HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Epynt 24 Mehefin


Dyma unarddeg ohonom yn cyfarfod wrth adeilad yr ymwelwyr ar fynydd Epynt.

Syndod oedd i bawb gorfod teithio yno trwy glaw a niwl gan fod y tywydd wedi bod mor heulog ers tro byd. Dan arweiniad Guto dyma ddechrau ar ein taith. Braf oedd cael cwmni Guto gan fod Sadwrn i ffwrdd ganddo oddiar yr holl redeg ultras yma mae yn ei wneud yn aml. I ddweud y gwir roedd wedi rhedeg recci y daith yma o 12 milltir! (rhywbeth i bob arweinydd ystyried gwneud efallai !!).

Mae arwyddion llwybr Epynt wedi eu nodi yn glir gan bystion pob tua can metr. Yn sicr, mae hyn yn cadw rhywun ar y llwybr cul heb yn ddamweiniol grwydo i dir milwrol y mynydd. Roedd arwyddion perygl a flagiau coch yn sicr yn ein cadw ar y llwybr iawn. Nodwyd gan Guto cyn dechrau y daith i beidio, o dan unrhyw amod. godi unrhyw beth milwrol megis bwledi neu flares ayyb rhag ofn ei bod dal yn fyw. Yn wir, daethant ar draws sawl eitem amheus.

Tir agored iawn oedd o’n cwmpas gyda ehangder canolbarth Cymru i’w weld yn glir am filltiroedd. Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen roedd y tymheredd yn codi ar haul yn disgleirio uwch ein pennau. Braf oedd cael seibiant i ginio wrth nant fechan gan fwynhau dawnsfeydd gweision y neidr ar y dŵr. Wrth agosau tuag at yr heol dyma glywed screch yr hebog tramor ger clogwyn yn agos ac yn wir gyda ysbienddrych roedd modd gweld y fam yn bwydo un ciw. Uchafbwynt y daith i rai.

Gweler nesaf copi o ran o adroddiad ysgrifenwyd gan Pens ar ol iddo arwain taith ar Epynt yn 2019. Rwyn siwr y bydd yn maddau imi ei ddefnyddio gan ei fod yn digrifio rhan olaf ein taith nôl i’r man cychwyn.

“a cherdded ar y B4519 tuag at y Ganolfan. Ar y ffordd gwelsom rai o'r tai a'r ffermydd y gorfodwyd i'r Cymry eu gadael yn 1940. Dim ond ychydig rybudd a gafwyd a chollodd 219 o bobl eu cartrefi, a 54 o dai drwy orfodaeth gorchymyn prynu tir. Ardal hollol Gymreig oedd hon ac fe'i collwyd yn gyfangwbl erbyn Mehefin 1940.

Rhoddwyd enwau Saesneg ar yr adeiladau a ddefnyddir fel lloches i'r milwyr, ond bellach mae arwyddion newydd wedi'u gosod arnynt gyda'r enwau gwreiddiol – dangos rhywfaint o barch.

Ar y ffordd gwelwyd Ffrwd Wen – symudodd y teulu i Llanwrthwl. Drovers Arms - y dafarn ond cragen lloches bellach ac enw'r Drovers Arms a Ministry of Defence odditano yn rhoi halen ar y briw. Yr enw Drovers yn amlwg gan fod yr ardal yma yn yr hen amser yn enwog wrth i'r Porthmyn groesi yma o Orllewin Cymru i fynd â'i cynnyrch i lefydd fel Aberhonddu ac ymhellach. Symudodd Mrs Caroline Evan a'i mab i Capel Uchaf  rhyw 3 milltir i ffwrdd. Yn ôl yn y Ganolfan (neu Disgwylfa) gwelir fodd arddangosfa ddifyr o hanes yr ardal yn bodoli ac yn agored i'r cyhoedd gyda lle i gofnodi sylwadau.

Yr unig sylw posib.............. COFIWCH EPYNT”.

Adroddiad gan Dewi, gyda chopi rhannol gan Pens (taith 2019).

Lluniau gan Dewi ar FLICKR