HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhan o Grib Nantlle o Gwm Pennant 10 Chwefror


Ar ôl y rhybuddion cyson am eira trwm, dyna ryfeddod oedd canfod, at ddiwedd yr wythnos, nad oedd unrhyw eira yn yr arfaeth o gwbl ar gyfer dydd Sadwrn y daith i Gwm Pennant. A dyna ddiwrnod braf a gafwyd – awyr las, heulwen a golygfeydd clir i bob cyfeiriad. Pawb mewn hwyliau da cyn cychwyn, felly.

Ar ôl rhannu ceir i gyrraedd, parciwyd wrth Egwlys Plwyf Dolbenmaen cyn teithio mewn tri car i fyny’r ffordd gul i Gwm Pennant. Wedi parcio ger y bont a’r pwll yn yr afon Dwyfor ble mae pobl yn nofio yn yr haf (neb awydd!) aed ymlaen ar hyd a tarmac am ychydig cyn troi am Dyddyn Mawr ac yna ymuno â’r hen dramffordd a gysylltai chwarel y Prince of Wales yng Nghwm Trwsgl â Chwm Ystradllyn. Dilyn hon at olion y chwarel, a dringo trwy rheini at Fwlch y Ddwy Elor. Hoe yn fanno, tu ôl y wal, a phawb yn mwynhau teimlo gwres yr haul gwanwynol ar eu hwynebau, a ninnau allan o’r awel fain.

Tynfa serth wedyn  i fyny Trum y Ddysgl, gan groesi draw ar hyd crib y mynydd i’r copa ei hun. Troi am y gorllewin i gyrraedd Mynydd Tal-y-Mignedd. Cinio yma o dan y tŵr cerrig a godwyd gan y chwarelwyr i ddathlu jiwbilî y frenhines Fictoria (roedd hi’n oes frenhingar!) Disgyn yn serth wedyn at Fwlch Dros Bern, ac yna dringfa go sylweddol i gopa uchaf y diwrnod, sef Craig Cwm Silyn (734 m). Paned yma yn y gysgodfan, cyn croesi’r gefnen lydan at gopa Garnedd-Goch. Dros y wal yma a throi am y de-ddwyrain, oddi ar y grib, gan gerdded trwy rug, a dilyn, mwy neu lai, y wal ar fraich ddwyreiniol cwm anghysbell Cwm Ciprwth. Cyrraedd llawr y cwm, ac wrth ddilyn glan afonig Ceunant Ciprwth, dod at olion hen waith copr y cwm, gyda’i olwyn ddŵr pum troedfedd ar hugain sydd wedi ei hadfer gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bu cryn ddiddordeb yn hon, gyda ambell un yn ceisio cael yr olwyn i droi, dw i’n credu! Dod allan o fowlen y cwm, a dilyn llwybr lawr trwy goed derw a bedw yn syth at y ceir.

Diwrnod o fynydda amrywiol mewn tywydd annisgwyl, a hyfryd, o braf. Diolch am gwmni Rhisiart, Gwenlli, Nia, Siân S., Dylan, Keith, Dafydd L, Sandra, Gwyn R. a Tegwen, a braf iawn oedd croesawu aelod newydd atom, Huw Parry o ardal Pwllheli.

Adroddiad gan Elen Huws.

Lluniau gan Keith a Richard ar FLICKR