HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Y Cnicht a’r Moelwynion 6 Ionawr


Does dim byd tebyg i dywydd braf i fynydda i roi pobl mewn hwyliau da, a dyna gafwyd ar y daith yma, ar ôl cyfnod hir o dywydd llwm dros gyfnod y Nadolig. Yr agosaf y deuai’r dyddiad (a felly y mwyaf sicr y rhagolygon, am wn i), yr hwyaf yr ai’r rhestr o gerddwyr, gan gyrraedd ugain ar un pwynt! Fodd bynnag, gyda rhai yn anwydog, 16 ohonom gychwynodd i fyny’r Cnicht o Groesor.

Cafwyd ambell gawod wrth esgyn (rhyw dywydd ro-i-nhrowsus-glaw-ta-peidio), ond ychydig iawn o law gafwyd ar ôl cyrraedd copa’r Cnicht. Yn wir, roedd na hwyliau gorfoleddus wrth eistedd am ein ‘cinio cyntaf’ – roedd digon llonydd i ni eistedd ar y copa, roedd y gwelededd yn ardderchog, gyda golygfeydd hyfryd o’r mynyddoedd yn eu lliwiau gaeafol i bob cyfeiriad, ac aber y Glaslyn yn sgleinio odditanom. I goroni y cwbl, cawsom barti penblwydd – Keith yn dathlu, a Sandra wedi dod â chacen gartref flasus yn ei sach.

Rhoddwyd prawf ar ddiddosrwydd ein esgidiau yn y cymal nesaf o’r daith wrth groesi tir gwlyb iawn o gyffiniau Llyn yr Adar i chwarel Rhosydd. Cafwyd ail ginio yma yng nghanol adfeilion y gwaith, a phrysurdeb y gorffennol. Aethpwyd ymlaen i fyny’r inclên i gyfeiriad y Moelwyn Mawr. Gyda’r dydd yn fyr, roedd rhaid penderfynu yma a oeddem am ddal ati i ddringo’r Moelwyn Bach, neu cael taith mwy hamddenol i lawr braich orllewinol y Moelwyn Mawr. Wel, doedd dim amheuaeth – dal ati meddai pawb! Felly, ar ôl paned sydyn ar y copa, ymlaen â ni; chydig o sgramblo hawdd dros Graigysgafn, lawr i Fwlch Stwlan ac i fyny’r llwybr clir i gopa’r Bach. Oedi i edrych ar y golygfeydd godidog, wedyn lawr y fraich â ni am y ffordd fach wrth ochr y goedwig gan ddychwelyd i’r maes parcio yng Nghroesor efo amser i sbarin cyn iddi dywyllu.

Diod bach yn y Ring i roi terfyn llon ar y diwrnod.

Diolch i Trystan, Dylan, Sandra, Gerallt, Dwynwen, Keith, Erwyn, Gaenor, Rhys, Gwyn (Llanrwst), Siân, Gethin, Andras, Alice ac Awen am eu cwmni hwyliog a brwdfrydig!

Adroddiad gan Elen Huws

Lluniau gan Gerallt ac Elen ar FLICKR