HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Y Glyderau a'r Garn 14 Ionawr


Er yr amser cyfarfod buan daeth 14 o aelodau i Nant Peris erbyn 8:00, pawb yn frwdfrydig ac yn awyddus i cael mynydda mewn amodau gaeaf. Y criw oedd Anwen, Sioned, Carys, Dylan, Dafydd Legal, Sian S, Awen, Alice, Eryl, Trystan, Anna, Sandra, Gerallt a fi.

Dyma ddal y bws o Nant Peris ac wrth gwrs aeth pawb ond ein criw ni oddi ar y bws yn Pen y Pass a mynd am Y Wyddfa. Braf felly oedd cyrraedd distawrwydd Pen y Gwryd ond yn anffodus nath hi ddechra bwrw ar yr union adeg. Dyma cychwyn fyny llwybr y mwynwyr i fyny i gyfeiriad Llyn Caseg Fraith ond unwaith ar y llwyfandir troi am y Glyderau. Toc wedi cychwyn y ddringfa am gopa Glyder Fach, a’r glaw wedi troi yn eira, roedd gryn dipyn o rew dan draed a felly dyma roi y piga bach ymlaen. Efo pawb, ond yr un aelod sydd dros y blynyddoedd wedi datblygu y ddawn o aros ar ei draed heb biga (gewch chi ddyfalu pwy), efo’i piga bach ymlaen dyma fynd am y copa.

Gyda’r hyder yn y piga bach aeth bron pawb i ben y gwyliwr a chael y llun hanfodol wrth gwrs. Ymlaen wedyn heibio Castell y Gwynt ac am Glyder Fawr, roedd yr eira yn arafu ond oedda ni dal fewn yn y cymylau ac yn gweld dim. Erbyn cyrraedd copa Glyder Fawr roedd y cymylau wedi codi digon i ni weld copa’r Garn, yr olygfa gaeafol yn edrych yn drawiadol dros ben. Ar ôl cinio sydyn (rhy oer i sefyllian) ger Llyn y Cwn oedd wedi rhewi yn solat ymlaen i’r ddringfa ola am gopa’r Garn.

O gopa’r Garn disgyn lawr i Nant Peris drwy Cwm Gafr a Bwlch Dinas ac ar ein pena fewn i’r Faenol am beint haeddiannol.

Pawb wedi mwynhau’r amodau gaeaf ac ambell un wedi cymharu llwyfandir Y Glyderau i Narnia…! Diolch i bawb am eu cwmni llon a’u brwdfrydedd.

Adroddiad gan Dwynwen.

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR