn drwchus wrth nesàu at y copa a cafodd Sandra y fraint o weld aderyn Ptarmigan am y tro cyntaf. “Wel, am bethau bach del,” oedd ymateb Sandra. “Yn ôl Keith Tân maen nhw yn tyfu plu bach gwyn dros eu traed, ac yn creu rhyw fath o esgidiau eira iddyn nhw eu hunain. Dwi’m yn siŵr o’r stori hon ond fe gredais hi ar y pryd.”
Paned ar y copa oedd dan niwl a dychwelyd yn ôl i’r man cychwyn.

Munros: Meall Greigh a Meall Garbh
Criw: Alun, y ddwy Gatrin, Elen.
Dringo dau Funro mwyaf dwyreiniol cadwyn Ben Lawers o westy Ben Lawers ar lan Loch Tay.

Taith tir isel
Criw: Iolyn a Dei
Cerdded o Bridge of Orchy yn ôl i Crianlarich. Yn ôl Dwynwen, dim ond 12 milltir o daith oedd hi ond roedd Dei yn mynnu ei bod hi yn 16. Cawl gwych yn y Green Welly.

Mawrth 20 Chwefror

Munro: Beinn Narnain
Criw: Gareth, Ifan, Andras, Gethin, Keith,
Cychwyn o Arrochar fel roedd y glaw yn peidio. Dringo i fyny llwybr oedd yn fwy o nant gan gyrraedd copa Beinn Narnain a chael picnic yn yr haul. Lawr ochr orllewinol y mynydd a dychwelyd i’r car ar lawr y dyffryn a thrwy’r coed. Glaw yn dychwelyd wrth gyrraedd y car.

Munros: Beinn Narnain a Beinn Ime
Criw: Sandra, Dwynwen, Gerallt, Marc plymar, Anna, Trystan, Dylan, Curon, Gareth Everett, Sioned, Anwen, Carys, Sioned Llew.
Yn y bore mae ei dal hi! Cychwyn o Arrochar i fyny am Beinn Narnain wnaeth y criw yma hefyd ond cychwyn yn gynt gyda’r bore bach. Taith wlyb iawn a sgramblo trwy’r corn simdda i gyrraedd copa Beinn Narnain.
Disgyn i gwm Bealach a’Mhaim lle wnaeth rhai droi yn eu holau. I’r saith aeth yn eu blaenau am gopa Beinn Ime roedd awyr las a phantiau o eira (gyda rhai’n ei groesi’n fwy gosgeiddig nag eraill) nes cyrraedd copa Beinn Ime. Aeth Dwynwen yn ei blaen i ddringo Beinn Veinn tra dychwelodd y chwech arall i’r man cychwyn heibio The Cobbler gan ryfeddu ar ei nodweddion dramatig a’i siap fel ton.

Munro: Beinn Vane
Criw:  Siân Shakespear, Catrin, Elen, Manon
Dilyn awgrymiad doeth Manon a cherdded i fyny Ben Veinn o’r dwyrain. Llwyddo i gadw allan o’r gwynt cryf gorllewinol tan y copa un. Golygfeydd da a heulwen ac awyr las ar brydiau. “Da ydi diwrnod pan mae’r tywydd yn well na’r disgwyl”.

Diwrnod i ffwrdd: Alun
“Darllen llyfr yn y gwesty – traed lan!”

Mercher 21 Chwefror

Munro: Beinn Dubh
Criw: Gareth Everett
Mae sawl un wedi dod yn enwog yn sgil eu llyfrau neu ddyddiaduron taith... Thomas Pennant, Captain Scott, Jan Morris... ac efallai bydd modd ychwanegu Gareth Everett at y rhestr rhyw ddydd.
Dyma gofnod o’i ymgais i gyrraedd copa Beinn Dubh:
“Trio mynd fyny mynydd Ben Dugh. Dewis dilyn ffordd goedwigaeth yn lle llwybr iawn. Colli’n ffordd yn y goedwig, i gadw allan o’r gwynt a’r glaw uffernol. Methu ffeindio’r llwybr, troi yn ôl. Ffeindio’n hun rhwng dwy afon a gorfod dringo dros goeden i groesi’r afon. Cyrraedd ’nôl yn wlyb doman a dim un tic. Ar ddiwedd y dydd, wnes i gychwyn yn rhy fuan yn lle mynd yn pnawn fel pawb arall.”

Munro: Ben Vane
Criw: Gareth, Ifan, Keith, Anna, Gethin, Andras
Munros: Ben Vane
Bore hamddenol yn Crianlarich (glaw di-baid). Gyrru lawr i Inveruglas a chychwyn cerdded mewn glaw ysgafn i gyfeiriad cronfa Loch Sloy. Dechrau dringo llethrau Ben Vane fel roedd y glaw yn peidio. Dringfa serth, heriol a hynod ddifyr wrth i’r llwybr weu yn gyfrwys rhwng y creigiau serth. Cyrraedd y copa gwastad gyda phwll bas yn y canol i rywfaint o haul a golygfeydd da o Beinn Narnain, The Cobbler a Beinn Ime. Lawr i’r dyffryn cyn iddi dywyllu a cherdded yn ôl at y car yng ngolau’r lleuad dros Loch Lomond.

Munros: Ben Vorlich (Loch Lomond)
Criw: Dwynwen, Dylan, Sandra, Manon
Ben Vorlich o’r Dwyrain. Cychwyn ychydig i’r de o Ardlui. Byddai Eryl Penmachno yn falch o ymdrech y criw yma – dim llwybr o gwbwl!

Munro: Ben Chonzie
Criw: Alun, Elen, Catrin
Gyrru i Glenn Turret. Cerdded ar hyd y Loch ac i’r bwlch yn y pen draw. Dim gwynt tan cyrraedd pen uchel bwlch. Brwydro yn erbyn y gwynt i gyrraedd y copa. Balch iawn o gyrraedd y gysgodfan yno. Nôl yr un ffordd.

Diwrnod yn Fort William

Roedd rhai eisiau diwrnod i ffwrdd o fynydda a hithau’n ganol wythnos. Dyma gofnod Sioned Llew o’i diwrnod hi, Sioned Cricieth, Gerallt, Curon, Anwen, Carys a Sioned Prys.
“Trên 10.21 i Fort William – taith hyfryd o sbio drwy’r ffenest ar gopaon pell a sawl stori a lluniau o’u dringo gan Gerallt. Crôl o amgylch y siopau awyr agored yn gyntaf, cyn cael egwyl ddiolchgar am ginio allan o’r gwynt a’r glaw yn y Grog and Gruel. Byrgyr venison/haggis a llymaid o gwrw lleol i fagu egni at her y prynhawn.
Crôl o amgylch y tafarndai nesaf; The Crofter, The Voluntere Arms, cyn concro uchafbwynt y dydd, Ben Nevis Beer
Bodlon oeddem cyn troi am adra. Yn goron ar y cwbwl, cap Wee Jimmy a morio chwerthin ar y daith gyfforddus yn ôl. Curon yn ymweld â’r barbwr o’i wirfodd.”

Iau 22 Chwefror

Munro: Beinn Chabhair
Criw: Keith, Sandra, Dafydd, Siân Shakespear
Cychwyn o Drovers Inn ac i fyny heibio’r pistyll. Tywydd gwlyb ar y cychwyn ond troi yn eirlaw ac yna eira trwchus yn nes at y copa. Taith bleserus a digon o hwyl.

Munros: Beinn Achaladair a Beinn a’Chreachain
Criw: Dwynwen, Gerallt, Carys, Sioned, Anwen, Sioned Llew, Curon, Gareth Everett, Alun, Elen, Dylan, Andras, Gethin, Manon, Anna.
Eira, eira, eira! Diwrnod hir o gerdded mewn amodau gaeafol caled; pawb a’u pigau bach, pigau mawr, caib a gogyls efo nhw. Ar ôl dringo’r ddau gopa a gweld ambell garw ar y ffordd, disgyn heibio llyn fynydd yng ngolau’r lloer cyn gwisgo torch pen i groesi afonydd a nentydd ar lwybrau isel yn ôl at y car.

Munros: Meall Corranaich a Meall a’Choire Lèith
Criw: Gareth a Ifan
Tywydd sych efo dipyn o haul a golygfeydd da o gefnen Ben Lawers. Ambell gawod o eira ger y copaon. Roedd dyrnaid o bobl eraill allan ar y mynyddoedd hefyd.

Gwener 23 Chwefror

Munros: Stob a’Choire Odhair a Stob Ghabhar
Criw: Dwynwen, Gerallt, Anna, Dylan, Andras, Gethin, Elen, Catrin Huws.
Diwrnod o eira trwchus iawn lle cafodd pawb ddefnydd da o’u ceibiau rhew. Dringo am gopa Stob a’Choire Odhair gydag eira meddal dan draed ac awyr las yma ac acw. Aeth Catrin ac Elen yn eu holau ac aeth gweddill y grŵp ymlaen i ddringo Stob Ghabhar. Dringo llethr eang mewn eira trwchus ac ennill uchder cyn croesi crib a dod at lethr esmwyth i ddilyn ffens i fyny at gopa Stob Ghabhar. Hwyl ar y ffordd i lawr wrth benderfynu slejo ar ben-olau mewn mannau. Cael eu cyfarch gan sawl carw wrth gyrraedd y car. Peint haeddiannol i orffen yn y Bridge of Orchy Hotel.

Trip i Tyndrum: Sioned Cricieth a ddywedodd “Beth am i bawb anghofio am y mynyddoedd yma heddiw a dod efo ni i Tyndrum” gan hudo ambell un yno gyda hi.

Munro: Meall Ghaordaid
Criw: Sandra a Keith
Cychwyn o’r maes parcio cyfyng ger Duncroisk mewn haul braf ar dir gwlyb a mwdlyd. Yna dilyn ceunant yr afon Allt Dhuin Croisg cyn troi am yr ysgwydd hir am gopa Meall Ghaordaid lle roedd tir gwlyb yn troi’n eira trwchus. Cyrraedd y copa heb fawr o olygfeydd cyn mynd i lawr ac ymuno am beint gyda’r criw oedd yn y Rod and Reel.

Munro: An Caisteal
Criw: Manon, Curon, Everett
Cryn drafferth yn cyrraedd y copa oherwydd eira dyfn mewn llefydd, wedi lluwchio, a mwy o drafferth fyth disgyn i Bealach Buidhe. Penderfynu peidio dringo’r llethr serth i Beinn a’Chroin ond dilyn y nant i lawr i Coire Earb ac Afon Falloch yn ôl i’r A82.

Diwrnod o ymlacio
Criw: Gareth ac Ifan
Diwrnod ymlaciol a cherdded rhan o’r West Highland Way rhwng Crianlarich a Tyndrum.

Sadwrn 24 Chwefror

Munro: Ben Lomond
Criw: Dwynwen, Manon, Andras, Gethin, Gerallt.
Amodau Alpaidd, eira ac awyr las i’r pump oedd dal ar ôl tra roedd y rhan fwyaf yn teitho am adref!

Munros: Dringo Glas Maol a Creag Leacach
Criw: Gareth ac Ifan
Gwnaeth Gareth ac Ifan y mwyaf o’r amodau Alpaidd hefyd. Amodau perffaith – haul, awyr las, dim gwynt ac eira braf dan draed. Yn ôl Gareth: “Cawsom gwmni dyn o Rachub i gyd-gerdded o gopa Glas Maol ymlaen. Diweddglo da.”

Diolch o galon  i Keith am drefnu gwyliau arbennig i bawb, ac i bob un a fu’n arwain ar y teithiau gan roi profiadau gwerthfawr.

Adroddiad gan Anna George

Lluniau gan Anna ar FLICKR